
Fel y llun uchod dwi’n cofio Gareth F – y wên a’r llygaid direidus, llawn sglein. Ond mae’r wên a’r sglein wedi’n gadael, gan adael anferth o dwll yn y byd llyfrau Cymraeg ac ym mywydau pawb oedd yn ei nabod.
Roedd o’n gariad o foi ac yn awdur gwych, fel mae’r ffaith ei fod wedi ennill Gwobr Tir na-nOg chwe gwaith yn ei brofi. Roedd ei lyfrau ar gyfer oedolion yn rai arbennig – yn enwedig Awst yn Anogia, y llyfr Cymraeg gorau i mi ei ddarllen erioed.

Ond blog am lyfrau plant a phobl ifanc ydi hwn i fod, ac roedd Gareth wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer yr oedran yna – am ei fod o’n dal mor ifanc ei hun yn ei ffordd o feddwl a’i agwedd at fywyd, am wn i.
Mae ‘na nifer ddarllenodd ‘O ddawns i Ddawns’ ac ‘Adref heb Elin’ 
yn ystod eu dyddiau ysgol yn y 1990au yn dal i’w cofio’n glir, flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae ‘Anji’ ( ar gyfer yr arddegau) hefyd yn gampwaith,
a’r darn am y fam yn poenydio ei merch drwy actio bod yn fochyn ymysg y pethau mwya pwerus i mi eu darllen erioed.
Roedd ‘Hwdi’ mor frawychus, mi fu’n rhaid i mi ei rhoi i lawr i gael fy ngwynt ataf cyn medru dal ati. Roedd o’n wych am greu tensiwn: Jara, Y dyn gwyrdd, Tacsi i’r tywyllwch, y ddwy nofel am y Ddwy Lisa, Eira Mân, Eira Mawr…



Roedden nhw i gyd yn dywyll a chelfydd a hynod, hynod gyffrous.
Roedd y ddwy ddiweddar: Y Gêm a Cwmwl Dros Y Cwm yn gampweithiau oedd yn dod â hanes yn fyw i bobl ifanc – ac oedolion.
Roedd ganddo ddychymyg ffantastic, hynod weledol ac roedd Ifor ap Glyn isio gwneud ffilm o Mei ling a Meirion,
nofel fer ( ar gyfer oedolion) wedi ei gosod yn ardal Porthmadog, oedd mor annwyl iddo fo. Ond roedd y rhan fwya o’i nofelau â photensial ffilm ynddyn nhw.


Mi fydda i wastad yn annog bechgyn sydd ddim yn hoffi ffuglen i ddarllen hwn:

Rhyfedd o Fyd – Llyfr am y creaduriaid (neu’r bwystfilod) rhyfedd mae rhai yn dweud sy’n bod go iawn, fel Bigfoot, anghenfil Loch Ness ac ati. Gwnaeth Gareth gryn dipyn o ymchwil i mewn i’r pwnc ar gyfer hon, ond roedd o’n gwybod gryn dipyn beth bynnag gan fod creaduriaid o’r fath wedi bachu ei ddychymyg ers ei blentyndod.
Os nad ydach chi wedi darllen un o lyfrau Gareth eto, gwnewch. Mae ‘na ddigonedd yn y siopau ( ar wahân i Awst yn Anogia – sydd allan o brint ond falle y caiff ei ailgyhoeddi rwan?) neu ewch i’ch llyfrgell leol. Un ffordd o gadw’r atgof am rywun yn fyw ydi drwy ddarllen eu geiriau nhw.
A thrwy ddathlu eu gwaith a’u bywyd nhw, fel y digwyddodd efo Roald Dahl eleni. Braf fysa cael diwrnod i ddathlu Gareth F ryw dro.
Roedd Penwythnos Anferthol Caernarfon mor llwyddiannus, dwi’n siwr y gwelwn ni rywbeth tebyg eto. Mi ges i’r fraint o roi gweithdy creu cewri yng ngardd gefn siop Palas Print, a dyma rai lluniau i chi dynnwyd gan Iolo Penri. Dwi wedi eu dwyn o dudalen FB Palas Print, ond dwi’n siwr y byddan nhw’n fodlon i mi wneud hynny!
Mi ges i goblyn o hwyl efo’r criw, a gwirioni efo’u doniau a’u syniadau nhw – rhai yn hollol boncyrs! Mi fysa Roald Dahl – a Gareth F wedi gwirioni hefyd.