
Dyma i chi flog diddorol am agweddau at lyfrau merched/bechgyn.
https://readitdaddy.blogspot.com/2018/09/boys-dont-read-books-featuring-girls.html?utm_source=dlvr.it&utm_medium=twitter&m=1
Mae rhai rhieni yn gyndyn o brynu llyfrau maen nhw’n eu hystyried yn lyfrau ‘merched’ i’w meibion, a vice versa. Dim byd newydd yn hynny, ond dydan ni ddim yn sôn am lyfrau pinc, fflyfflyd fan hyn ond llyfrau normal gyda chlawr a theitl fel hyn:

Ond merch ydi’r awdur (Gabrielle Kent) a merch ydi’r prif gymeriad, a dyma rywbeth roddodd hi ar Twitter yn ddiweddar:
“So, I’ve been spending a lot of time in bookshops signing #KnightsAndBikes, and I’ve noticed something that reeeeaaally bothers me. Lots of adults are stopping boys from reading books with female protagonists!”
Mae’r peth yn hurt ond mae o’n digwydd. Dwi’n cofio pan sgwennais i Ceri Grafu

(Ia – merch ar y clawr, a merch ydi’r prif gymeriad ond mae hi am bêl-droed a dwi wedi cyfarfod llawer iawn o fechgyn sydd wedi ei mwynhau hi) gofynodd Y Lolfa i mi sgwennu un arall yng nghyfres Pen Dafad ond wedi ei hanelu at fechgyn, a dyna pam sgwennais i Pen Dafad.

Ond y chwaer fach ydi fy hoff gymeriad i…
Gofynwyd i mi anelu Llinyn Trôns at fechgyn hefyd, ac mi wnes, gan roi merched cryf ynddo hefyd.

Y gred ydi y gwnaiff merched ddarllen unrhyw beth ond bod bechgyn yn mynnu cael llyfrau sydd ddim yn peryglu eu statws fel bechgyn tyff, caled, sy’n gwneud pethau ‘bachgennaidd’.
Dyna pam fod Joanne Rowling wedi cytuno i ddefnyddio’r llythrennau JK Rowling ar ei llyfrau Harry Potter, am fod y cyhoeddwyr yn poeni na fyddai bechgyn yn fodlon darllen llyfr gan ddynes.

Ond y mwya dwi’n siarad efo bechgyn a mynd i ysgolion, dwi’n gweld nad oes llawer o ots/bwys gan y bechgyn, ac mai’r STORI sy’n bwysig. Ai eu rhieni sy’n bod yn hen ffasiwn? Neu ai rhywbeth newydd ydi hyn? Dwi’n eitha siwr bod bechgyn ers talwm wedi mwynhau darllen am helyntion Madam Wen a Luned Bengoch – achos dydyn nhw byth jest am y ferch yn unig nacdyn? Ac roedd Enid Blyton wastad yn cynnwys merched a bechgyn yn ei llyfrau. Mae bechgyn wrth eu boddau efo Matilda, tydyn?

Ac onid yw bechgyn yn mwynhau darllen am Na, Nel?

Mae’n debyg bod siopwyr weithau’n gofyn ‘Ble mae eich llyfrau ar gyfer bechgyn?’ A’r gwirionedd ydi – maen nhw’n bob man. Dwi rioed wedi gweld unrhyw lyfrgell na siop yn rhannu llyfrau i silffoedd ‘bechgyn’ neu ‘ferched’ – byddai’r peth yn hurt! Ond iawn, gan fod llai o fechgyn yn darllen na merched, mae angen bod yn fwy cyfrwys weithiau i’w perswadio bod darllen yn hwyl.
Mae rhieni weithiau’n gofyn ar wefannau fel Facebook am lyfrau Cymraeg addas i’w meibion 7 oed sydd ddim yn hoffi darllen – iawn, mae modd eu cyfeirio at yr Henri Helynts ayyb (addasiadau…) ond oes raid diystyru llyfrau sydd â merched yn brif gymeriadau?
Dyma rywbeth arall ddywedodd Gabrielle Kent:
“Reading about kick ass girls having awesome adventures, solving mysteries, and saving the world teaches boys to see girls in a different light to the ones they see screaming at rubber spiders in toy adverts. Let boys read the stories they want to read. Books are for everyone!”
Amen. Rhowch y gorau i wneud i’ch meibion feddwl bod rhywbeth o’i le efo darllen am ferched! Mae na lond dosbarthiadau o hogia bach digri, direidus sy’n gwirioni efo llyfrau o bob math, ac o mhrofiad i, y STORI a’r HIWMOR sy’n bwysig yn yr oed yna. Ac yn hŷn hefyd o ran hynny.
Dyna pam dwi’n poeni dim mai merch ydi prif gymeriad llyfrau Cadi, gen i. Bachgen, Tyler o Ysgol Bro Cinmeirch, roddodd y syniad i mi am y nesa yn y gyfres – Cadi a’r Deinosoriaid.

A dwi’n gwybod y bydd bechgyn a merched wrth eu bodd efo’r ffaith fod deinosoriaid yn cnecu/pwmpian!

Gan mod i wedi bod yn ddigon ffodus i gael glanio ar ynys llawn o eliffantod môr (elephant seals) 
rai blynyddoedd yn ôl, yr hyn drawodd fi fwya amdanyn nhw (ar wahân i’r ffaith eu bod mor fawr a rhyfedd yr olwg) oedd y ffaith eu bod yn drewi ac yn gollwng gwynt bron yn ddi-baid. A dyma feddwl – mae’n siŵr bod deinosoriaid yr un mor wyntog, doedden!
Hefyd, dwi’n cofio gweld llyfr bach hyfryd yn Norwyeg, (gan blant y boi sy’n gwybod lot am wleidyddiaeth, Richard Wyn Jones,
fel mae’n digwydd) oedd yn gyfieithiad o’r Almaeneg:

am dwrch bychan oedd yn flin am fod rhywun wedi gwneud ei fusnes ar ei ben o ac yn chwilio am yr anifail euog

Ystyr y teitl yn fras ydi – ‘y twrch bach oedd yn gwybod nad oedd o’n ddim o’i fusnes o’ ac mae o’n wirioneddol ddigri – ac addysgiadol! Fel y gwelwch chi, mae ‘na fersiwn saesneg ar gael, ac mi wnes i gynnig ei gyfieithu i’r Gymraeg flynyddoedd yn ôl ond doedd gan neb ddiddordeb. Hmff. Mae’r cynnig yn dal yna. Mae cyfieithu llyfr o iaith heblaw’r Saesneg yn fater gwahanol, tydi?
Ta waeth, mae ‘na bwmps/cnecs a phŵ yn stori Cadi. Ac mae’r braciosawrws yn siarad efo acen y de, ocê? Pam? Am mod i’n trio apelio at blant (o bob rhyw) o bob rhan o Gymru – a dwi wrth fy modd efo’r gair ‘cnecu.’