O’r diwedd, dwi wedi darllen ‘Y Ddinas Uchel’ gan Huw Aaron. Wnaeth y gyfrol ddim ennill Gwobr Tir Na n-Og eleni, ond roedd hi ar y rhestr fer (roedd Huw wedi gwirioni!) ac yn llawn haeddu bod arni.
Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei feddwl ers blynyddoedd, ac mae ôl gwaith meddwl arni. Dydi sgwennu llyfr llun a stori i blant ddim yn digwydd dros nos, wyddoch chi!
Mae llyfr fel hyn fel arfer ar gyfer plant dan 5 oed, ond mae ‘na neges fan hyn sy’n addas i blant hŷn hefyd. Dwi’n siŵr y byddai brawd neu chwaer hŷn wrth eu bodd yn darllen hon i frawd neu chwaer iau. Ond byddai rhieni a neiniau a theidiau – unrhyw un a deud y gwir – yn hapus iawn hefyd.
Stori ydi hi am ferch fach o’r enw Petra sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl ofnadwy o brysur. Drwy’r dydd, bob dydd maen nhw wrthi fel morgrug yn adeiladu tyrau uchel.
Dyna’r cwbl sy’n bwysig iddyn nhw – adeiladu. Dim bwys o ble mae’r cerrig yn dod na be fydd yn digwydd os fydd y tyrrau’n disgyn – adeiladu ydi PWRPAS BYWYD.
Ond mae Petra’n wahanol…
Ac wrth astudio’r byd a phethau ‘bychain’ bywyd, mae hi’n dechrau holi ei hun – a’r oedolion – ai dim ond adeiladu sy’n bwysig mewn bywyd?
Un diwrnod, mae Petra’n gweld balŵn aer poeth yn yr awyr uwch ben y ddinas – a dynes fach yn y fasged oddi tani…
Be fydd yn digwydd? Gaiff Petra fynd yn y balŵn gyda hi? A be welith hi o’r balŵn? Bydd raid i chi gael gafael yn y llyfr i weld drosoch chi’ch hun. Ar gael o’ch siopau llyfrau lleol, ond hefyd, drwy’r wefan hon:
https://www.huwaaron.com/shop/yabds8cboecfm76iboq1hag685iu31
Bydd pob llyfr gaiff ei brynu drwy’r wefan yn cael ei arwyddo gan Huw. Gadewch iddo wybod os hoffech chi gael neges bersonol.
Mae hon yn stori hyfryd, annwyl gyda neges glir – does dim angen dilyn pawb arall fel dafad! Ac oes, mae ‘na fwy i fywyd na gwneud pres/adeiladu/ gweithio drwy’r dydd, ac oes, mae angen jest ymlacio a sbio a syllu weithiau. Rhywbeth mae llawer iawn wedi ei sylweddoli dros gyfnod Covid-19.
Dyma fideo difyr am sut aeth Huw ati i greu’r llyfr:
A dyma adolygiad Morgan Dafydd:
https://www.sonamlyfra.cymru/post/y-ddinas-uchel-huw-aaron
Llyfr Saesneg wedi ei osod yng Nghymru
Ar ochr Saesneg Gwobr Tir na n-Og, wnaeth ‘The Secret Dragon’ gan Ed Clarke ddim ennill chwaith, ond roedd y nofel hyfryd hon wir yn haeddu bod ar y rhestr fer hefyd. I blant tua 7/8 oed a hŷn (mae ‘na eiriau reit anodd weithiau).
Mi wnes i ddotio oherwydd:
1. Y draig fach annwyl o’r enw Gweeb (er mod i jest â drysu isio iddi fod yn Gwib);
2. Mari, y ferch fach glyfar, styfnig sydd isio bod yn wyddonydd, ond sydd angen dysgu gwersi pwysig am bethau symlach bywyd;
3. Dylan: hogyn clen sy’n llawer gwell efo anifeiliaid na Mari;
4. Yr hwyl a’r hiwmor a’r darnau “O na, plis, naaa!”
5. Yr enwau a’r lleoedd Cymraeg.
6. O, ac mae ‘na ‘bobl ddrwg’ da yma hefyd!
Dau lyfr sydd wedi fy ngwneud yn hapus.