Dwi newydd orffen darllen Yr Horwth, y nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc gan Elidir Jones. Mi wnai gyfaddef yn syth i mi gael trafferth efo hi ar y dechrau, ond efallai mai arna i oedd y bai am hynny, nid y llyfr. Mae rhywun wedi blino ddiwedd nos tydi? A doedd fy mhen i ddim yn gallu delio efo’r holl gymeriadau ar y dechrau; ro’n i’n gorfod ail-ddarllen yr un tudalennau yr ail a’r trydydd noson.
Dyma un o luniau Huw Aaron o rai o’r cymeriadau cyntaf i ni ddod ar eu traws:
OND – a sylwer ar y llythrennau breision yn fan’na – pan wnes i fachu amser call i roi mwy o sylw iddi yn yr haul yn yr ardd, mi ges i fy machu go iawn! Roedd y stori’n cydio a’r cymeriadau’n glir, a nefi, mi wnes i fwynhau.
Felly, os fyddwch chi, fel fi, wedi drysu ar y dechrau, daliwch ati – mi fydd o werth o.
Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas o’r arddull:
A dyma dudalen arall, sy’n dangos peth o’r ddeialog, ac yn cyflwyno Heti, un o fy hoff gymeriadau:
A dyma lun o chwip o gymeriad arall, Sara o’r Coed (gafodd ei magu yn y coed) ac sy’n gogydd gwbl anobeithiol:
Mae ‘na gymeriadau gwrywaidd wrth gwrs, ac mae’r rheiny’n cydio hefyd, fel Pietro y mynach a Nad y consuriwr – hiwmor gwych gan hwnnw.
Do’n i ddim yn siŵr am y lluniau i ddechrau. Oes eu hangen? A fyddai’n well gadael i ni eu dychymygu ein hunain? Roedd y map cyntaf un o Diroedd Gwyllt y De braidd yn rhy ffidli i mi; ro’n i angen mwy o ofod gwyn i fedru ei “ddarllen.” Ond ar y llaw arall, ro’n i wrth fy modd efo lluniau fel hwn:
Roedd y lluniau o’r gwahanol greaduriaid peryglus/od mae’r criw yn eu cyfarfod yn ddifyr hefyd. A wnes i rioed feddwl y byddwn i’n syrthio mewn cariad efo mwydyn neu bry genwair anferthol a hynod ddiolwg, sy’n gallu cnoi drwy graig, ac sydd ddim hyd yn oed yn dweud gair o’i ben. Ond wir i chi, rhywsut, mae Elidir Jones wedi llwyddo i greu cymeriad arbennig, a rhoi enw cwbl annisgwyl ond perffaith iddo fo hefyd. Bydd raid i chi ddarllen Yr Horwth eich hun i weld be ydi’r enw a pham mod i wedi dotio cymaint at fwydyn.
Ro’n i wrth fy modd efo’r stori a dychymyg a hiwmor yr awdur, a dwi wir yn edrych ymlaen at weld be fydd yn digwydd nesa yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch. Ond fydd hi’n gwerthu? Dyna’r broblem efo llyfrau ffantasi yn Gymraeg erioed am ryw reswm, ac yn bendant, mae angen mwy o farchnata ar hon. Does fawr neb wedi clywed amdani, ac yn sicr nid y bobl ifanc. Ond os dach chi’n berson ifanc sy’n mwynhau darllen – rhowch gynnig arni da chi. Mi wnaeth yr oedolyn yma ei mwynhau hi, felly does dim angen i chi fod yn ifanc chwaith! Ond dwi’n deud y bregeth honno o hyd tydw?
Athrawon, rieni, lyfrgellwyr, darllenwch hon er mwyn gallu ei hargymell i ddarllenwyr ifanc sy’n chwilio am rywbeth gwahanol. Hoffi Lord of The Rings? Wel, triwch yr Horwth. Dwi wedi sylwi bod y rhan fwyaf o nofelau ffantasi Saesneg ar gyfer pobl ifanc wedi eu sgwennu gan – a’u hanelu at – ferched, y dyddiau yma. Dyn sgwennodd hon, dyn sy’n amlwg wedi gwirioni efo’r genre ffantasi, ac mae ‘na flas cwbl wahanol iddi.