steampunk

All posts tagged steampunk

Published Medi 11, 2019 by gwanas

DSC_0123 2

Ble’r aeth yr haf? Mae o wedi diflannu a minnau wedi bwriadu gwneud cymaint… ond dyna be sy’n digwydd pan dach chi’n trio gorffen nofel a gweithio mewn maes carafanau yr un pryd. Y bont ger ein gwersyll ni ydi honna yn y llun gyda llaw, ond fis Tachwedd llynedd. Mae ‘na englyn wedi ei gerfio i garreg ynddi, er gwybodaeth.

Ta waeth, ro’n i wedi bwriadu mynd i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth cyn Awst 22 i weld arddangosfa ‘Darlunwyr Cymreig | Welsh Illustrators’ o arlunwyr llyfrau plant dros y blynyddoedd. Ond dyma ni – ganol fis Medi a wnes i’m cyrraedd, drapia. Fuoch chi yno? Ges i golled?

Roedd ‘na rai yn luniau o lyfrau sy’n cael eu hystyried yn glasuron: Sali Mali a Sion Blewyn Coch, Rala Rwdins, Deian a Loli ac ati.

A lluniau gwych Elwyn Ioan ar gyfer llyfrau Cadwgan:

Ioan, Elwyn, b.1947; Cadwgan yn Cyrraedd Treseilotumblr_nxmiyd1YQL1u61jdmo1_1280

Ond weles i mo’nyn nhw! Gawn ni arddangosfa arall, fwy yn rhywle yn fuan os gwelwch yn dda?

Ymddiheuriadau hefyd, dwi ddim wedi cael llawer o amser i ddarllen llyfrau plant chwaith – rhai oedolion sydd wedi bod yn fy hudo yn ddiweddar, a dwi wir wedi mwynhau Babel (y nofel steampunk/agerstalwm gyntaf erioed yn Gymraeg) gan Ifan Morgan Jones a Carafanio gan Guto Dafydd.

Gwenu a chwerthin a phorthi gyda Carafanio, a rhyfeddu at ddychymyg a phlotio clyfar Ifan yn Babel. Fydd yr un o’r ddwy gyfrol yn apelio at bobl sydd ddim yn hyderus iawn eu Cymraeg; mae’r iaith yn Babel yn o anodd ar brydiau, ond os ydach chi’n ddarllenwyr profiadol, wel ewch am rhain ar bob cyfri. Mae ‘na hymdingar o blot yn Babel, a rhywbeth i’ch synnu yn gyson, tra bod Carafanio yn fwy hamddenol – dywed yr awdur/prif gymeriad mai ystyr carafanio yw ‘derbyn nad yw bywyd mor gyffrous â’r disgwyl.’ Ha!

Dwy gyfrol gwbl wahanol, i’w darllen mewn ffyrdd gwahanol. Edrychwch ar y cloriau eto – maen nhw wir yn rhoi darlun i chi o dempo a naws y llyfrau. Do’n i wir methu rhoi Babel i lawr ar ôl y 2-3 pennod gyntaf, ond roedd hi’n braf gallu jest darllen pennod neu ddwy o Carafanio ar y tro a phendroni drostyn nhw heb deimlo brys i gydio ynddi eto. Byddai Babel yn gwneud chwip o ffilm, a dwi’n disgwyl clywed rhywun yn perfformio ambell ddarn o Carafanio ar lwyfan yr Eisteddfod, fel monolog.

O, a tydi ‘agerstalwm’ yn derm gwych am ‘steampunk’? Os nad ydach chi’n gwybod be ydi hwnnw, gŵglwch/ecosaiwch. A darllenwch Babel!

Llyfrau plant tro nesa, addo.