Babel

All posts tagged Babel

Published Medi 11, 2019 by gwanas

DSC_0123 2

Ble’r aeth yr haf? Mae o wedi diflannu a minnau wedi bwriadu gwneud cymaint… ond dyna be sy’n digwydd pan dach chi’n trio gorffen nofel a gweithio mewn maes carafanau yr un pryd. Y bont ger ein gwersyll ni ydi honna yn y llun gyda llaw, ond fis Tachwedd llynedd. Mae ‘na englyn wedi ei gerfio i garreg ynddi, er gwybodaeth.

Ta waeth, ro’n i wedi bwriadu mynd i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth cyn Awst 22 i weld arddangosfa ‘Darlunwyr Cymreig | Welsh Illustrators’ o arlunwyr llyfrau plant dros y blynyddoedd. Ond dyma ni – ganol fis Medi a wnes i’m cyrraedd, drapia. Fuoch chi yno? Ges i golled?

Roedd ‘na rai yn luniau o lyfrau sy’n cael eu hystyried yn glasuron: Sali Mali a Sion Blewyn Coch, Rala Rwdins, Deian a Loli ac ati.

A lluniau gwych Elwyn Ioan ar gyfer llyfrau Cadwgan:

Ioan, Elwyn, b.1947; Cadwgan yn Cyrraedd Treseilotumblr_nxmiyd1YQL1u61jdmo1_1280

Ond weles i mo’nyn nhw! Gawn ni arddangosfa arall, fwy yn rhywle yn fuan os gwelwch yn dda?

Ymddiheuriadau hefyd, dwi ddim wedi cael llawer o amser i ddarllen llyfrau plant chwaith – rhai oedolion sydd wedi bod yn fy hudo yn ddiweddar, a dwi wir wedi mwynhau Babel (y nofel steampunk/agerstalwm gyntaf erioed yn Gymraeg) gan Ifan Morgan Jones a Carafanio gan Guto Dafydd.

Gwenu a chwerthin a phorthi gyda Carafanio, a rhyfeddu at ddychymyg a phlotio clyfar Ifan yn Babel. Fydd yr un o’r ddwy gyfrol yn apelio at bobl sydd ddim yn hyderus iawn eu Cymraeg; mae’r iaith yn Babel yn o anodd ar brydiau, ond os ydach chi’n ddarllenwyr profiadol, wel ewch am rhain ar bob cyfri. Mae ‘na hymdingar o blot yn Babel, a rhywbeth i’ch synnu yn gyson, tra bod Carafanio yn fwy hamddenol – dywed yr awdur/prif gymeriad mai ystyr carafanio yw ‘derbyn nad yw bywyd mor gyffrous â’r disgwyl.’ Ha!

Dwy gyfrol gwbl wahanol, i’w darllen mewn ffyrdd gwahanol. Edrychwch ar y cloriau eto – maen nhw wir yn rhoi darlun i chi o dempo a naws y llyfrau. Do’n i wir methu rhoi Babel i lawr ar ôl y 2-3 pennod gyntaf, ond roedd hi’n braf gallu jest darllen pennod neu ddwy o Carafanio ar y tro a phendroni drostyn nhw heb deimlo brys i gydio ynddi eto. Byddai Babel yn gwneud chwip o ffilm, a dwi’n disgwyl clywed rhywun yn perfformio ambell ddarn o Carafanio ar lwyfan yr Eisteddfod, fel monolog.

O, a tydi ‘agerstalwm’ yn derm gwych am ‘steampunk’? Os nad ydach chi’n gwybod be ydi hwnnw, gŵglwch/ecosaiwch. A darllenwch Babel!

Llyfrau plant tro nesa, addo.

Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy

Published Awst 14, 2019 by gwanas

Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst:

20190807_093802

Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis:

9781784617158

a Mudferwi gan Rebecca Roberts:

Mudferwi-clawr

Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae’r rheina i gyd – heblaw Horwth efallai? Ond dydi hwnnw ddim yn edrych fel un ar gyfer plant, chwaith. Mi wnai adael i chi wybod wedi i mi eu darllen i gyd, a chan mod i angen gorffen sgwennu fy nofel fy hun yn y cyfamser, mi allai fod yn sbel go lew, iawn?

Roedd hi’n Steddfod hyfryd, er ei bod hi wedi bod yn amhosib gweld a chlywed bob dim. Doedd darllen stori Sali Mali ynghanol y sŵn a’r miri yn y Pentre Plant ddim yn hawdd (diolch i bawb wnaeth aros!) ac mi ges i fodd i fyw yn cyfarfod ffans Cyfres y Melanai ar stondin y Cyngor Llyfrau:


Diolch arbennig i Courtney o Lundain am ddod i chwilio amdana i ar ol y sesiwn arwyddo (roedd ei nain yn canu ar y llwyfan yr un pryd â’r sesiwn arwyddo swyddogol…).

Gyda llaw, mi fues i’n sbecian rownd y cefnau a dyma sut mae staff y CLLC yn llwyddo i lenwi’r silffoedd drwy’r wythnos:
20190805_144234

Sgwrs ro’n i wir am fod yn ran ohoni oedd yr un am amrywiaeth mewn llyfrau plant, ond ro’n i’n brysur yn cynnal gweithdy sgwennu ar y pryd…

20190806_112329

Ond mae ‘na erthygl am y drafodaeth ar BBC Cymry Fyw fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49255371?fbclid=IwAR3OHkG5mH2NqdCVRLUerNntqFvT2hjZLCGtj-gjCJabW6rPywno2ehQP4E

A dwi’n cytuno 100% efo Elin Haf Gruffudd Jones y dylai cyhoeddwyr llyfrau o Gymru edrych ar gyfresi o dramor er mwyn cael gwell amrywiaeth. Pam troi at lyfrau Saesneg o hyd? A deud y gwir, dwi newydd gytuno i gyfieithu llyfr plant oedd yn Almaeneg yn wreiddiol… mwy am hynny eto – ond DWI WRTH FY MODD!

A newyddion gwych o lawenydd mawr: mae Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wedi lansio cystadleuaeth er mwyn cael mwy o nofelau ar gyfer oedolion ifanc. Gwobr o £1,000 ar gyfer y penodau cyntaf & synopsis! Mae gynnoch chi tan Chwefror 20fed 2020, a dyma fwy o fanylion:

Cystadlaeuaeth llunio Nofel 2019

Brysiwch i feddwl am syniad – a SGWENNWCH!

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat