Os nad ydach chi wedi clywed am Angharad Tomos, wel…mae’n amlwg nad ydach chi wedi clywed am Wlad y Rwla a llyfrau Rwdlan, welodd olau byd yn 1983.
Mae hi wedi sgwennu llond gwlad o lyfrau i oedolion a phlant:
ond hanesion criw Gwlad y Rwla, yn sicr ,yw’r ‘gwerthwyr gorau’. Mae brand Rwdlan fel y Star Wars Cymraeg: CDs, cardiau, teganau, llyfrau ‘sbin-off’ fel llyfrau llythrennau, llyfrau lliwio, jigsos, mygiau a chrysau T.
A tydi hi’n braf gweld nwyddau sy’n defnyddio cymeriadau Cymraeg (gafodd eu creu gan Gymraes yng Nghymru)? Yn hytrach na’r bali mochyn pinc ‘na eto. Ffydd mewn cymeriadau a doniau Cymraeg sydd ei angen, drapia! O, ac Angharad sy’n gyfrifol am y lluniau hefyd, gyda llaw. Dim ffraeo am hawlfraint felly – call iawn, Angharad!
Ond mae ‘na lyfrau eraill i blant hŷn ganddi hefyd, fel Sothach a Sglyfath, stori ysbrydion hwyliog, llawn dychymyg ac enillydd gwobr Tir na n-Og 1994:
Ar wefan gwales.com:
“Rydw i’n meddwl bod y stori yma yn wych, wych iawn, iawn. Mae’n stori hynod wreiddiol. Mae’n stori sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, ond ddim yn rhy ofnus. Mae’n addas i blant 8-11 oed.”
a rwan mae ganddi gyfres o lyfrau ffeithiol newydd sbon i blant bach, fel y ddau yma:
Chydig mwy o wybodaeth amdani:
Mae ganddi bump chwaer, aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle ac mi fu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flynyddoedd. Mae hi wedi ennill swp o wobrau am ei sgwennu, fel Coron Yr Urdd yn 1982 am Hen Fyd Hurt; ac mae hi wedi cael Y Fedal a Gwobr Tir na n-ôg ddwywaith, heb sôn am Wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae’n sgwennu colofn yn yr Herald Gymraeg (sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ers BLYNYDDOEDD. Dwi wrthi ers rhyw 15 mlynedd ond roedd Angharad yno ym mhell cyn fi. Ac mae hi’n hen law am brotestio – dyma lun ohoni’n protestio yn erbyn cau Llyfrgell Penygroes ( mae ei mab yna hefyd – sy’n hoffi gneud ffilmiau)

a dyma glawr ei hunangofiant:

A dyma ei hatebion hi am ei hoff lyfrau plant:
- Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Yn Gymraeg, byddai Dad yn rhoi straeon y Mabinogi i Blant inni, (Pwyll oedd enw fy nhedi i, a Pryderi oedd tedi fy chwaer!)

Hoffwn straeon Tylwyth Teg, a straeon Elizabeth Watkin Jones yn fwy na rhai T.Llew Jones.

Yn Saesneg – unrhyw beth gan Enid Blyton!

Stopiais ddarllen am gyfnod yn fy arddegau, (ar wahân i’r llyfrau roedd yn rhaid i mi eu darllen yn yr ysgol) a wedyn yn syth i ddeunydd Islwyn Ffowc Elis a gwirioni.

Yn Saesneg, Wuthering Heights i Lefel O, ac roedd hynny yn agoriad llygad. Bronte i mi bob tro, yn hytrach nac Austen.
Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Darllen mwy o rai i’r plant fenga, ond wrth i’r mab fynd yn hŷn, cefais agoriad llygad fod llawer o ddeunydd i bobl ifanc, a Manon Steffan yw fy ffefryn.

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Quentin Blake – am ei steil unigryw sy’n dal hanfod cymeriad.
Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Wrth fy modd efo’r weithred o sgwennu – mae llun ohonof tua saith efo pensil a phapur.

Heb deledu, roedd yn rhaid i ni’n pump ddiddanu ein hunain, a thynnu llun (yn fwy na sgwennu stori) oedd fy hoff bleser. Roedd y dasg ‘llun a stori’ bob bore yn yr ysgol gynradd yn fy mhlesio yn iawn!
Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Trio a thrio am wythnosau i roi ffurf ar syniad, a mwya sydyn – o rywle – mae’n dod. Unwaith dach chi wedi cael ‘y llais’, rydych chi wedi torri trwodd, ac mi ddaw yn llawer haws. Ond 90% o’r amser, gwaith caled a chadw trwyn ar y maen ydi o!
Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Wel, ddaru’r olaf nesh i (un am wrthwynebydd cydwybodol) i bobl ifanc ddim gweithio, felly rydw i wedi rhoi honno o’r neilltu. ‘Paent’ oedd yr un ddwytha i’w chyhoeddi ac roedd honno yn dod o brofiad personol. Dewisais ymgyrch arwyddion Cymdeithas yr Iaith fel testun, ond gan fod cychwyn honno run pryd â’r Arwisgo (1969), fe’i gosodais yn y cyfnod hwnnw. Ro’n i’n blentyn fy hun yn y cyfnod hwnnw, felly doedd dim cymaint o waith ymchwilio. Ond roedd cymaint o faterion yn codi – brenhiniaeth, gweithredu di-drais, pwysau ffrindiau, ond yn fwy na dim, pwysau ysgol uwchradd i gyd-ymffurfio.
Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Nofel i bobl ifanc am hawliau merched.
- Neges gan Bethan- Edrych mlaen, Angharad!
