Fydda i ddim yn y Steddfod tan ddydd Iau, felly mi fydda i’n colli’r sgwrs am 3 yn y Lolfa Lên ar ddydd Mawrth. Gweler isod:
Ydi ysgrifennu i bobl ifanc yn cael ei anwybyddu? Nefi, ydi! Wel, ysgrifennu gwreiddiol Cymraeg gan awduron o Gymru o leia. Mae’r llyfrau Saesneg yn y genre ‘Young Adult’ yn gwneud yn arbennig o dda, felly hefyd gwaith ar gyfer y rhai iau, stwff David Walliams ayyb.
Pam? Sawl rheswm: yn y lle cynta, does na’m digon o lyfrau Cymraeg – gwreiddiol – yn ymddangos. Pam? Am fod awduron yn cael gwell tâl o lawer i sgwennu llyfrau oedolion. Ond hefyd, os ydyn nhw’n sgwennu rhai gwreiddiol – MAEN NHW’N CAEL EU HANWYBYDDU! Mi fyswn i wrth fy modd yn gwrando ar y sgwrs bnawn Mawrth – yn enwedig barn y ddau ddisgybl ysgol; gobeithio y bydd rhywun yn cadw cofnodion! Ond os ydach chi yn y Steddfod y diwrnod hwnnw, ac â diddordeb mewn llyfrau plant a phobl ifanc, ewch draw, da chi. Does dim rhaid i chi gytuno efo fy marn i wrth reswm – mae angen barn o bob math.
O, a dwi newydd gael copi o hwn:
ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg – edrych yn ddifyr tu hwnt, a dwi wedi ebostio’r manylion at fy nysgwyr i i gyd. Prynwch gopi yn anrheg i’r dysgwyr dach chi’n eu nabod! A hwn fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn ‘Siarad Cymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth’ am 11 ym Maes D.
A llyfr arall arbennig o ddifyr ar gyfer plant ydi hwn:
Llyfrynnau bach handi sy’n annog plant i fentro yn y Parciau Cenedlaethol mewn ffyrdd heriol a mentrus tra’n cadw’n saff ar yr un pryd! e.e: un syniad ydi i dynnu eich sgidiau a cherdded yn droednoeth dros wahanol fathau o dir a nodi be sy’n cosi, yn teimlo’n ludiog, yn teimlo’n iasol, yn dda neu yn brifo! Un arall ydi i dynnu llun wyneb mewn tail gwartheg ac yna rhannu’r llun efo ffrind – drwy gyfrwng snapchat neu instagram falle?
Dwi wrth fy modd efo’r llyfr yma – mae’n annog pobl i fwynhau’r awyr agored mewn ffyrdd gwahanol, annisgwyl efallai, ac i beidio a bod ofn baeddu – digon hawdd golchi dwylo mewn nant neu afon wedyn tydi!
A dyna pam wnes i gymryd rhan mewn Diwrnod Ychapych ym Mhlas Tanybwlch, Maentwrog ddoe – rhyw fath o briodi syniadau’r llyfr hwn a chymeriadau gwallgo Roald Dahl. Mi wnes i wisgo fel gwrach- ia, fi ydi’r wrach hynod hyll yma:
ac annog plant 7-11 oed yr ardal i greu cymeriadau a straeon yn defnyddio’r coed, mwsog, brigau a dail ac ati oedd yng ngerddi’r Plas. Ew, roedden nhw’n griw da. Gawson ni gymeriadau a syniadau gwych!
Ac ar ôl cinio ‘ychapych’ o bethau wedi eu hysbrydoli gan lyfrau Roald Dahl:
Mi gawson ni sesiwn o greu lluniau efo brigau a dail a ballu efo Menna Thomas:
Diwrnod o hwyl a chreu a chwerthin – difyr tu hwnt!
Mae llyfrau ‘Mission Explore’ bellach ar werth yng nghanolfannau Ymwelwyr y Parc yn Aberdyfi, Beddgelert a Betws y Coed, ac ym Mhenfro a’r Bannau hefyd, siwr gen i.