Mae’r awdures Siân Lewis newydd fod ar daith @LlyfrDaFabBooks o gwmpas ysgolion Sir Benfro. Un o gynlluniau Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ydi’r daith, cyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol. A dyma hi efo rhai o blant y sir:
Siân oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi.

Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant. Mae’r tlws yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi sgwennu nifer fawr o lyfrau plant Cymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae Sian Lewis wedi sgwennu cannoedd – yn llythrennol! Dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc hyd yma.
Dyma i chi rai ohonyn nhw:
Un o ardal Aberystwyth ydy hi yn wreiddiol. Astudiodd Ffrangeg ( fel fi!) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’w bro enedigol, ac ar ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun.

Ond tybed pa lyfrau oedd yn apelio ati hi ers talwm? Be ysbrydolodd hi i sgwennu cymaint? Dyma ei hatebion:
1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Ces gopi o Trysorau Hafod Aur gan Idwal Jones ar fy mhen-blwydd yn 6. Dwi’n dal i gofio’r ias a’r cyffro, ac yn ffan o lyfrau ditectif byth oddi ar hynny.
Roedd nofelau Meuryn yn ffefrynnau.

Llyfr arall sy’n aros yn y cof yw Bandit yr Andes gan R. Bryn Williams.

Yn Saesneg roedd raid darllen llyfrau Enid Blyton, yn enwedig y gyfres ‘Adventure’. Yr unig un wnaeth fy siomi oedd The Mountain of Adventure a leolir yng Nghymru. Cymru Blytonaidd iawn!

Ro’n i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau’r Americanesau Louisa M. Alcott a Susan Coolidge,

ac am amrywiol resymau, mae gen i atgof hapus iawn o The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

Bob wythnos, rhwng fy mrawd a minnau, roedd hanner dwsin o gomics yn cyrraedd tŷ ni. Gwych!
b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Dyma pryd y dechreuais ddarllen a mwynhau llyfrau Islwyn Ffowc Elis ( dyna fo uchod),
a threulio oriau difyr yn helpu ditectifs John Ellis Williams i ddatrys dirgelion.

Ro’n i’n breuddwydio am fod yn prima ballerina, felly ro’n i’n llowcio llyfrau Lorna Hill, A Dream of Sadler’s Wells ac ati.

Ffefryn arall oedd Mabel Esther Allan.

Hefyd fe etifeddais set o glasuron y 19eg ganrif – Dickens, Hardy, Brontë – a chael blas go iawn ar eu darllen.
2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Dwi’n darllen llyfrau plant/pobl ifanc mor aml ag y galla i. Dwi newydd orffen Gwalia gan Llŷr Titus a The Lie Tree gan Frances Hardinge, llyfrau arbennig o dda.
Hefyd dwi wedi darllen Wcw, Mellten a Cip y mis hwn. Dwi’n dal i hoffi comics.
3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Dwi wedi cydweithio â llawer o arlunwyr, felly alla i ddim dewis rhyngddyn nhw. Mae gan bob un arddull unigryw, a dwi wastad yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb arlunydd i’m llyfrau.
4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Dwi wedi bod yn arwres llawer iawn o storïau, achos roedd fy mam a ’nhad yn eu creu ar fy nghyfer bob nos wrth fynd i’r gwely. Dechreuais innau sgrifennu storïau cyfres – dechrau ond nid gorffen bob tro – a’u gyrru at Mam-gu a Tad-cu.
Mi ddechreuais sgrifennu go iawn ar ôl cael swydd yn Adran Gylchgronau’r Urdd.

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Dwi’n mwynhau gweld syniadau’n sboncio o nunlle, eu dal, a rhoi trefn arnyn nhw – wel, gobeithio!
6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Pedair Cainc y Mabinogi oedd fy llyfr diwethaf.

Roedd yn hwyl ailgwrdd â’r hen gymeriadau, didoli’r deunydd a phenderfynu sut i’w gyflwyno. Mae lluniau Valériane Leblond
yn rhoi naws gwreiddiol, gwahanol i’r llyfr.
7.Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Stori’r Brenin Arthur fydd y llyfr nesaf. Unwaith eto mae’r hanesion yn bodoli’n barod, llawer gormod i un llyfr. Felly’r dasg yw dewis pa storïau i’w cynnwys a sut i’w clymu wrth ei gilydd. Mae Prydain gyfan a rhannau o’r cyfandir wedi hawlio Arthur, ond Arthur y Cymry fydd hwn.
Diolch yn fawr, Siân! Edrych mlaen yn arw at weld Stori’r Brenin Arthur.