Archif

All posts for the month Medi, 2021

Mwy o Wyliau, Cyfres Fferm Cwm Cawdel

Published Medi 29, 2021 by gwanas

Dwi ddim yn siŵr sut lwyddais i i fethu’r llyfr cyntaf yn y gyfres hon, sef Gwyliau Gwirion, am ffermwraig ifanc o’r enw Ffion yn mynd â’i gwartheg am wyliau:

ond roedd ‘na ganmol iddi ar wefan sonamlyfra.com erbyn gweld, ac mae’n swnio’n andros o hwyl.

O wel! Dwi newydd ddarllen yr ail yn y gyfres, sef Mwy o Wyliau (Mŵŵŵy o wyliau?) lle maen nhw i gyd yn mynd i Gaerdydd.

Trafod lle i fynd am wyliau (sori, mae wordpress yn mynnu gwasgu’r llun fel hyn! Grrrr…)

Fel hogan ffarm fy hun, dwi wrth fy modd efo syniad a sgwennu Gwennan Evans, yr awdur. Er gwaetha’r hyn mae nifer o bobl y trefi a’r dinasoedd yn ei gredu, does ‘na DDIM digon o lyfrau efo cefndir amaethyddol i blant yn Gymraeg! Ac mae plant cefn gwlad angen gweld eu hunain mewn llyfrau cyfoes hefyd, chwarae teg. Dwi’n siŵr bod plant trefol isio gweld mwy o fywyd cyfoes ar fferm hefyd, er nad yw gwartheg yn sefyll ar ddwy goes fel hyn fel arfer, wrth gwrs.

Mae darluniau Lleucu Gwenllian yn hyfryd; syml, ond effeithiol!

Disgwyl am drên

Dwi wrth fy modd efo’r llun uchod ohonyn nhw’n disgwyl yn daclus am y trên i’r brifddinas.

A hwn wedi cyrraedd:

Ond efallai mai hwn ydi fy ffefryn:

Wrth gwrs y bydden nhw isio cael hunlun/selffi!

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at ddarllenwyr tua 4-8 oed, gyda chydig iawn o waith darllen a mwy o waith astudio’r lluniau. Byddai’n hawdd gorffen darllen hon mewn un noson amser gwely.

Gan mai un o Ddyffryn Cothi ydi Gwennan yn wreiddiol,

mae’r stori’n ddeheuol gyda geiriau fel ‘yn grac’ a ‘dere’, ond mae pawb o Fôn i Fynwy yn deall geiriau felly bellach, siawns? Dwi wir ddim yn meddwl y bydd plant bach Ynys Môn yn cael trafferth efo’r stori, yn enwedig os ydyn nhw wedi arfer mynd i Sioe Llanelwedd. Ond erbyn meddwl, dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i fynd yno ers dwy flynedd rŵan, naddo? Hanner eich bywyd os dach chi’n 4 oed.

Mae’r stori’n llawn hiwmor ysgafn, fel un o’r gwartheg yn syllu ar y cae yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (syniad da peidio ei alw’n Stadiwm Principality, achos does wybod pryd fydd y noddwr yn newid a’r enw’n gorfod newid eto!) ac yn meddwl: “Sgwn i faint o fêls maen nhw’n gallu eu cael mas o hwn?”

Ffordd dda o ddysgu plant be sydd i’w weld a’i wneud mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Ond hwyl y stori a’r gwahanol wartheg sy’n bwysig.

Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd mynd ar wyliau yn y llyfr nesa? Bet bydd ‘na gastell yno…

Gwasg Carreg Gwalch £6.