Ges i’r llyfr yma yn anrheg Nadolig gan fy nghyfaill, Paul, a dim ond wythnos yma dwi wedi cael cyfle i’w ddarllen. Allwn i ddim peidio a phori drwy’r tudalennau cynta yn syth bin, wrth gwrs – dwi’n tueddu i wneud hynna efo llyfrau er mwyn gwneud rhyw fath o drefn yn fy mhen – 1.) ia, argoeli’n dda – i’r pentwr wrth erchwyn y gwely, neu:
2.) hm… angen mynedd efo hwn, ei roi yn y pentwr ‘gwyliau’ neu pan na fydd gen i unrhyw beth gwell i’w ddarllen. Mae ‘na lyfrau yn fanno ers blynyddoedd, mae arna i ofn.
Beth bynnag, os ydach chi’n caru cathod, neu anifeiliaid yn gyffredinol, neu wedi gweithio mewn llyfrgell erioed, neu hyd yn oed wedi bod yn gwsmer da mewn llyfrgell, mi ddylech chi fwynhau hwn. Mi ddylai hefyd blesio plant o tua 9/10 oed i fyny sy’n darllen yn eitha da ac sy’n ysu am lyfr ffeithiol yn hytrach na nofel.
Enw’r gath ar y clawr ydi Dewey, cath gafodd ei darganfod wedi ei stwffio i mewn i’r bocs metal lle dach chi’n rhoi llyfrau pan fydd y llyfrgell ar gau. Roedd hyn yn Iowa, yr Unol Daleithiau ganol gaeaf, ac roedd y gath fach bron a rhewi, ond yn wyrthiol, mi ddoth at ei hun a chael ei mabwysiadu gan staff y llyfrgell.
A llyfr ydi hwn gan Vicki Myron, y llyfrgellydd oedd fel mam iddo fo. Mae’n hyfryd, ac allwch chi ddim peidio a dotio at gymeriad Dewey a’r effaith mae’n ei gael ar bawb. Iawn, oes, mae na elfen o Marley & Me ynddo fo, achos mae pob anifail ( go iawn) yn marw erbyn diwedd y llyfr tydi, ond mi gafodd Dewey fyw nes roedd o’n 19 oed, felly digon o amser i chi ddod i arfer efo’r syniad. A dwi wedi’ch rhybuddio chi.
Mae’n fwy na llyfr am gath, mae o am gymuned glos hefyd, a chymuned sy’n elwa o fodolaeth Dewey. Mae ‘na ffilm ‘mewn datblygiad’ ers blynyddoedd, efo Meryl Streep yn actio rhan yr awdur
ond does wybod pan/os welwn ni’r canlyniad.
Mi werthodd y llyfr fel slecs, a chael ei gyfieithu i lwyth o wahanol ieithoedd:
gyda fersiynau ar gyfer plant iau, a chloriau gwahanol,
Gyda llaw, mi fydd staff llyfrgelloedd yn deall ystyr yr enw yn syth, ond i chi sydd ddim, mi gafodd ei enwi ar ôl y system o rifau sy’n cael ei ddefnyddio i roi llyfrau ar y silffoedd, fel bod modd dod o hyd iddyn nhw’n hawdd ac ychwanegu llyfrau newydd at y silffoedd heb ddrysu pethau: y Dewey decimal system, gafodd ei fathu gan Melvil Dewey yn 1876.
A bellach, mae ‘na 200,000 llyfrgell mewn 35 o wledydd yn dilyn trefn Dewey.
Mi ddaw hynna’n handi i chi mewn cwis ryw dro, garantîd i chi.