Archif

All posts for the month Ionawr, 2019

Nofel hanesyddol: Gwenwyn a Gwasgod Felen

Published Ionawr 31, 2019 by gwanas

gwenwyn...-a-gwasgod-felen-2187-p

Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn hanes, hanes Cymru, hanes Meirionnydd, neu pam benderfynodd criw o Gymry ymfudo i Batagonia, mae ‘Gwenwyn a Gwasgod Felen’ gan Haf Llewelyn yn mynd i’ch plesio’n arw. Hyd yn oed os nad oes gynnoch chi ddiddordeb yn y pynciau hynny, ond yn mwynhau stori dda efo cwpwl o ‘baddies’ go iawn, mi wnewch chi fwynhau hon.
Mae hi wedi ei hanelu at blant tua 9+ ond fel sy’n wir gyda chymaint o lyfrau plant, fe fydd oedolion yn ei mwynhau hefyd.
Mae’r stori wedi ei lleoli yn ardal y Bala yn yr 1860au, gyda nifer o gymeriadau difyr, rhai yn ddychmygol a rhai wedi eu seilio ar bobl go iawn, fel Michael D Jones, un o’r prif ymgyrchwyr dros greu gwladfa newydd ym Mhatagonia, a John Williams, snichyn o asiant tir, ac mae ‘na nodiadau diddorol iawn yn y cefn am gefndir y nofel:

img_4444

Dau o’r prif gymeriadau yw brawd a chwaer sydd wedi’u gadael yn amddifad, Daniel a Dorothy. Mae pethau yn dechrau gwella i’r ddau wrth i Dorothy gael swydd fel morwyn ac i Daniel, gyda chymorth Michael D Jones, gael gwaith yn siop yr apothecari. Gyda llaw, fferyllydd ydi gŵr yr awdur, a dwi’n eitha siŵr bod ei wybodaeth o wedi bod o help mawr iddi wrth sgwennu’r nofel hon! Ond ynghanol y poteli a jariau o ffisig diniwed mae potel fach o wenwyn… gewch chi weld pa mor bwysig fydd y botel honno wrth i chi ddarllen y stori. Dyma’r sôn cyntaf amdani, a blas i chi o arddull y nofel:

img_4443

Mi gewch chi hefyd weld pa mor bwysig fydd y wasgod felen. Ac mae hi’n bwysig, credwch fi.

Mi fyddwch chi hefyd yn flin efo, ac yn rhyfeddu at greulondeb a barusrwydd y meistri tir fel Syr Watkin Williams-Wynne, oedd yn berchen ar stad Glan-llyn – ie, lle mae’r gwersyll heddiw. Ac mi fyddwch chi’n CASAU Williams yr asiant tir oedd yn gweithredu ar ei ran o – a Twm Twm y bwli efo’i fastiff.
Ond mi fyddwch chi wrth eich bodd efo’r arwyr, Ellis a Wil Ifan.
Roedd fy ngwaed i’n berwi wrth ddarllen – o, ac mae ‘na farwolaeth a llofruddio yma, felly cofiwch hynny os ydach chi’n blentyn sensitif.

Mi wnewch chi ddysgu llawer am hanes y cyfnod yn y nofel hon, o’r pethau mawr, gwleidyddol i’r pethau bychain fel y ffaith bod y tlodion yn hel cen oddi ar gerrig ac yn cael eu talu geiniog a dimai y pwys – a phan feddyliwch chi pa mor ysgafn ydi cen, byddai’n rhaid gweithio am oriau i hel pwys!

hypogymnia_physodes_010108
Ei ddefnyddio i liwio gwlân fyddai’r prynwyr, gyda llaw – ond darllenwch y nofel i ddysgu mwy o bethau difyr fel’na.

Un o fy hoff gymeriadau ydi Eldra, un o’r sipsiwn. A dyma hi, yn y Prolog:

img_4442

Mae ‘na ambell ‘typo’ yn y llyfr, ond peidiwch â gadael i’r rheiny amharu ar y stori gyffrous am gyfnod pwysig yn ein hanes.

Gwasg Carreg Gwalch. £6.99

Awydd sgwennu ar gyfer pobl ifanc?

Published Ionawr 29, 2019 by gwanas

71a83a70-33b2-4e9c-89be-b9a98cf8220e

Wps, bosib mod i’n rhy hwyr yn deud hyn ond roedd Tŷ Newydd yn cynnig Sêl Santes Dwynwen am dridiau. Dwi’n siŵr y bydden nhw’n ystyried chydig o lastig o ddiwrnod os wnewch chi gysylltu rŵan neu bore fory, ond mae/roedden nhw’n cynnig gostyngiad o 15% o bris holl gyrsiau Tŷ Newydd yn 2019, yn cynnwys cwrs efo fi, Mawrth 9fed – bargen! Manylion ar y linc isod:

https://www.tynewydd.cymru/cwrs/ysgrifennu-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc/
https://www.tynewydd.cymru/blog/cynnig-arbennig-15-i-ffwrdd/

quote-when-i-turned-to-writing-fantasy-and-writing-for-young-people-it-was-joyous-it-was-like-laini-taylor-101-25-68

A sbiwch da ydi’r Tweet yma hefyd. Deud y cwbwl yn fy marn i!

screenshot_20190129-195616_facebook

Gyda llaw, mae ‘Edenia’, y gyfrol olaf yng Nghyfres Y Melanai (i bobl fanc 12+ yn fras) wedi cael ei golygu (diolch, Meinir a Nia Peris) ac mi fydda i’n cael y proflenni cyn bo hir!
Mae hynny’n golygu y dylai hi fod yn y siopau ymhen rhyw ddeufis, dri. Does dim clawr eto, cofiwch, ond mae’n bosib y bydd rhywbeth tebyg i hwn ynddo fo:

d5d8cbbd1a86f021d7bdd6b5d28861f3

Edrych mlaen yn arw i weld y drioleg yn orffenedig!