Archif

All posts for the month Awst, 2018

Llyfrau i godi’r galon

Published Awst 22, 2018 by gwanas

Dkul90iXgAEQeS3-1

Syniad gwych arall gan The Reading Agency (diolch am ei drydar, Bethan Hughes). Gawn ni rywbeth tebyg yn Gymraeg os gwelwch yn dda? Mwy o wybodaeth ar y linc isod:

https://reading-well.org.uk/books/mood-boosting-books

Be am roi cychwyn arni fan hyn? Pa lyfrau Cymraeg sydd wedi rhoi gŵen ar eich wyneb chi a/neu godi’r cymylau?

top-10-books-2017

Mi wnai roi cyfle i chi bendroni…

O ran y teitl, mae’n siwr y gellid bathu rhyw derm efo ‘llyfrau’ a ‘llawen’ ond nid mater o fod yn llawen ydi o naci? Ac mae na rywbeth twee iawn am y gair ‘llawen’ yn fy marn i. A pham fod raid cyflythrennu dragwyddol? Weithiau mae’n well ei gadw’n syml.

Nofel sy’n dy godi.
Llyfrau i godi’r galon.
Llyfrau i godi’r ysbryd. (Mae’n debyg bod Bethan Mair wedi trafod yr union bwnc dan y pennawd yma ar raglen Shan Cothi yn weddol ddiweddar ond chlywes i mohoni)
Nofel i godi hwyliau.
Cyfrolau sy’n codi hwyliau.
??
Dwi’n siŵr y gallai ryw gynganeddwr roi enw call i’r fath lyfrau.

Wel? Dach chi wedi gallu meddwl am lyfrau Cymraeg sy’n codi gwên? Dwi’n siŵr bod y rhan fwya o’n llyfrau plant ni’n codi gwên ond dwi’n cael trafferth meddwl am rai sy’n codi’r hwyliau go iawn.
Mi wnaeth Merch y Mêl gan Caryl Lewis roi ryw deimlad cynnes, bodlon i mi, ond dwi ddim yn siŵr os ydi hi’n codi’r hwyliau chwaith.

image

Ddim fel ‘Wonder’ gan RJ Palacio

81TdKijWwWL

Maen nhw’n brin ar gyfer oedolion tydyn? Mae Omlet gan Nia Medi yn dod i’r cof yn syth o’m rhan i.

41UG2GiZijL._SX336_BO1,204,203,200_

Roedd – ac mae – honna’n ddigri iawn, iawn, ac yn gorffen yn gadarnhaol.

Llyfrau Sioned Wiliam – yn enwedig y cyntaf?

images

Mae Inc, Manon Steffan Ros yn sicr yn ffitio.

9781847716330_300x400

Dwi’m yn siwr am Blasu. Oedd y darnau trist yn aros yn y cof ormod i orffen y llyfr gyda gwên? Dwedwch chi.

9781847713827_300x400

A tra dwi’n sôn am Manon, mae Llyfr Glas Nebo yn ffenomenon yn barod!

getimg

Oes angen bathu gair newydd: ‘Ffenomanon’? Llongyfarchiadau mawr iddi – nofel sgwennwyd ar gyfer pobl ifanc ydi hi gyda llaw – un wych, a dwi’n siwr y bydd hi ar y cwricwlwm TGAU o fewn dim. Byddai hynny’n beth da o ran rhoi nofel wirioneddol ysgytwol i’n bobl ifanc ei hastudio, ond ar y llaw arall, mae astudio nofel yn aml yn lladd y pleser o ddarllen. Hm. Dw’n i ddim.

Ond at bwnc y blog penodol hwn, er fod na obaith ar ddiwedd y nofel, efallai bod sefyllfa’r cymeriadau tan hynny wedi bod yn rhy frawychus i’w ddisgrifio fel llyfr sy’n codi’r galon? Mae’r malwod a’r sgwarnog wedi aros yn fy meddwl i o leia!

Be am ‘Cyfres Dymuniadau Da: I Godi’r Galon’ – cerddi ac ati wedi eu golygu gan Tegwyn Jones (allan o stoc ar hyn o bryd yn ôl gwefan Gwales.com)

getimg

Mae hyn wedi gwneud i mi sylweddoli mai chydig iawn o lyfrau Cymraeg sy’n codi hwyliau. Tueddu i fynd am y tywyllwch mae’n hawduron ni ynde? Neu ydw i’n anghywir?

Dyma i chi nofel Saesneg y gwnes i wirioni efo hi pan ro’n i’n ifanc: Dandelion Wine gan Ray Bradbury. Dwi’m wedi ei darllen ers blynyddoedd ond dwi’n dal i gofio’r wên roddodd hi ar fy wyneb.

51dfAXNdszL

O, a dwi newydd gofio – llyfr wirioneddol dda gan Tudur Owen: Y Sŵ.

41YkBvtl7fL._SX314_BO1,204,203,200_

Cafodd hon ei henwi ar Twitter fel llyfr i godi’r galon – a diolch am f’atgoffa.

Ydi hyn wedi eich hatgoffa chi o lyfrau (gwreiddiol) gododd eich calon ryw dro? Rhowch wybod!