Dwi newydd orffen dwy nofel Saesneg ar gyfer pobl ifanc ( o CA2 i fyny), ac isio deud wrthoch chi amdanyn nhw.

Mae October, October gan Katya Balen yn nofel y byddwn i wedi gwirioni mhen yn lân efo hi pan ro’n i tua 9-12 oed – a hŷn. Ar y clawr cefn, y cwbl sy ‘na ydi:
We live in the woods and we are wild.
A dyna ni, wedi fy machu’n syth. Ro’n i wedi cael fy hudo gan y clawr hyfryd ‘na beth bynnag. Nice one, Angela Harding!
Nofel CA2 ydi hi, am ferch 11 oed sy’n byw yn y goedwig efo’i thad. Mae hi’n magu tylluan ifanc ac mae bob dim yn hyfryd nes i’w thad hi frifo a gorfod mynd i’r ysbyty. Wedyn mae’r ddynes yma sy’n galw ei hun yn fam iddi yn mynd â hi i Lundain. Trychineb. Dydi hi ddim wedi arfer efo pobl, sŵn, ceir, trenau, dim byd fel’na. A dyna fo, dwi ddim am ddifetha mwy o’r plot i chi.
Wrth fy modd efo’r syniad, y stori, y cymeriadau, y dylluan, bob dim. Cynnil, clyfar, ac yn cydio yn eich calon a gwrthod gollwng. Ei argymell yn llwyr.
O, ac mae’n werth nodi bod yr awdur wedi gneud Doethuriaeth (Masters) ar yr effaith mae llyfrau’n ei gael ar blant awtistig.
Yr ail lyfr ydi A Kind of Spark gan Elle McNicol. O. Mam. Bach. Mae’n stori am blentyn awtistig gan awdur sy’n awtistig ei hun, a nefi, mae hynny’n bwerus.

Chwip o stori, yn ddoniol, yn emosiynol ac wedi ei sgwennu’n arbennig o dda, ac mi fydd pawb isio blingo’r blincin athrawes!

Dylai pawb, yn rieni, athrawon, unrhyw un dan haul, a phlant hŷn na’r oedran targed (CA2) ddarllen hwn, boed eich bod yn nabod rhywun awtistig neu beidio. Mae’n egluro cymaint mewn ffordd hyfryd o grefftus a gonest. Ro’n i’n gegrwth ar ôl ei roi i lawr, ac wedi mwynhau yn arw.
Roedd cymharu’r ffordd fyddai pobl ers talwm yn pigo ar ‘wrachod’ a’r ffordd mae pobl heddiw yn dal i bigo ar unrhyw un sy’n ‘wahanol’ yn glec effeithiol iawn hefyd.
I loved both these books. All about being different. Vive la différence.