
Ydw, dwi’n torri fy rheol eto – addasiad ydi hwn, nid llyfr gwreiddiol o Gymru, ond mae’n un diddorol. Mae’r fersiwn gwreiddiol wedi gwerthu fel slecs yn yr Unol Daleithiau ac eto wedyn pan gafodd ei gyhoeddi ym Mhrydain mae’n debyg: ‘The publishing sensation of the year’ yn ôl yr Evening Standard.
Felly mi ddylai’r fersiwn yma, Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch gan Angharad Elen

werthu’n dda hefyd. Mae’n siŵr bod sawl merch wedi cael copi yn anrheg Nadolig, ac wedi ei fwynhau.
Fy marn i? Mae’n addasiad da, a Margaret Thatcher wedi cael ffling er mwyn gwneud lle i Lowri Morgan, diolch byth. Mae’r syniad yn un da hefyd: tudalen o ysgrif (nid stori yn fy marn i) byr, syml am ferched amrywiol o bedwar ban byd (er bod ‘na ormod o bwyslais ar yr Unol Daleithiau) a llun gwreiddiol, da, lliwgar gan amrywiol artistiaid benwyaidd gyferbyn. Mae’n arddull sy’n siwtio merched ifanc yn ogystal â rhai hŷn. Do’n i ddim wedi clywed am sawl un, felly mae’n addysgiadol, ac mae’n profi y gall merched fod yn unrhywbeth maen nhw’n dymuno bod – ieee! – ond efo cryn dipyn o benderfyniad, ac yn aml iawn, pres hefyd. Mae’n rhoi sylw i ferched dewr sydd wedi cicio yn erbyn y tresi, fel Rosa Parks:

Matilde Montoya y meddyg benywaidd cyntaf ym Mecsico:

a rhai sy’n arwresau go iawn:


Ha! Newydd sylwi bod Sali Mali wedi mynnu ffotobomio fanna!
Mae rhai yn fwy diddorol na’i gilydd, wrth reswm, ac er ei bod yn ferch hynod lwyddiannus ym myd pensaerniaeth, ac yn haeddu ei lle, dwi ddim yn siŵr a fyddwn i wedi dewis y stori am Zaha Hadid yn cael stranc ar awyren i roi esiampl dda i ferched ifanc. Pam canmol y ffaith iddi gael stranc oherwydd bod y peilot wedi deud y byddai’n rhaid oedi chydig? Mi fynnodd gael ei ffordd ei hun a gorfodi’r staff i chwilota am ei bagiau yng nghrombil yr awyren a’i symud i awyren arall. Ia, canmol rhywun am beidio ag ildio pan mae’n fater o bwys, iawn, ond fyddwn i yn bersonol ddim wedi dewis y stori yna fel enghraifft o arwres. Dwi’n siŵr bod straeon gwell i’w cael amdani.
Un arall wnaeth i mi grafu mhen oedd hanes Coy Mathis, plentyn gafodd ei eni’n fachgen ond a oedd yn teimlo’n gryf mai merch oedd hi. Iawn, dallt ei bod hi’n stori deg a PC iawn i’w chynnwys, dim byd yn erbyn hynny, ond pam sôn bod Coy yn “dotio at ffrogiau, esgidiau sgleiniog a’r lliw pinc”? Ro’n i’n meddwl mai ymgais i ddileu rhyw hen stereoteipio hurt felna oedd y llyfr? Grrr. Dwi’n siŵr y byddai Angharad yr addasydd wedi hoffi newid hynna, ond yn aml, chewch chi ddim newid cynnwys y llyfr rydach chi’n ei addasu. Bechod.
O, ac oherwydd y lliw/gosod mi ges i drafferth darllen y sgrifen ar y tudalennau o luniau weithiau:
Anodd tydi? Dwi’m yn gwybod os oedd yr un peth wedi digwydd yn y fersiwn Saesneg. Ond efallai mai fi sydd angen cofio gwisgo fy sbectol.
Ond wedi cwyno fel’na, mae’n llyfr hardd, difyr ac mi wnes i ei fwynhau 90% ohono. Ond roedd y marchnata yn glyfar doedd: mae ‘na lyfrau gwell i ysbrydoli merched ar gael yn fy marn i! Ond dim llawer ar gyfer merched iau, mae’n wir.
I ddarllenwyr hŷn, be am hanes merched o Gymru yn Merched Gwyllt o Gymru?

Neu Mamwlad?

neu nofelau gyda merched dewr, cryf yn brif gymeriadau?


Allwch chi feddwl am engreifftiau (cyfoes) eraill o ferched cryf/dewr/rebel o ferch mewn nofelau gwreiddiol i blant?
Ion 15 – Diolch Awel Mai Jones am dynnu fy sylw at hwn:
Amelia to Zora – 26 women who changed the World – wedi bod yn ffefryn ei merch, Magi. Swnio’n dda!
