Dwi ddim yn siwr pam nad ydw i wedi darllen hon tan rwan. Mae’n digwydd weithiau tydi? Llyfr yn mynd drwy’r rhwyd. Ond hon enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Steddfod yr Urdd 2001.
Bwli gan Owain Siôn.
A nefi, roedd hi’n haeddu’r wobr. ‘Tarodd hwn fi ar fy nhalcen yn syth,’ meddai un o’r beirniaid, Emyr Lewis. ‘…gyda’i arddull lafar rywiog, ei hiwmor scatolegol, ei fwrlwm o ddigwyddiadau, a’r awgrymiadau cynnil o’r cychwyn nad yw’r prif gymeriad yn gymaint o lanc ag y tybia…’
Mae Owain Siôn yn gallu sgwennu, bobol. Dyna pam gafodd o’i ddewis gan Gwmni Rily i gyfieithu cyfresi ‘Dyddiadur Dripsyn’ a ‘Peppa Pinc’, yn amlwg.
Ond blwmin hec, dwi isio iddo fo sgwennu mwy o lyfrau gwreiddiol! Yn anffodus, mae o’n bennaeth Adran y Gymraeg un o ysgolion uwchradd Caerdydd felly does gynno fo mo’r amser i weithio ar nofel wreiddiol nagoes? Mae cyfieithu gymaint haws. Efallai y bydd yn rhaid i ni aros nes y bydd o wedi ymddeol. Ond RWAN mae angen nofelau bywiog, difyr ar gyfer plant uwchradd, yn enwedig ar gyfer plant ail-iaith y de a’r de-ddwyrain.
Efallai y gwnaiff y blog yma ei ysbrydoli o, neu roi proc i rywun roi rhyw flwyddyn o hoe iddo fo gael sgwennu fel ffwl?
Yn y cyfamser, os ydach chi’n chwilio am nofel sy’n trafod bwlimia (chwarae ar eiriau clyfar yn fanna – ‘Bwli’ – ‘Bwlimia’), hon ydi hi. Roedd un o’i ffrindiau wedi diodde ohono ychydig flynyddoedd cyn iddo sgwennu’r nofel, felly mae o’n gwybod am be mae o’n sôn. Dw inna’n nabod pobl sydd wedi bod yn bwlimig ac mae’r cwbl yn taro deuddeg.
Ond y gwahaniaeth fan hyn ydi mae bachgen sy’n diodde, felly mae yma le i drafod y pwysau sydd ar fechgyn ifanc yn ogystal â merched.
Mae ‘na iaith reit gref ynddi a lot o sôn am feddwi, felly eich dewis chi ydi ei hargymell i rywun dan 15. Ond dwi’n gwybod y byddwn i wedi bod wrth fy modd efo hi yn 12-13 oed. Mae’n disgrifio bywyd coleg i’r dim, o’r nosweithiau gwyllt i’r gwaith academaidd a’r holl draethodau; mae hefyd yn ddarlun byw iawn o ddyn ifanc yn ceisio ymdopi efo pwysau bywyd, ffrindiau a theulu.
Dwi ddim am ddweud mwy am y plot – darllenwch y llyfr. Mae o allan o brint ar hyn o bryd, ond mi wnawn nhw ail-argraffu os oes digon o alw, ac yn y cyfamser, mae copiau ar gael yn eich llyfrgell leol. Fan’no ges i afael ar gopi, ond fi oedd y cynta i’w fenthyg ers 2007. Dydi o ddim wedi dyddio o gwbl, felly mae’n haeddu bywyd newydd.
Gyda llaw, wrth wneud fy ymchwil ar y we, ddois i ar draws holiadur lenwodd o ar gyfer hen wefan y BBC, a sbiwch ar hwn:
• Pwy yw eich hoff awdur?
Nifer ohonynt – Geraint Vaughan Jones, Mihangel Morgan, Angharad Tomos a Bethan Gwanas.•ˆA oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Dyddiadur Gbara gan Bethan Gwanas sy’n cael golwg ar fywyd Cymraes yn ceisio ymdopi â gwneud gwyrthiau o dan amgylchiadau anodd iawn.
Dim rhyfedd mod i’n licio’i arddull o!
O, a nofel arall dwi wedi ei darllen dros y Nadolig ydi hon:
Y Sw gan Tudur Owen. Mae hi’n wirioneddol ddigri ac er mai nofel ar gyfer oedolion ydi hi, mae hi’n un arall ddylai apelio at yr arddegau hŷn, yn enwedig rhai o gefndir amaethyddol. Mi fues i’n chwerthin yn uchel sawl tro, ac mae gynno fo gymariaethau sydd wir yn gampweithiau. Fel yr un am res o ddannedd fel parti cyd-adrodd… ha! Ydi, mae Tudur Owen yn gallu sgwennu hefyd ac er gwaetha be mae o’n ddeud ar y cefn, dwi’n GWBOD nad hon fydd yr un ola gynno fo.
Mae angen mwy o nofelau gan Tudur ac Owain Siôn. Dydyn nhw’m yn trio bod yn llenyddol, fel cymaint o nofelwyr eraill Cymraeg; maen nhw jest isio dweud stori, yn gwybod be sy’n gwneud stori dda ac â’r gallu i’w dweud hi. Ac mae hynny’n ddawn go iawn.