Fydda i ddim yn rhoi sylw i addasiadau o’r Saesneg fel arfer, ond mae’n wahanol pan mae’r stori’n Gymreig ac wedi ei gosod yng Nghymru ac wedi ei chreu gan rywun sy’n byw yng Nghymru, fel yr arlunydd/awdur Graham Howells o ardal Llanelli.

Mae o’n adnabyddus am wneud lluniau o’r byd llawn hud a lledrith, ac mae o ar ei orau yn Y Bwbach Bach Unig.

Fo greodd y stori yn ogystal â’r lluniau ac mae na fersiwn Saesneg wedi ymddangos yr un pryd â’r fersiwn Gymraeg. Angharad Elen wnaeth yr addasiad.

Dwi wedi gwirioni efo’r lluniau, maen nhw’n wirioneddol hyfryd a manwl a llawn dychymyg, ac mi faswn i wedi gwirioni yn hogan fach hefyd.


Ond be am y stori? Mi faswn i wrth fy modd efo hon yn blentyn tua 7-9 oed i’w darllen ar fy mhen fy hun, yn iau efo help oedolyn wrth gwrs. Mae cymeriad y Bwbach yn cydio yn y dychymyg, a bydd pawb yn cydymdeimlo efo fo wrth iddo weld ei fwthyn bach yn cael ei chwalu o flaen ei lygaid. Rydan ni wedyn yn mynd ar daith drwy Gymru efo fo i chwilio am ei fwthyn, yn cyfarfod anifeiliaid a chreaduriaid cyfeillgar a rhyfedd – a phlant ysgol clen iawn. Ac yn y fersiwn Gymraeg o leia, yn cael amrywiaeth o acenion ar y ffordd.

Mae’r stori’n cyrraedd (sori – SBOILAR!) Sain Ffagan yn y diwedd, ac os ydach chi wedi bod yno erioed neu am drefnu taith yno, byddai’r llyfr bach hwn yn berffaith i’w ddarllen cyn, yn ystod neu ar ôl y daith. Dwi isio mynd yn ôl yno ar ôl darllen y stori hon, beth bynnag!
Ro’n i hefyd wrth fy modd efo’r darn am sut mae rhai plant wedi eu rheoli gan sgriniau, ac oherwydd eu bod mor gaeth i’w ffonau a’u ipads, dydyn nhw methu gweld y Bwbach!

Dwi’m wedi gweld y fersiwn Saesneg, ond mae’r blyrb ar Gwales yn sicr yn llifo’n well – a haws – na’r fersiwn Gymraeg. O ran y stori Gymraeg, mae’n darllen yn hyfryd a thelynegol, ac mi fydd yn hudo darllenwyr da sy’n mwynhau dysgu geiriau ac ymadroddion newydd, ond dwi’n teimlo y byddai’n anodd iawn i ddarllenwyr llai galluog, ac yn sicr, plant ail-iaith.
Mae iaith hen ffasiwn, hynafol y Bwbach a Gwyn ap Nudd yn gweddu wrth gwrs, ond dwi’n teimlo y gellid bod wedi symlhau y dweud rhyw fymryn bach yng gweddill y stori. Ond efallai y bydd plant, rhieni ac athrawon yn anghytuno efo fi. Gawn ni weld – rhowch wybod!

Gyda llaw, do’n i methu dallt be oedd ‘gosog’ – ond goshawk wrth gwrs. A finna wedi cael fy nysgu mai Gwalch Marth ydi o. Mae’r ddau’n gywir am wn i!

Anrheg Nadolig hyfryd – Gwasg Gomer. £5.99
Yr ail lyfr ydi: Tomos Llygoden y Theatr sydd hefyd ar gyfer plant 7-9 oed yn ôl Gwales, 6-8 yn ôl Gwasg Carreg Gwalch. Wel…rhywle o gwmpas fanna ta.

Mae hwn wedi ei greu ar y cyd gan Caryl Parry Jones

a Craig Russell. Actor ydi Craig fel arfer, ac yn byw yng Nghwmtwrch mae’n debyg. Ac mae ei yrfa o’n egluro syniad y stori!

Wel, maen nhw’n gweithio’n dda efo’i gilydd! Mae’n stori fach hyfryd am Tomos yn cael gwireddu ei freuddwyd i fod yn actor. Weithiau, mae ‘na gryn dipyn o sgwennu,

ac weithiau mae ‘na dipyn llai

sy’n ei gwneud hi’n stori fwy addas i blant o bob gallu.
A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r testun a’r lluniau yn priodi i fewn i’w gilydd.


Arlunydd newydd i fyd llyfrau Cymraeg ydi Leri Tecwyn o Rosgadfan, a dwi’n digwydd ei nabod hi; roedd ei mam hi, Rhian Cadwaladr yn y coleg efo fi.
Dyma lun o Leri:

A dyma lun o un o gymeriadau’r llyfr, ac er fod y gwallt yn gwbl wahanol, dwi’n gweld y wyneb yn debyg iawn iddi!

Mae ei harddull hi’n hollol wahanol i un Graham Howells, ond yn gweddu’n berffaith i’r stori fach hyfryd hon. Y gyntaf mewn cyfres mae’n debyg.

O a dwi’n hoffi maint y llyfr hefyd – bychan iawn, ond hawdd i’w gadw mewn llaw neu fag ysgol/penwythnos.
Anrheg Nadolig hyfryd arall – Gwasg Carreg Gwalch. £4.95
O, a diolch i Shoned M Davies, Swyddog Ysgolion Gogledd Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru am yr ymateb yma ar Twitter i Gyfres Halibalŵ yn y 2 flog dwytha:
Mae’r gyfres yma yn cael ymateb gwych yn yr ysgolion…nodiadau ar gael am ddim i’r athrawon hefyd (link: https://www.aber.ac.uk/cy/caa/web-projects/)
Dwi wedi gweld y nodiadau ac maen nhw’n wych!