Dwi ddim yn cofio ble wnes i glywed am hwn, ond dwi’n falch iawn mod i wedi ei brynu. Diolch i bwy bynnag wnaeth ei argymell i mi! Dyma’r nofel gyntaf i mi ei darllen gan awdur o’r Findir, a’r un gyntaf sy’n sôn am sgwarnog ( ar wahân i fy llyfr fy hun…).
Mae’n siwr mai’r sgwarnog ddenodd fi. Dwi’n hoff iawn o sgwarnogod. Weles i un ddoe fel mae’n digwydd!
Naci, nid honna. Do’n i’m digon sydyn.
Ond nid nofel am sgwarnog ydi hon, ond hanes newyddiadurwr canol oed sydd wedi diflasu ar ei fywyd (a’i wraig) sy’n taro sgwarnog efo’r car un noson, a mwya sydyn, yn penderfynu edrych ar ôl y sgwarnog a dilyn ei drwyn drwy fywyd efo hi yn hytrach na mynd yn ôl at ei fywyd diflas.
Mae’n glasur o nofel fach hyfryd gafodd ei chyhoeddi yn 1975 ac mae wedi ei chyfieithu i o leia 18 iaith bellach. Mae’n wahanol iawn, yn llawn realaeth hudol, os mai dyna ydi magic realism, efo llwyth o eira, milwyr, meddwi, pobl wallgo, brain ac arth fawr beryglus.
Mi wnes i ei mwynhau hi’n arw. O, ac nid nofel ar gyfer plant mohoni, ond fe ddylai apelio at yr arddegau h^yn.
Nofel i blant ydi hon yn bendant:
Diwrnod Ofnadwy! gan Haf Llewelyn.
Y diweddara yng Nghyfres (ardderchog) Lolipop gan Wasg Gomer, sydd ar gyfer plant 7-9 oed. Nofel hanesyddol ydi hon ( mae Haf yn un dda am ddod â hanes yn fyw) wedi’i gosod yn oes y Rhufeiniaid. Jest y peth ar gyfer ysgolion sy’n astudio’r cyfnod hwnnw!
Mae Buddug yn ferch ifanc o un o lwythau’r Celtiaid sy’n ofni mynd i nôl dŵr o’r ffynnon rhag ofn iddi gyfarfod Antoniws Ffyrnigws, y milwr Rhufeinig gwaethaf un ar y ffordd. Ond mae’n rhaid bod yn ddewr, ac mae Buddug yn mentro tuag at y ffynnon ( sydd braidd yn bell) yng nghwmni ei ffrind, gafr o’r enw Gwen.
Mae’n stori fach syml, annwyl, ond addysgiadol hefyd, yn dod â’r cyfnod cythryblus hwn yn fyw, efo help lluniau hyfryd gan Helen Flook.
Dyma i chi’r dudalen gyntaf ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):
Mae angen mwy o nofelau GWREIDDIOL am y cyfnod yma yn ei hanes.