Mae ‘na ddau lyfr o’r enw Nain Nain Nain yn Gymraeg rŵan, ond mae’r ddau yn wahanol iawn.
Yn 2012, cyhoeddodd Sian Eirian Rees Davies ‘Nain! Nain! Nain!’
Mi wnes i flogio amdano eisoes: rhowch ‘2 lyfr ar gyfer plant 6-9 oed’ yn y blwch chwilio (top dde, uwch ben ‘Cofnodion Diweddar’)
Yr argraff mae’r Nain hon yn ei roi i bawb yw ei bod wedi drysu a cholli’i chof. Ond mae hi’n un o dîm Ditectifs Cudd Cymru – criw o neiniau sy’n datrys troseddau gwaethaf Cymru! Llyfr hwyliog, llawn dychymyg a hiwmor. Darllenwch o os nad ydach chi wedi gwneud yn barod. O, ac roedd hi wedi sgwennu hwn cyn i Gangsta Granny ymddangos!
Ond does ‘na ddim ebychnodau (!) yn nheitl llyfr Rhian Cadwaladr:
Ac mae hon yn stori gwbl wahanol. Mae’r nain hon, Hen Nain Elsi, yn hwyliog, ond MAE hi’n colli’i chof – go iawn.
Sylwch ar y ffordd glyfar mae Rhian yn dechrau awgrymu bod Nain Elsi yn drysu weithiau. Mae’r arddull yn syml, yn addas i blant o dan 7, ac yn rhoi mwy o le i luniau hyfryd Jac Jones na’r geiriau.
Wrth fy modd efo “croen patrymog”!
Mae’n stori hyfryd, annwyl sy’n trin be sy’n gallu digwydd wrth i bobl heneiddio yn hynod sensitif a chall. O, ac mae na fwy nag un nain ynddi – mae gan Nedw dair nain i gyd, pob un yn gwbl wahanol ac felly mae’r llyfr yn osgoi’r stereoteip o neiniau:
Da iawn Rhian! A Jac, wrth reswm. Daeth y llyfr i fodolaeth yn sgil cwrs ar gyfer awduron plant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, lle roedd Jac a Manon Steffan Ros yn tiwtora criw oedd yn cynnwys Rhian. Dyma hi efo’r llyfr:
Gyda llaw, mae hi wedi sgwennu dwy nofel ddifyr ar gyfer oedolion hefyd, y ddwy yn hwyliog, yn annwyl ac yn boblogaidd tu hwnt:
Nofel Saesneg ar gyfer oedolion ifanc dwi newydd ei darllen ydi Long Way Down gan Jason Reynolds o’r Unol Daleithiau. Waw. Pwerus.
Dwi rioed wedi darllen nofel ar gyfer yr oedran yna mewn barddoniaeth o’r blaen. Mi wnes i wirioni efo The Weight of Water, Sarah Crossan, ond mae Long Way Down ar gyfer bechgyn tua 13+ sydd ddim yn hoffi darllen. Tipyn o gamp. A dwi wrth fy modd efo’r hyn mae o wedi’i ddeud tu mewn y clawr cefn:
“Here’s what I know: I know there are a lot – A LOT – of young people who hate reading. I know that many of these book haters are boys. I know that many of these book-hating boys, don’t actually hate books, they hate boredom. So here’s what I plan to do: NOT WRITE BORING BOOKS. “
Amen!
Dyma i chi fidio o’r awdur yn darllen y llyfr, efo’r lluniau gan Chris Priestly:
Llun bach arall cyn cloi: ges i wahoddiad i Ysgol Rhiw-bechan, Tregynon, nid nepell o’r Drenewydd ddydd Llun, i sgwrsio efo’r plant yn y pnawn ac efo nhw a’u rhieni gyda’r nos. Nefi, ges i hwyl! Tydi’r llun ddim yn dangos y chwerthin, ond roedd ‘na lot fawr o chwerthin, wir yr! Ac o feddwl bod y plant i gyd yn dod o gartrefi di-Gymraeg, roedd eu parodrwydd i siarad a holi yn Gymraeg – a darllen Cymraeg, yn hyfryd.
Oherwydd Cadi a’r Celtiaid ges i’r gwahoddiad, gan eu bod nhw wedi gwneud prosiect ar y Celtiaid
Ond roedd llyfrau eraill Cadi yn gwerthu’n dda yn y siop hefyd! A lwcus mod i wedi dod â chydig o Ramboys efo fi, achos roedd hwnnw’n apelio’n arw at yr hogia gwledig oedd yn y ffrwd Saesneg. Ieee!