Dyna be oedd wythnos brysur!
Mi ges i andros o hwyl yn darllen darnau o Cadi Dan y dŵr ar stondinau Siop y Pethe a’r Lolfa ar y maes.
Ac roedd yr hogan fach yma yn y gardigan felen yn gesan a hanner!
Cêsus eraill oedd y plant sgwennodd Chwip o Chwedlau ar gyfer prosiect Awdurdod Parc Eryri, a dyma Twm Elias a fi yn cyhoeddi pwy oedd enillwyr y gystadleuaeth:
Llongyfarchiadau gwresog i ysgolion Penybryn Bethesda, Maenofferen Blaenau Ffestiniog a Gwaungynfi Deiniolen ar eu chwip o chwedlau gwych! Efallai y caiff y straeon i gyd eu cyhoeddi mewn llyfryn bychan ryw ben – gawn ni weld.
Am fod gen i gymalau poenus ar ôl blynyddoedd o wneud pethau gwirion, ro’n i’n llogi sgwter bach i fynd o le i le ar y maes, ac ar ddydd Mercher, roedd y Cadi go iawn, merch fy nith, yn clocsio efo Criw Clocsio Tegid. Wedyn mi fynnodd fynd ar y sgwter efo fi. Roedd hi’n trio pwyso’r botwm cyflymdra bob munud ac yn rhoi ffitiau i mi! Ond dwi’n meddwl bod ‘na ddeunydd llyfr yma yn rhywle…
Ar y dydd Gwener, roedd Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd wedi trefnu fforwm yn trafod y diffyg llyfrau ar gyfer yr arddegau.
Digon o bwyntiau difyr (bechod mod i methu cael linc i’r fidio fan hyn) ond yn bendant, mae angen mwy o flogio am lyfrau; mwy o lyfrau ar CD ac MP3; ffilmiau byrion yn tynnu sylw at lyfrau sy’n cydio – ac nid jest gweisg yn heipio llyfrau, sy’n gallu bod yn ddiflas ac yn boen. Ond yn fwy na dim, mae angen mwy o lyfrau difyr, clyfar a hynod ddarllenadwy (a gwreiddiol) ar gyfer yr arddegau yn y lle cynta! Mi allai Non Mererid Jones, enillodd am sgwennu stori fer, sgwennu chwip o nofel. Mae’r hogan yn gallu sgwennu! Ble mae hi wedi bod?
Gawn ni gystadleuaeth sgwennu nofel ( neu bennod gyntaf ac amlinelliad o leia) i’r arddegau yn Rhestr Testunau yr Eisteddfod os gwelwch yn dda? Yn rheolaidd?
Ia, dwi’n gwybod mod i’n un o’r 3 beirniad benderfynodd fod yn rhaid atal y wobr yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen (dyma Caryl Lewis a fi yn siomi’r genedl):
Ond mi fydd y nofelau oedd yn dangos potensial yn siwr o weld golau dydd ryw ben – ac yn llawer gwell nofelau ar ôl i’r awduron a golygyddion weithio arnyn nhw. Dydi cyhoeddi nofelau sydd ddim cystal ag y medren nhw fod yn gwneud dim lles i’r byd llyfrau Cymraeg. Dyna fy marn i beth bynnag!
A be am lyfrau’r Steddfod? Ble wnaethoch chi ei brynu/ddarllen? Unrhyw lyfrau plant (gwreiddiol os yn bosib…) y gallwch chi eu hargymell?