Dwi wedi cael sawl ‘bos’ yn fy nydd; rhai yn dda, rhai ddim cystal, ond y gorau o bell ffordd oedd Hywel James, Prif Lyfrgellydd Gwynedd. Fo ydi’r boi efo’r sbectol:

Doedd o ddim yn fos go iawn arna i, mwy o… wel, reolwr llinell am wn i. Gweithio yn Llyfrgell Caernarfon

fel Hyrwyddwr Llenyddiaeth yng Ngwynedd o’n i, ac roedd Hywel yn un o ddau neu dri oedd yn cadw golwg ar fy ngwaith i, yn cynnig gair o gyngor, yn rhannu syniadau ac ati. Roedd o’n aelod o’r panel roddodd y swydd i mi yn y lle cynta.
Roedd o wastad isio sôn am ryw lyfr newydd neu syniad am sut i ddenu mwy o ddarllenwyr i’r llyfrgelloedd, neu drefnu rhyw daith lenyddol neu’i gilydd. Roedd ei gariad at lyfrau yn amlwg ac yn heintus, ac roedd o ar dân i godi proffil llyfrau Cymraeg.
Ambell fore, byddai nofel ar fy nesg gyda nodyn gael Hywel yn dweud rhywbeth fel “Dwi’n meddwl y gwnei di fwynhau hon.” Ac roedd o’n iawn bob tro! Dyna i chi arwydd o lyfrgellydd da, llyfrgellydd sy’n gallu dewis llyfr i siwtio’r person.
Dyma i chi un llyfr dwi’n ei gofio ar fy nesg:

Ond mae Hywel yn ymddeol. Ar ôl 36 mlynedd o wasanaethu cenedlaethau o ddarllenwyr, mae o’n rhoi’r gorau iddi ganol mis nesa’. Argol, mi fydd na golled ar ei ôl.
Dach chi’n gweld, mewn pwyllgorau, mae gan Hywel ffordd hyfryd o fynegi ei safbwynt a dadlau o blaid yr hyn mae o’n gredu:
mae o’n ei wneud o mor dawel a diymhongar ond eto mor gryf a chadarn, ei eiriau o ydi’r rhai sy’n aros yn y cof. Mi fyddai rhywun fel Trump yn gallu dysgu cryn dipyn ganddo fo. Ond o ddifri, heb Hywel, fyddai’n llyfrgelloedd ni ddim hanner cystal a fyddai eu hanner nhw ddim wedi parhau ar agor cyhyd.

Oes, mae ’na rai wedi cau yn ddiweddar, ond does neb yn gallu gneud gwyrthiau heb gyllid! Wel, nid y dyddiau yma.
Un o Gaergybi ydi Hywel yn wreiddiol, ac roedd o’n gwybod ers dyddiau’r ysgol gynradd mai llyfrgellydd oedd o am fod.
Roedd o’n caru darllen ac roedd o eisiau gallu helpu eraill i flasu hud llyfrau ac ehangu eu gorwelion hefyd. Pan gafodd swydd bob dydd Sadwrn yn Llyfrgell Caergybi yn 1973, dyna fo, roedd y penderfyniad mewn concrit. Gweithio ym myd llyfrau amdani.

Mi ddechreuodd fel Llyfrgellydd Plant i Arfon, Dwyfor ac Aberconwy i’r hen Gyngor Sir Gwynedd yn 1981, a chael ei benodi i’w swydd bresennol fel Prif Lyfrgellydd Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd nôl yn 1996. Mae o wedi bod ar gantamil o bwyllgorau gwahanol yn ymwneud â llyfrau neu lenyddiaeth o ryw fath ers hynny, nifer yn ymwneud â chydweithio gydag asiantaethau eraill (rhywbeth sy’n bwysig iawn iddo fo) a fis Mai eleni, mi enillodd Wobr Cyflawniad Oes gan y gymdeithas llyfrgellwyr proffesiynol. Nid ar chwarae bach mae ennill gwobr o’r fath! A dyna ydi’r stori y tu ôl i’r llun yma:

Mae geiriau Bethan M. Hughes o Gyngor Dinbych yn rhoi syniad i chi am ei ddylanwad o:

“Dwi’n cofio trafodaeth mewn cyfarfod o brif lyfrgellwyr y gogledd sawl blwyddyn yn ôl am doriadau i wasanaethau a sut byddai hyn yn effeithio ar bobl mwy bregus mewn cymunedau gwledig. Roedd Hywel yn teimlo’r pethau i’r byw ac roedd gwrando arno yn dadlau yn ei ffordd dawel a chadarn, wedi creu argraff fythgofiadwy arnai. Nid dim ond swydd ydi llyfrgellyddiaeth i Hywel ond galwedigaeth. – a bydd hi’n chwith hebddo yn arwain ac annog.
Mae o’n angerddol am werth llyfrgelloedd a llyfrau i bobl, ac yn arbennig am hawl y rhai sydd ag anghenion ychwanegol i dderbyn gwasanaeth cydradd ac o safon uchel. Oherwydd hyn, er enghraifft, roedd yn allweddol wrth sicrhau fod llyfrau llafar a phrint bras Cymraeg ar gael trwy pob llyfrgell yng Nghymru. Mae o hefyd yn credu’n gryf mewn cydweithio a’r cryfder a dycnwch ddaw yn ei sgil.”

Os nad oeddech chi’n gwybod, mae ’na fersiynau llafar ar CD ar gael o nifer fawr o nofelau cyfoes Cymraeg drwy eich llyfrgell leol. Jest y peth os ydi’ch golwg chi’n dechrau dirywio neu os liciech chi wrando ar lyfr wrth deithio yn y car neu’r lori. Maen nhw wedi bod ar gael i’r deillion ers tro, ond roedd Hywel ar dân i sicrhau eu bod ar gael i bawb.
Mae gan lyfrgellwyr Gwynedd feddwl y byd ohono fo hefyd. Mae Nia Gruffydd wedi bod yn gweithio efo fo ers blynyddoedd ac yn siarad ar ran y staff yng Nghaernarfon:
“Allai neb ohonom fod wedi cael gwell rheolwr llinell na Hywel. Nid yn unig oherwydd ei waith trylwyr, gofalus ac arloesol yn rheoli’r Gwasanaethau Llyfrgell yng Ngwynedd dros y blynyddoedd, ond oherwydd ei gyfeillgarwch a’i gefnogaeth i bawb ohonom, ar adegau da ac adegau anodd. Dyma’r pethau creiddiol sy’n nodweddu Hywel, ei gefnogaeth ddiysgog i bob un ohonom sy’n cydweithio gydag o, a’i gred waelodol mewn gwerth llyfrgelloedd, llyfrau a darllen. Rydym yn falch iawn o gael dweud mai Hywel fu’n ein harwain dros y blynyddoedd.”
A dyma lun o Nia efo Jamie Richardson sy’n gyrru llyfrgell symudol ‘Lori Ni’ o gwmpas ysgolion Gwynedd.

Dwi’m yn gwybod be mae Hywel am ei wneud ar ôl ymddeol. Darllen, mae hynny’n sicr, a garddio mwy hefyd, mae’n siŵr.

Ond be bynnag fydd yn llenwi ei ddyddiau o hyn ymlaen, dwi’n dymuno’r gorau iddo fo. Mi fydd colled mawr ar ei ôl.
Mi wnes i ofyn chydig o gwestiynau iddo fo am lyfrau:
Hoff lyfr yn blentyn?
Straeon T. Llew Jones gydiodd fy nychymyg ifanc – Y Ffordd Beryglus yn arbennig.
Cefais y profiad arbennig pan oeddwn yn Llyfrgellydd Plant o dywys T. Llew o gwmpas ysgolion Gwynedd sawl tro, cofiaf fwynhau ei gwmni difyr a’r cyfle i weld ‘brenin y cyfarwydd’ yn dal sylw dosbarth o blant fel gwyfyn i gannwyll. Roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno awduron i blant – cefais y fraint a’r pleser o gael dod i nabod enillwyr gwobr Tir naNog fel Angharad Tomos, Emily Huws, Mair Wynn Hughes a Gareth F.

Mae ein dyled fel llyfrgellwyr i awduron yn enfawr – awduron plant yn arbennig – hebddynt hwy fyddai llyfrgelloedd yn bodoli!
2. Oes ‘na lyfr penodol wnaeth i ti fod isio bod yn llyfrgellydd?
Dyna gwestiwn da! Yn y cyfnod pan oeddwn yn dewis gyrfa roeddwn yn hoff iawn o waith George Orwell a’i nofel 1984 yn sefyll allan:

Yn y byd erchyll mae’n darlunio yn y nofel mae ‘gwirionedd’ yn cael ei reoli a’i wyrdroi gan y rhai sy’n llywodraethu. Mae’n siwr bod hynny wedi gwneud argraff ddofn arnaf a’n cred fod angen canolfan cymunedol fel llyfrgell sydd yn cynnig mynediad diduedd at wybodaeth a hynny yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb. Wrth gwrs mae mwynhau darllen llyfr da yn cyflyrru rhywun i’w rannu gydag eraill ac mae llyfrgell yn gyfrwng gwych i rannu llenyddiaeth o bob math.
3. Y llyfr y byddet ti’n ei achub pe tae’r ty yn mynd ar dân.
Byddwn yn achub y gyfrol ysgrifennodd fy nhad am hanes ein teulu, roddodd gymaint o foddhad iddo ei gyhoeddi ar liwt ei hun yn dilyn blynyddoedd o ymchwil gyda chymorth fy mam. Cynorthwyais gydag ambell gwestiwn gododd yn ystod yr ymchwilio a nododd fy nhad ei ddiolch wrth gyflwyno copi i mi wedi ei arwyddo ganddo. Mae ambell i drywydd sydd angen ei ddilyn ymhellach – dyna un o’r tasgau y byddaf yn ceisio eu cyflawni yn ystod fy ymddeoliad.
4. Oes sgen ti hoff ‘genre’?
Na – stori dda sydd yn bwysig pob tro, rwyf wedi ceisio darllen yn eang pob genre ffuglen – er wrth fynd hŷn rwy’n ffafrio mwy ar ddarllen llyfrau ffeithiol. Rwy’n hoff iawn o farddoniaeth ac mae cyfrol wrth erchwyn fy ngwely bob amser, ac wrth geisio ymdopi â phrofedigaeth yn ddiweddar, roedd cerddi Cymraeg a Saesneg yn gysur mawr – rwy’n rhyfeddu yn aml at ddawn bardd i grynhoi teimladau mor gelfydd mewn ychydig o frawddegau – prawf pendant o’r grym sydd mewn geiriau.
5. Hoff awduron erbyn hyn a tithe’n ymddeol…?
Byddai ceisio enwi hoff awduron fel ceisio enwi hoff gyfeillion – amhosib! Y stori neu amgylchiadau’r darllen sydd yn bwysig ac mae’n siŵr fel sawl un arall sydd ar fin ymddeol a dechrau pennod arall yn eu bywydau, mae’n fwriad gennyf ddarllen cymaint â phosib o’r clasuron ond byddaf yn parhau i ddarllen yn eang awduron hen a newydd gan ddefnyddio fy llyfrgell gyhoeddus leol yn rheolaidd wrth gwrs!

Mwynha’r darllen, Hywel!