Mae’r nofel hyfryd yma yn ticio sawl bocs. Mae’n:
1. Nofel hanesyddol (tua cyfnod y Rhyfel Mawr)
2. Nofel am y pyllau glo
3. Nofel am geffylau
4. Nofel am gyfeillgarwch
5. Nofel wreiddiol Gymraeg i blant 9-12 oed.
Mae Mathew yn gorfod gadael yr ysgol i weithio yn y pwll glo, ac mae Handel y merlyn bach yn gorfod cael ei werthu i weithio dan ddaear hefyd. O leia y bydd bechgyn a dynion yn cael dod yn ôl allan i weld golau dydd; mae’n rhaid i’r ceffylau aros yno, yn y gwres a’r tywyllwch a’r llygod mawr heb weld golau dydd o gwbl.
Roedd yr hanes yn agoriad llygad i mi, ac mi wnes i wir fwynhau dod i ddeall sut fywyd oedd hi i’r merlod a’r bobl fyddai’n gweithio gyda nhw.
Mae Gwen Redvers Jones wedi sgwennu nifer o lyfrau ar gyfer plant- dyma rai ohonyn nhw:
Dwi’n meddwl bod hon yn un o’i goreuon. Dyma i chi flas o ddechrau pennod 4:
Mae’r iaith yn ddeheuol wrth reswm, ond yn hawdd i ni gogs ei ddeall. Bechgyn yw’r prif gymeriadau, felly bachyn da ar gyfer apelio at fechgyn ( sydd weithiau’n gallu bod yn ffyslyd) ond mi fydd merched wrth eu bodd efo hi hefyd, a phlant sy’n hoffi anifeiliaid, a cheffylau yn benodol. Mae’n newid braf o’r rhai am gymkhanas!
Ro’n i’n teimlo bod angen cliw gweledol ar ddechrau penodau i ni gael gwybod pwy oedd yn siarad – Mathew neu Handel y ceffyl, ac ro’n i wedi disgwyl i rywbeth mwy dramatig ddigwydd tua’r diwedd, ond mae’n braf cael diweddglo hapus, yn enwedig os ydach chi’n 9-12 oed, am wn i.
Dwi wedi rhoi 4* allan o 5 iddi ar wefan gwales.com. Ydach chi’n cytuno sgwn i?