Archif

All posts for the month Mai, 2016

Llyfr am bêl-droed i blant bach dan 7

Published Mai 14, 2016 by gwanas

Unknown

Dyma’r adeg perffaith i gyhoeddi’r 24ain llyfr yng nghyfres Alun yr Arth. Bydd Cymru gyfan ( wel, y rhan fwya) unai yn gwylio bob cic gan dîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros ar y teledu, neu wedi teithio i Ffrainc i fod yno yn y cnawd.

Dwi ddim yn siwr faint o blant dan 7 o Gymru fydd wedi mynd i Ffrainc – dwi’n cymryd y bydd Mam/Nain/Modryb wedi gorfod aros adre i warchod… ond os oes gynnoch chi blentyn sydd wedi gwirioni efo Gareth Bale a’r criw, bydd rhoi’r llyfr hwn yn anrheg iddyn nhw yn syniad da.

Dyma’r dudalen gynta:

 

photo 1

Alun druan… mae’r ‘ond…’ yn ‘ond’ mawr!

photo 2

Nacydi, dydi o ddim yn debyg i Gareth Bale o bell ffordd, bechod. Mae’n debyg bod yr awdur, Morgan Tomos yr un peth: “Fedra i ddim cicio pêl i achub fy mywyd!” meddai Morgan.

Ond mae Alun yn dod o hyd i ffordd i fod yn ran o’r chwarae wedi’r cwbl. Sut? Bydd raid i chi ddarllen y llyfr! Ond mae’n stori hyfryd, ddigri, sy’n siwr o blesio plant Cymru. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyfresi mwya poblogaidd erioed i blant dan 7 oed – mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi eu gwerthu erbyn hyn – waw! Dwi ddim yn gwybod faint o gefnogwyr Cymru fydd yn Bordeaux ar gyfer gêm gyntaf Cymru ar y 11eg o Fehefin, ond synnwn i daten na fydd 50,000 yn bell ohoni!

 

Unknown-1

A dim ond £2.99 ydi copi o’r llyfr, tipyn rhatach na thocyn i’r gêm…

Dwi newydd gael parsel drwy’r post gan rai o blant Cymru – o Ysgol Carreg Emlyn, ysgol Gymraeg wledig i blant ardal Cyffylliog, Bontuchel, Clocaenog, Clawddnewydd a Derwen, sydd yn ymyl Rhuthun.

Mi fues i yno’n ddiweddar yn darllen rhai o fy straeon i, yn cynnwys un sgwennais i ar gyfer Straeon Tic Toc Radio CymruUnknown

A wyddoch chi be? Mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi casgliad o rai o’r straeon gafodd eu darlledu:

Unknown-2

Straeon Tic Toc, ‘casgliad lliwgar o straeon pum munud i’w darllen gyda’r plant lleiaf’ – sef plant dan 7 oed eto. Bargen am £8.99.

Ac mae’r stori roedd plant Carreg Emlyn wedi ei mwynhau ynddi – Stori’r Botel Sôs Coch.

Sbiwch be fuon nhw’n ei wneud wedyn!

photo 4

photo 3

Gwych! Diolch yn fawr i blant hyfryd Ysgol Carreg Emlyn. Rydan ni awduron wrth ein bodd yn cael ymateb fel hyn – a dwi’n siwr y byddai Morgan Tomos wrth ei fodd yn derbyn eich lluniau chi o Alun yr Arth.

A phob lwc Tîm Cymru!

Unknown