
Ia, llyfr Saesneg y tro yma, ond ar wahân i’r ffaith ei fod yn chwip o lyfr, mae ‘na gysylltiad Cymraeg cryf iawn.

Mae’r awdur, Catherine Johnson, yn hanner Cymraes. Erinwen Johnson o Abergele (Gwytherin yn wreiddiol) ydi ei mam hi, ac mae hi’n gyfnither i’r diweddar Gwynn ap Gwilym! Fo ydi awdur Sgythia – nofel wych arall. Rhywbeth yn y gwaed, yn amlwg.
Ar ochr ei thad, mae hi o dras Jamaican a dyna lun priodas ei rhieni:

Er iddyn nhw briodi yng Ngwytherin (ar ôl cyfarfod mewn clwb comiwnyddol Pwyleg (!)), byw yn ochrau Llundain wnaethon nhw, ond byddai Catherine yn dod i Ogledd Cymru am wyliau, ac mae hi’n falch iawn o’i gwreiddiau Cymraeg.
Dwi’n ei nabod hi ers blynyddoedd – ers pan oedd hi’n dechrau cyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc, tua 20 mlynedd yn ôl os cofia i’n iawn, a dwi wedi cyfarfod Erinwen fwy nag unwaith hefyd – dynes hyfryd! Byddai hanes bywyd Erinwen ei hun yn gwneud chwip o lyfr hefyd.
Dwi’m wedi darllen ‘The Last Welsh Summer’ (Pont Books), un o’i llyfrau cyntaf, sydd bellach allan o brint, ond dwi’n siŵr bod ‘na lawer iawn o brofiadau Catherine ynddo. Hanes merch o Lundain (sydd ddim yn groenwyn) sy’n mynd i aros at ei Nain yng Ngogledd Cymru. Dwi’n mynd i archebu copi i’r llyfrgell RWAN! *Newydd wneud – mae hi mor hawdd archebu llyfrau llyfrgell ar lein bellach. Eiliadau mae’n ei gymryd!
Ta waeth, dwi wedi darllen nifer o lyfrau eraill Catherine ac wedi mwynhau bob un:



Mi wnes i wirioni efo Sawbones – a The Curious Tale of The Lady Caraboo a Blade and Bone. Nid fi oedd yr unig un – mae hi’n cael ei henwebu ar gyfer y Fedal Carnegie yn gyson. Ond dwi wedi gwirioni hyd yn oed yn fwy efo Race to the Frozen North – am ei bod hi’n stori wir, am wn i. Er, roedd ‘na lawer o bethau hanesyddol gywir yn y lleill hefyd.
Cofiwch chi, mae’n bosib hefyd bod gen i ddiddordeb am fod hon am y ras i Begwn y Gogledd – a dwi wedi bod yna!

(Efo cyfres Ar y Lein ar gyfer S4C a llun o’r llyfr Ar y Lein Eto ydi hwnna)
Ond yn ôl at Catherine Johnson: mae ei llyfrau i gyd wedi eu hymchwilio’n dda a’r plotiau’n ddifyr, ac yn llawn antur a hiwmor a thristwch – ac anhegwch. Mae ei chymeriadau yn cydio ynof fi bob tro, pobl groenddu sydd yn aml wedi cael eu hanwybyddu gan y llyfrau hanes. Catherine ydi’r un sy’n rhoi bywyd newydd iddyn nhw, ac yn gwneud yn siwr bod pobl ifanc (a hen fel fi) yn dysgu amdanyn nhw, a hynny mewn ffordd wirioneddol ddarllenadwy.
Mae na fwy am Catherine a’i llyfrau ar ei gwefan fan hyn:
https://catherinejohnson.co.uk/biog/
A dyma flas i chi o Race to The Frozen North. y broliant i gychwyn:

Dwi’n amenio ‘super readable’!
A dyma flas o’r cynnwys:

A thudalen o’r canol. Tydi’r lluniau ar waelod pob tudalen yn hyfryd hefyd?

A dyma lun i chi o Mathew Henson:

Arwr o ddyn, ac mae’n gywilydd na chafodd o’r clod roedd o’n ei haeddu ar y pryd. Roedd fy ngwaed i’n berwi wrth ddarllen am y ffordd gafodd o’i drin.
Diolch Catherine, am sgwennu perl o lyfr amdano.
Addas ar gyfer pawb, ond plant sy’n cael trafferthion darllen hefyd. Oed: 8+ £6.99.
Mae llyfrau eraill Catherine yn amrywio o ran pa oedran fyddai’n eu mwynhau fwya. Ond 10+ a 12+ ydi’r rhan fwya, a tua 13+ i The Curious Tale of The Lady Caraboo.