Jest isio sôn am ddau lyfr allai blesio’r oedolion yn eich bywydau chi:
Cwcw, nofel newydd Marlyn Samuel a Syllu ar Walia, Ffion Dafis. Dau lyfr hollol wahanol. Mi wnai ddechrau efo Cwcw:

Os dach chi isio nofel fywiog, ysgafn efo cymeriadau a sefyllfaoedd fydd yn gwneud i chi biffian chwerthin, dyma hi. Mae Marlyn yn hen law ar sgwennu y math o nofelau yma, ac mi fyddai hon yn gallu cael ei haddasu’n hawdd ar gyfer y sgrin – a’r radio, yn sicr. Fi oedd yn holi Marlyn yn y lansiad yn Cartio Môn,

felly mi ges i glywed yr anhygoel (Dr) Manon Wyn Williams (yn y canol, isod) yn darllen pigion, a iechyd, roedd hi (a’r darnau o’r llyfr) yn wych. Pawb yn rhowlio!

Ond mae Manon a Marlyn yn nabod ei gilydd yn dda iawn, ac mae Manon yn gallu ‘clywed’ llais Marlyn yn y sgwennu mor hawdd. A sôn am glywed, roedd perfformiad Gwen Elin (ar y dde) yn y lansiad yn wefreiddiol – a’r cyfeilio’n rhyfeddol hefyd.
Rwan, dydi hon ddim yn nofel i blant, ac mae hynny’n amlwg o’r dechrau un! Felly, gan fod plant yn darllen y blog yma, fiw i mi ddyfynnu, ond siawns na chai eich cyfeirio at linc? Os dach chi isio blas o’r bennod gynta, mae modd ei ddarllen fan hyn, drwy wefan Gwales, iawn?
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912173044&tsid=3#top
Mae’n agoriad sy’n tynnu sylw yn syth, beth bynnag. Hanes dwy hanner chwaer sy’n cyfarfod am y tro cyntaf erioed yn angladd eu tad ydi hon, ac mae Marlyn wedi llwyddo eto, fel y gwnaeth yn ei dwy nofel flaenorol, i blethu’r doniol a’r dwys. Nid dim ond stwff digri sydd yma, ond y gwewyr o fethu cael plant, a’r berthynas rhwng dwy chwaer sydd, yn yr achos yma, yn hollol, gwbl wahanol i’w gilydd (mae’r clawr yn dangos hynny’n arbennig tydi?). O, ac mae beirdd yn ei chael hi! Mae’r ddeialog, fel arfer, yn clecian ac yn swnio’n gwbl fyw, ac mi wnes i fwynhau darllen hon yn arw. Mae’n £9 ond yn werth bob ceiniog.
Mae gwir angen mwy o nofelau ysgafn fel hyn. Dydi pob awdur ddim yn anelu am Llyfr y Flwyddyn, a dydi pawb ddim isio darllen Llyfr y Flwyddyn chwaith! Ond go brin y caiff hi sylw yn y cylchgronau llenyddol, na’i chanmol ynddyn nhw chwaith achos nid dyna ei chynulleidfa. Nofel ar gyfer y werin ydi hon, ac mae Marlyn yn nabod ei chynulleidfa. Da iawn, a mwy os gweli di’n dda, Marlyn.
‘Nid hunangofiant ydy hwn,’ meddai Ffion Dafis.

Ond waeth iddi heb â phrotestio, ysgrifau hunangofiannol ydi’r rhan fwya o’r gyfrol arbennig hon, a’r rheiny yn wych o onest a chignoeth.
Mi ges fy llorio gan y ddeialog ar y diwedd un:‘Fi a Fo’, oherwydd y dawn sgwennu a’r uniaethu es i drwyddo. Mi wnes i (a sawl darllenydd arall) feichio crio wrth ddarllen y darn amdani’n colli ei mam i ganser; mi wnes i wingo a chwerthin yn uchel wrth darllen y darn cyntaf un, ‘Twrci a thameidiau eraill’, amdani’n crwydro strydoedd Caerdydd ar ôl treulio noson feddw yng nghwmni chwaraewr rygbi rhyngwladol (na chaiff ei enwi, damia hi). Mi wnes i (a sawl darllenydd arall) wingo ac uniaethu efo’i hyrddiau o banig, ac roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu’n onest am berthynas merched ag alcohol.
Do, yn un o’r sawl ‘lansiad’ mae’r gyfrol wedi eu cael, mi wnes i gyfadde mod i wedi sgipio drwy’r darnau teithio ar y darlleniad cynta, a dwi’n gwybod nad fi ydi’r unig un i wneud hynny! Ond roedd hi wir yn werth mynd yn ôl atyn nhw.
Dyma lun o’r… dwi’m isio deud ‘lansiad’ – dim ond un waith allwch chi ‘lansio llyfr a llong, neno’r tad… felly dyma lun o un o’r nosweithiau i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol, yn Gwin Dylanwad, Dolgellau:

Roedd hi’n orlawn yno erbyn y diwedd. Ac roedd hi’n noson hyfryd, ac Osian wedi canu’n hyfryd hefyd (hogyn lleol, i chi gael dallt).
Cyfrol arbennig gan hogan arbennig, sy’n haeddu bob clod. £8.99 – ceiniog yn rhatach na Cwcw!