Ro’n i wrth fy modd efo llyfrau am geffylau ers talwm, llyfrau gan awdures o’r enw Marguerite Henry yn bennaf. Hanes merlod gwyllt ‘Chincoteague’ ar ynys rhywle yn America oedd rhain, a dyma i chi rai o’r cloriau:
Erbyn deall, roedd yna ‘Misty’ go iawn, ac mae ‘na ferlod gwyllt yn byw ar ynys Assateague yn ochrau Virginia/Maryland! A finna wedi meddwl mai dychymyg pur oedd y cwbl. Dwi wedi deall hefyd bod yr awdures wedi cael plentyndod trist iawn: mi gafodd salwch o’r enw ‘rheumatic fever’ yn 6 oed, sy’n bosib ei reoli erbyn heddiw, ond bryd hynny, yn 1908, roedd yn golygu cael ei chadw yn ei gwely am 6 mlynedd – nes roedd hi’n 12. Meddyliwch! A doedd hi ddim yn cael mynd i’r ysgol a chymysgu efo plant eraill rhag ofn iddyn nhw ddal y salwch oddi arni.
Ond mae wastad haul ar fryn, a dyna sut syrthiodd hi mewn cariad efo llyfrau.
Mi sgwennodd hi 59 cyn iddi farw yn 1997.
Rwan ta, yn yr Ysgol Gynradd ro’n i’n darllen rhain, ro’n i tua 9-10 oed os cofia i’n iawn, ond roedd gen i Saesneg eitha da, mae’n rhaid, achos dyma i chi enghraifft o’r arddull:
Dydi o ddim yn hawdd nacdi? Ddim yn ofnadwy o anodd chwaith – digon o frawddegau byrion, ond mae’r eirfa yn ddigon aeddfed. Dyna pam ro’n i’n dal i ddarllen am Misty a’i theulu yn 11 a 12 oed, a bron nad oes gen i awydd dechrau eto! Ro’n i wir wedi gwirioni efo’r rhain.
Roedd gen i gyfres o lyfrau am ryw Palomino Pony hefyd, ond dwi methu dod o hyd i’r union lyfrau hynny ar y we a dwi wedi hen golli’r copiau oedd gen i ers talwm. Ac nid y fi taflodd nhw…
FAMAU! PEIDIWCH A THAFLU LLYFRAU EICH PLANT HEB OFYN IDDYN NHW YN GYNTA!
Doedd ‘na ddim nofelau Cymraeg am geffylau pan ro’n i’n ifanc, ond mae ‘na bellach, diolch byth.
Y rhai mwya amlwg a llwyddiannus dybiwn i ydi’r rhain:
Mae ‘na hyd yn oed CD ar gael!
Mae’r rhain yn hawdd eu darllen, yn iawn ar gyfer gogs er mai hwntw ydi’r awdures, Anwen Francis, ac yn addas ar gyfer unrhyw un rhwng tua 8-11 sy’n hoffi ceffylau. Mi wnes i hoffi’r prif gymeriad, Beca, yn fawr, a theimlo’r cynnwrf wrth iddi fynd i brynu merlen newydd sbon ar ei phen-blwydd yn 9 oed – ac allwch chi ddim peidio a dotio at Siani, y ferlen fach ddrygionus ond dewr!
Mae’r lluniau o’r ceffylau yn hyfryd hefyd, ond y bobl ddim cweit cystal efallai – ydach chi’n cytuno?
Mi roddodd fy nith gynnig ar un o’r llyfrau hyn, ond doedd hi ddim wedi gwirioni – ond dydi hi ddim wedi gwirioni efo ceffylau!
Ond mae ‘na gannoedd o blant yn caru ceffylau a dwi ddim yn synnu bod rhain wedi bod mor boblogaidd.
A weihei! Mae na blant wedi rhoi eu barn ar wefan gwales.com, fel hon:
Rhoddodd Niamh A Nerys o Castell Newydd Emlyn i’r teitl yma ac ysgrifennodd:
“Roedd y llyfr Nadolig Llawen Siani yn dda iawn. Roedd y stori’n hapus ond hefyd yn drist ar adegau. Roedd Rhys wedi torri ei goes. Roeddwn i’n hoffi sioe Nadolig y clwb ponis hefyd. “
Da iawn Niamh! Be am i chi wneud yr un fath?
Dyma nofel arall am geffylau gan Eurgain Haf:
Dim barn plant ar gwales.com yn anffodus. Ond dyma fy marn i: nofel ar gyfer plant 9-11 ddywedwn i, a nofel llawn digwyddiadau mewn canolfan ferlota. Digon difyr, ond ro’n i’n teimlo bod gormod o gymeriadau a gormod o ddigwyddiadau! Doeddwn i ddim yn cael cyfle i ddod i nabod neb yn iawn.
Ac yn anffodus, mae ‘na chydig o gamgymeriadau teipio yn y llyfr. Wps.
Ac unwaith eto, mae’r lluniau o geffylau yn hyfryd, ond nid y plant a’r bobl – yn fy marn i, ynde!
Nofel gwbl wahanol ydi hon, gan Sian Northey:
Un stori sydd yma, nid cyfres o ddigwyddiadau, a stori antur ydi hi, gyda lladron a herwgipio, yn hytrach na gymkhanas. Ond mae’r cariad at geffylau yn amlwg. Dyma i chi flas o’r arddull, a’r lluniau:
Edrych yn hawdd? Wel, mae’n mynd yn fwy cymhleth wedyn:
Felly llyfr ar gyfer plant 8-11 oed ydi o yn fy marn i ( plant 8 oed sy’n darllen yn arbennig o dda wrth gwrs).
Dydi pawb ddim yn meddwl bod y lluniau’n addas i’r oed yna. Be ‘dach chi’n ei feddwl? Pa mor bwysig ydi lluniau i chi mewn nofelau?
Os gwyddoch chi am lyfrau Cymraeg eraill fyddai’n apelio at bobl sy’n caru ceffylau, rhowch wybod.
Ac…o diar… mae’n ddrwg gen i ddweud hyn, ond does yr un o’r rhain wedi cydio ynof fi fel y gwnaeth llyfrau Marguerite Henry… ond bosib mai siarad fel oedolyn yn cofio ei phlentyndod fel ryw oes aur ydw i. Ond eto, sbiwch ar glawr y llyfr yma:
Mae hwnna’n gwneud i mi fod isio darllen y stori o ddifri. Does dim angen i lyfrau ceffylau fod am genod bach y Pony Club bob amser nagoes? Ac mae bechgyn yn gallu hoffi ceffylau gymaint â merched tydyn? Gwybod am rywun allai sgwennu stori Gymraeg am ferlod gwyllt y Carneddau, neu’r rheiny sydd ar ochr y ffordd yn ochrau Hirwaun, neu efallai ar Ynys Enlli neu rywbeth fel’na? Mi fyswn i wrth gwrs, ond dwi’m yn gwybod digon am geffylau…