Archif

All posts for the month Mai, 2019

Gwobrau Tir na n-Og 2019

Published Mai 30, 2019 by gwanas

61828734_2180286615426017_4690271425884323840_o

Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo?

Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.

Penderfyniad gwych gan y beirniaid, a dwi’n gwybod bod Manon yn falch iawn bod yr hen Joe wedi curo Llyfr Glas Nebo. Difyr fydd gweld pa lyfr fydd yn ennill LLyfr y Flwyddyn rŵan ynde… pob lwc, feirniaid!

Llongyfarchiadau hefyd i’r 18 criw (ia, 18!) lwyddodd i gyrraedd Eisteddfod Caerdydd efo’u hymgomau BL 7,8,9, sef detholiad o fy llyfr i, Gwylliaid:

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Ond llongyfarchiadau mwy i’r 3 gyrhaeddodd llwyfan y Brifwyl, o Ynys Môn, Plas Mawr (Caerdydd) a Chaernarfon.

Criw dawnus a hollol boncyrs o Gaernarfon enillodd y wobr gyntaf:

D70XPiGXsAEA_pw

Ac ro’n i’n cytuno’n llwyr efo’r beirniaid – roedden nhw i gyd yn ardderchog, ond roedd y Cofis wedi creu detholiad clyfar iawn, ac wedi actio’n gwbl wych. Ro’n i’n eitha nerfus cyn gwylio’r gystadleuaeth – be os na fyddai fy llyfr i’n ‘gweithio’ fel ymgom ar lwyfan? Ond diolch i’r nefoedd, ro’n i’n hynod falch o’r canlyniad.

O, a dwi wedi deall mai meibion y gwleidydd Guto Bebb ydi’r ddau hogyn oedd yn actio’r ‘gwylliaid’. Nefi!

Mali, Gwawr Edwards

Published Mai 29, 2019 by gwanas

9781784617240_300x400

Mae hon yn gyfrol fach hyfryd a lliwgar am Mali’r ci sy’n byw ar fferm – ond nid ci defaid mo Mali, ond sbaniel King Charles go iawn yr awdures. Ac ia, y Mali go iawn sydd wedi ysbrydoli’r 4 stori sydd yn y gyfrol. Roedd ‘na luniau ohoni hi, Gwawr a Nel, ei merch yn dathlu cyhoeddi’r llyfr yn Eisteddfod yr Urdd:

61431967_10157363237307704_4409039475603144704_n

Felly os dach chi tua 4-7 oed ac yn caru cŵn neu anifeiliaid yn gyffredinol, mae hon i chi. Hefyd, os dach chi’n hoffi canu, mae ‘na CD i gyd-fynd â’r gyfrol, a geiriau’r caneuon i gyd yn y cefn:

20190529_140859

Menna, chwaer Gwawr helpodd hi i gyfansoddi’r caneuon, ac mae’n debyg iddyn nhw gael andros o hwyl yn y broses. Wel, do siŵr, mae’r ddwy yn hynod gerddorol: Gwawr yn gantores broffesiynol a Menna yn gyfeilydd ers blynyddoedd (Dafydd Edwards y tenor ydi tad y ddwy).

Mae pob stori’n canolbwyntio ar un tymor ac felly cawn ddilyn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol (cafodd Gwawr ei magu ar fferm felly mae’n gwybod am be mae’n sôn…) ond fy hoff agwedd i o’r llyfr ydi’r ddywediadau a chwpledi cefn gwlad, fel rhain:

20190529_14073220190529_140636

Dwi’n eu cofio nhw, ond tybed faint o blant heddiw sy’n gyfarwydd â nhw? Dwi mor falch eu bod nhw’n cael eu hatgyfodi fan hyn, fel yn llyfr ‘Dathlu gyda Sali Mali’ (sylw i honno 2 flog yn ôl). Dwi’n cytuno’n llwyr efo Gwawr, ddywedodd:
“Mae dysgu’r rhain i blant yn rhywbeth pwysig iawn neu fe fyddant yn cael eu colli am byth.”

Os dach chi’n hoffi bwyd, mi fyddwch chi’n hoffi hon hefyd – mae ‘na lawer iawn o sôn am fwyd ynddi! Sut mae Gwawr yn llwyddo i fod mor slim, wn i ddim…

th-2

Mae’r straeon am ddiwrnod mabolgampau, cael picnic, gwylio tân gwyllt a mynd i sglefrio yn siŵr o apelio at blant bach, ac mae ‘na wers fach am fywyd ym mhob un. Mae’r darluniau gan Ali Lodge yn hyfryd. Mi gewch chi hwyl garw yn sylwi ar y manylion sydd fan hyn, er enghraifft:

20190529_140656

Un peth: dwi’m yn siwr am gynnwys geiriau’r caneuon yn y cefn. Gan eu bod yn ran o’r stori, ro’n i isio eu darllen nhw’n syth, o fewn y stori ei hun. Ond fi ydi honno.

Iaith Ceredigion sydd yma, gyda ‘dere’, ‘porfa’, ‘dolur’ ac ati, ond mae hynny’n rhoi lliw i’r llyfr ac mae’r gweddill yn gwbl ddealladwy i blant o bob cwr o Gymru. Ro’n i’n hoff iawn o “Dwi’n clemio”! A finnau’n meddwl mai pobl Maldwyn yn unig oedd yn dweud hynny pan fyddan nhw eisiau bwyd.

Y Lolfa £5.99 (CD Sain yn £12.98)

Genod Gwych a Merched Medrus

Published Mai 26, 2019 by gwanas

20190526_100316

Dach chi’n cofio ddechrau’r flwyddyn am awdur yn chwilio am enwau genethod gwych a merched medrus fel rhan o’i phrosiect newydd?

Medi Jones-Jackson o Bow Street ger Aberystwyth oedd honno, rhywun sydd wedi gweithio ym myd llyfrau plant ac wedi rheoli prosiectau hyrwyddo darllen yn y gorffennol – ac mae hynny’n amlwg!

Yn union fel cyfres ‘Rebel o Ferch’, mae ‘Genod Gwych a Merched Medrus’ yn strocen o jiniys! Wedi’i hanelu at blant 5 i 10 oed yn wreiddiol (6-11 ar wefan y Lolfa, felly penderfynwch chi) mae’n gyfrol ddifyr, liwgar, addysgiadol a hwyliog am 12 o ferched ysbrydoledig o Gymru, o Jade Jones i Laura Ashley.

Mae pawb yn cael dwy dudalen, fel hyn, gyda hanes Amy Dillwyn y ddynes fusnes o Sgeti:

20190526_100444

Ac ydi, mae’r gwaith darlunio gan Telor Gwyn yn hyfryd:

20190526_100429

A’r dylunio gan Dyfan Williams. Ydyn, maen nhw’n ddau beth gwahanol! Y dylunydd sy’n penderfynu be i neud efo’r darluniau: maint, lleoliad ac ati, y ffont, bob dim.

20190526_100351

A dwi’n siŵr bod Angharad Tomos wrth ei bodd yn cael bod yng nghwmni’r rhain i gyd – clod ac anrhydedd i awdur – ieee! Ond mae ‘na ferched o bob maes yma, mynydda, nyrsio, celf, ffasiwn, meddygaeth, astroffiseg – a fy ffefryn i, cracio codau yn ystod y rhyfel. Dwi wedi bod yn Bletchley, felly roedd gen i ddiddordeb mawr yn hanes Mair Russell-Jones o Bontycymmer oedd yn wych am wneud croeseiriau a phosau – ac yn gallu siarad Amlaeneg…

A sbiwch, mae ‘na weithgareddau yn y cefn i gyd-fynd â meysydd y merched medrus:

20190526_100335

Nacydi siŵr, dydi’r pôs ddim i gyd yna, dwi isio i chi brynu’r llyfr tydw! Neu o leia ei fenthyg o’r llyfrgell, achos mi gaiff yr awdur, Medi Jones-Jackson, 8.5c am bob benthyciad wedyn. Ydi, mae o’n help mawr i awduron, wir yr – ac i’r llyfrgelloedd!

Ond dwi am gynnnwys cerdd Manon Awst i gyd:

20190526_105528

Da ‘de!

A be am gais Medi am enwau merched ifanc gwych o Gymru heddiw? Wel, mae eu henwau nhw yn y llyfr hefyd, tu mewn y clawr blaen a chefn – ddeudis i bod Medi’n jiniys, do?

Dim llun sori, bydd raid i chi brynu copi i weld os ydi eich henwau chi yna. A nefi, mae ‘na enwau da allan fanna – enwau sy’n sgrechian i gyrraedd pinacl pa bynnag faes fyddwch chi’n ei ddewis.

Llyfr sy’n werth £5.99 yn bendant. Mi wnes i ei fwynhau o’n arw, ac mi fyddwn i wedi bod wrth fy modd efo fo pan ro’n i yn yr ysgol gynradd. Mae o’n siŵr o ysbrydoli genod ifanc heddiw.

Ond mae ‘na un peth bach… sut mae sillafu enw’r iaith Sanskrit yn Gymraeg? Dwi’n meddwl mai Sanscrit ddylai o fod. Yn ôl Geiriadur yr Acadaemi – Sansgrit (yr hen fusnes c/g ma eto…) Ond am ryw reswm, mae ‘na ‘d’ wedi dod o rhywle ac mae o’n Sandscrit yn y llyfr yma. Felly pwy sy’n iawn?!

Gwyl Fedwen a mwy o Sali Mali

Published Mai 23, 2019 by gwanas

60351049_10156531485247869_7923226560943882240_n

Do, daeth Sali Mali a Cyw a Rhys Meirion a phawb i Saith Seren, Wrecsam i’r Wyl Fedwen. Wel, pawb oedd ddim yn yr ŵyl fwyd yng Nghaernarfon neu’r brotest fawr yng Nghaerdydd.

Roedd y lle’n llawn ar gyfer y sesiwn hyfryd efo Aled Lewis Evans, un o’r bobl neisia yn y byd (a mwya dawnus – mae’n eitha posib eich bod chi wedi llefaru neu glywed un o’i gerddi mewn steddfod)

60438931_10156611177546715_5807272654410874880_n

A dyma fo’n derbyn ei wobr am gyfraniad oes i’r byd llyfrau:

60328594_10156611177601715_6190032400299327488_n

A dyma fo’n cael ei longyfarch gan Rhys ac Anni a fi:

59868026_10215791289627884_2651119819595710464_n

A dyma Anni Llŷn yn sgwrsio efo a darllen i’r plant ddaeth draw:

59932761_10156531485542869_4289983497554100224_n

Gawson ni andros o hwyl a chroeso arferol pobl Wrecsam – a diolch i Siop Cwlwm am ddod â chymaint o lyfrau da…

20190511_155931

A sôn (eto) am Sali Mali, ges i lyfr wirioneddol hyfryd wythnos dwytha: Dathlu gyda Sali Mali.

20190523_180308

Mae o’n llawn lluniau hyfryd, lliwgar a syniadau am beth i’w gwneud ar wahanol adegau o’r flwyddyn.e.e: dyma sut i wneud hetiau clustiau cwningod ar gyfer y Pasg!

20190523_180432

A dyma sut i wneud teisen Dwmplen Malwoden:

20190523_180406

Ar gyfer pa adeg o’r flwyddyn mae hynna? Wel, mi fydd raid i chi brynu’r llyfr i gael gwybod. £6.99 gyda llaw – a bargen yn fy marn i. Dyma’r math o lyfr y byddwn i wedi troi’n ôl ato droeon pan ro’n i’n blentyn oedd yn hoffi gwneud pethau – a rwan dwi’n fodryb sydd angen syniadau be i wneud efo plant y teulu ‘ma weithiau. Handi iawn.

Elfen arall wnes i ei hoffi oedd y rhigymau a’r penillion dwi’n eu cofio o fy ieuenctid ac sydd angen i blant heddiw eu dysgu:

20190523_180502

Mae ‘na lyfr Cymraeg arall i blant newydd wneud hynna – mwy am hwnnw tro nesa.

Dwi jest isio gorffen efo sylw am ddau lyfr Saesneg dwi newydd eu darllen, dau sy’n debyg iawn o ran yr arddull ‘comic’ neu graffig, sef Invisible Emmie, am blentyn swil:

th-1

Ac El Deafo, ia, am blentyn byddar:

th-5

Roedd/mae y ddwy awdures yn swil a byddar eu hunain felly mae pob gair a sefyllfa yn taro deuddeg. Ac ro’n i wrth fy modd efo hiwmor Invisible Emmie:

Roedd El Deafo yn hynod onest a digri hefyd.

20190521_183657

Fel oedolyn, dwi wedi dysgu be i beidio ei neud, a be i’w neud yng nghwmni pobl hynod swil neu fyddar. Hynod addysgiadol a hynod ddifyr. Rwan, dwi ddim isio i rywun gyfieithu’r rhain, ond does na’m byd o’i le efo ‘benthyg’ y syniad a chreu rhai cwbl wreiddiol o brofiad plant sydd wedi mynd drwy’r un profiadau, nagoes?

Straeon Nos Da Sali Mali

Published Mai 3, 2019 by gwanas

Dwi wedi bod yn rhy brysur yn darllen nofelau oedolion ar gyfer cwrs dysgwyr yn Nant Gwrtheyrn fis nesaf i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg i blant, mae arna i ofn.

Ond dyma newyddion da i chi:

Bydd cyfrol o’r enw Straeon Nos Da Sali Mali yn cael ei chyhoeddi gan Gomer fis nesaf i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 mlwydd oed. Pen-blwydd hapus Sali Mali!

th

Bydd y gyfrol yn cynnwys deuddeg stori gan yr awduron canlynol:-

Heledd Cynwal, Tudur Dylan, Bethan Gwanas (ia, dyna sut dwi’n gwybod am y gyfrol…), Mererid Hopwood, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Gruffudd Owen, Elen Pencwm, Eigra Lewis Roberts, Ifana Savill.

image001

Roedd rhwydd hynt i’r awduron sgwennu am unrhyw gymeriad o blith ffrindiau Sali Mali, a dewis sgwennu am y Pry Bach Tew wnes i.

th

Ond bydd yr arlunydd Simon Bradbury wedi gwneud lluniau newydd sbon i fynd efo pob stori, yn ogystal â’r clawr hyfryd ‘na a dwi’n eitha siŵr mai un arall o’i luniau o ydi hwn:

th

Del ynde? Edrych ymlaen!

O, ac mae’n rhaid i mi sôn am y blog sgwennais i fis Mawrth am ‘Sut i hybu darllen.’ Dwi wedi darllen 4 o’r llyfrau oedd ar y silff hon bellach, ac wedi mwynhau pob un yn arw!

D19kY0iW0AEoGqs

Mae Splash, Boy in the Tower, Survivors a The Wizards of Once yn arbennig. A faswn i ddim yn gwybod hynny onibai am y silff o lyfrau gafodd ei dewis gan ferch ysgol Blwyddyn 6. Oes gan rywun arall silff debyg i’w dangos i ni?

Un peth arall:
Bu Lleucu Roberts a minnau yn Ysgol Penweddig ddydd Mercher i ddathlu bod ein triolegau ar gyfer yr arddegau wedi eu cyhoeddi – yn swyddogol!

D5etayHW4AEtxDH

Gawson ni dipyn o hwyl efo’r criwiau – Blwyddyn 7 a 9. Croesi bysedd y byddan nhw’n mwynhau darllen y tair – neu’r chwech – nofel rŵan. A tydi clawr Afallon yn wych? Mi wnes i fachu un o’r posteri… peidiwch â deud.

D5Tph07WkAEOXHw

D2qFnVSX0AESyGE