Mae’r haul allan a dwi wedi bod ar y beic efo Del.
( dwi isio sgwennu nofel o safbwynt ci ryw dro…)
Ro’n i’n dathlu am mod i wedi rhoi’r stori Botany Bay i gyd i lawr erbyn ugain munud i ddau echdoe – yn y bore.
Dwi ddim wedi teipio ‘Y Diwedd’, achos dydi’r diweddglo ddim yn iawn eto ac mae gen i dipyn o waith ffidlan i’w wneud efo ambell linyn storiol, ambell gymeriad hefyd, ond mae’r stori i gyd yna. Nefi, mae’n ryddhad. Mi gai drefn ar fy nesg eto toc, a mynd a’r mynydd o lyfrau ffeithiol am longau a ‘convict women’ ac ati ac ati yn ôl ar y silffoedd neu i’r llyfrgell.
Ond dwi ddim wedi gorffen! O, nacdw, ond o leia dwi’n teimlo’n ddiogel. Dwi’n gallu gweld y lan ac mae’r storm wedi cilio. Ffiw.
A dwi newydd gael galwad ffôn gan ddynes hyfryd hyfryd o’r swyddfa dreth yn dweud nad ydyn nhw’n mynd i fy nghosbi i am fethu gwneud syms wedi’r cwbl.
A dwi wedi cael llythyr yn y post efo copi o bapur bro hollol wych – Barn y Buarth.
Cliciwch ar y lluniau i’w gwneud yn fwy.
Plant sy’n ei sgwennu a’i argraffu o mae’n debyg: Sofia, Steffan ac Elinor o Aberystwyth. O rywle o’r enw Heol y Buarth, dwi’m yn amau…
Dyma’r 5ed rhifyn ac mae o’n hyfryd!
Ro’n i’n hoffi’r gystadleuaeth gerdd gocos yn arw:
Da ynde?
Ond yn fwy na dim, ro’n i’n hoffi’r adolygiad hwn o ‘Llwyth.’
Dyna’r adolygiad cynta i mi ei weld gan blant, a dwi’n hapus iawn, iawn efo fo.
Mae o gymaint pwysicach na barn oedolyn, rhyw riant neu athro tydi? – Dwi’n hoffi clywed barn rheiny hefyd wrth reswm, ond barn y plant sydd bwysica o bell ffordd.
Mwy os gwelwch yn dda, a mwy o gylchgronau fel hyn gan blant!