
Dwi wedi mwynhau’r nofel hon yn arw! Do, mi gafodd ei hysbrydoli gan y ffaith bod Manon, merch yr awdur wedi gwirioni efo llyfrau Harry Potter, ac ydi, mae Cadi Goch yn mynd i ysgol swynion (mae’r cliw yn y teitl…) ond dydi hi ddim yn copïo llyfrau JK Rowling o gwbl. Mae hon yn nofel gwbl Gymreig a Chymraeg am ein hud a lledrith cynhenid hi – Annwfn, y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd – maen nhw i gyd yma. A dwi mor falch!
Dwi’n falch, ac wedi cynhyrfu braidd, achos mae Simon Rodway yn awdur dawnus sy’n gwybod sut i ddeud stori, sut i gadw diddordeb y darllenydd, sut i chwarae efo hiwmor, ac mae cymeriad Tractor yn gampwaith!

A deud y gwir, mae’r cymeriadau i gyd yn taro deuddeg, ond dwi ddim isio deud mwy llawer amdanyn nhw achos dwi ddim isio difetha’r darganfod i chi. Ond ro’n i’n falch iawn o weld cymeriad o’r enw Mohammed yma. Yn ara bach, mae PAWB sy’n ddarllenwyr Cymraeg yn cael gweld plant fel nhw yn ein llyfrau. Hen bryd. Ac mae Mohammed yn chwip o gymeriad. O, ac mae o’n ‘gog’ ynghanol ‘hwntws’.
Un o’r Alban yn wreiddiol ydi Simon, ond fasech chi byth yn deud gan fod ei Gymraeg o mor rhugl. Cymraeg Ceredigion, lliwgar, hyfryd. Felly ie, iaith y de sy’n y llyfr, ond mae’n hawdd iawn i gogs ei ddeall, heblaw am hwn o bosib:

Do, mi wnes i ŵglo. A dyna i chi air arall dwi isio’i fabwysiadu, fel cwtsh a lapswchan. Piffgi! Mae cacynen yn iawn, ond mae piffgi yn wych.
Dyma’r dudalen gynta i chi gael gwell syniad o’r arddull. Ar gyfer plant 7-12 oed, rhywbeth felly? Ond 12 + hefyd yn fy marn i.
Dwi’n teimlo reit eiddigeddus o blant heddiw – doedd ‘na ddim byd fel hyn yn Gymraeg pan ro’n i’n 7-12 oed, a dyma’n union y math o lyfr fyddai wedi apelio ata i. A dwi ddim wedi newid/aeddfedu llawer…

Ar gefn y llyfr, mae’n deud bod Simon, fel arfer, yn “ysgrifennu pethau diflas iawn am yr ieithoedd Celtaidd, a dyma’r tro cyntaf iddo ysgrifennu llyfr diddorol!” Darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ydi o dach chi’n gweld, mae gynno fo radd mewn Astudiaethau Celtaidd a PhD mewn Cymraeg Canol ac mae’n siarad sawl iaith. Felly mae o’n gwbod ei stwff o ran hen straeon Cymru fel y Mabinogi a’r Tylwyth Teg ac ati, ac mae hynny’n dangos.
Ond yn bwysicach na dim, mae o’n dad i Manon ac Idris, ddylai fod yn falch iawn o Dad. Mae o’n amlwg wedi gwrando arnyn nhw a dysgu be sydd ei angen ar gyfer darllenwyr yr oed yma.

Un peth do’n i ddim cweit yn ei ddallt: mae’r Tylwyth Teg yn Annwfn (wel, rhai ohonyn nhw) yn siarad iaith o’r enw Annyfneg:
‘Eki feles gari?’
‘Eki loko loko.’
Pam y ‘k’? Gan fod ‘c’ yn gwneud sain ‘k’ yn Gymraeg? Mae’n gwneud iddo fo edrych fel iaith ddiarth, ydi, a dwi ddim yn cwyno, dim ond yn gofyn.
Chwip o lyfr (er nad ydi’r clawr cweit yn taro 12 efo fi – ond dwi ddim yn 7-12 oed) ac os na fydd dilyniant, mi fydda i a nifer o ddarllenwyr ifanc yn siomedig. Tynn dy fys mas, Simon! – fel y byddai Tractor yn ei ddeud – am wn i.
Os dach chi isio gwybod mwy, mae ‘na fidio o sgwrs ddifyr rhwng Simon Rodway ac Eurig Salisbury fan hyn: