Archif

All posts for the month Rhagfyr, 2017

Siôn Corn a’r anrheg gorau un

Published Rhagfyr 26, 2017 by gwanas

sion_corn_ar_anrheg_gorau_un

Braidd yn hwyr, mi wn, ond mae’r gyfrol hyfryd hon wedi gwerthu’n dda iawn, iawn, mae’n debyg, (llyfr y mis i blant, fis Tachwedd) felly doedd hi ddim angen fy help i – ac mi fydd yn siŵr o werthu’n dda eto Nadolig nesa ac am sawl Nadolig i ddod. Mae’r ffaith bod 2 fersiwn ar gael – Cymraeg a Saesneg (Santa’s Greatest Gift), yn help, hefyd. Llyfr sy’n sôn am Gymru yn Saesneg – ieee!

Tudur Dylan pia’r geiriau

dylan_01

a dyma enhraifft ohonyn nhw:

image

Ydi, mae’r cyfan yn odli. Bardd ydi o, be dach chi’n ddisgwyl? Ac mae o’n gallu odli yn Saesneg hefyd:

image

Ac mae darllen y fersiynau Cymraeg a Saesneg efo’i gilydd yn hwyl! Ymarfer da i Gymry bach wella eu Saesneg ac i ddysgwyr bach (a mawr) wella eu Cymraeg.

Valériane Leblond pia’r lluniau hyfryd:

DQSXNyIWAAAi3iB

image

image

a da ydi’r map o Gymru:

image

Mae’n gyfrol wirioneddol hardd ddylai apelio at blant hyd at rhyw 8-10 oed, unai fel llyfr i’w ddarllen yn uchel i’r rhai bach amser gwely neu i’r rhai hŷn ei ddarllen drostyn nhw eu hunain. Ac fel ddeudes i eisoes, mi fydd yn apelio bob Nadolig am oes! Fydd Gwydion bach yn cael anrheg Nadolig fel pawb arall? Mi fydd raid i chi gael copi o’r llyfr i weld yn bydd?

Advertisements

Yr Ynys – nofel ar gyfer yr arddegau hŷn

Published Rhagfyr 22, 2017 by gwanas

image

Ro’n i ar dân isio darllen hon, y gyntaf yn nhrioleg YMA ar gyfer yr arddegau hŷn gan Lleucu Roberts. Yn un peth, mae’r clawr yn denu, yn ail, dwi’n ffan o waith Lleucu, ac yn drydydd, dwi wedi derbyn comisiwn tebyg gan Lywodraeth Cymru i greu trioleg ar gyfer yr arddegau (Cyfres Melanai), ac roedden ni’n dwy yn sgwennu ar yr un pryd ac yn gorfod cyflwyno ein drafftiau yr un pryd. Sôn am roi pwysau ar rywun!

Felly ro’n i’n edrych ymlaen i’w darllen ond hefyd rhyw fymryn yn nerfus. Mae Lleucu wedi ennill llwyth o wobrau am sgwennu! Gwobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff,

ac yn 2014, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.

_76785715_eist_06_seremoni_priflenor_rhyddiaith

Ac ydi, mae Lleucu wedi llwyddo i daro deuddeg eto. Mi wnes i fwynhau Yr Ynys yn arw! Nofel ‘ddyfodolaidd’ ydi hi, wedi ei gosod yn y flwyddyn 2140. Dyma’r sefyllfa yn fras: cyn i fomiau niwclear ddod yn agos at ddinistrio bywyd ar y ddaear yn 2030, aeth 49 o bobl (yn cynnwys Cymry) i guddio mewn ogof ar ynys oer, anghysbell.

image

Ynys fwyaf ynysoedd Svalbard yn yr Arctig, yn perthyn i Norwy ydi Spitsbergen – a dwi wedi bod yno – pan ro’n i’n ffilmio efo cyfres Ar y Lein! Lle anhygoel.

polar-bears-svalbard-norway

Yn ôl at y stori: ganrif yn ddiweddarach, ar ôl ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr, mae cymdeithas wedi datblygu ar yr ynys, sy’n siarad Cymraeg a Norwyeg, ac sy’n cynnwys ein prif gymeriadau: Gwawr, sy’n 15, a Cai ei ffrind sy’r un oed. O, ac maen nhw’n bwyta cŵn gyda llaw…yn amlwg, does gan Lleucu ddim ci!

Mae Gwawr wrth ei bodd yn darllen dyddiaduron Mam Un, sef y ferch oedd yn un o’r 49 person lwydddodd i oroesi yn 2030. Roedd honno wedi mynd ati i nodi pob dim allai hi ei gofio am fywyd a chymdeithas – a Chymru – cyn i bopeth fynd ar chwâl.
Yn raddol, mae’r ynyswyr yn trefnu teithiau i weld be a phwy sydd ar y tir mawr, a rŵan, maen nhw’n trefnu taith yn ôl i Gymru, ac mae Cai a Gwawr yn benderfynol o fod yn rhan o’r criw.
Dwi ddim am ddeud mwy am y plot, ond mae’r llyfr yn gorffen mewn man lle byddwch chi i gyd yn ysu i weld be fydd yn digwydd yn yr ail gyfrol. O, ac mae ‘na ddarn brawychus roddodd goblyn o sioc i mi!

Dyma’r dechrau i chi gael blas:

image

A dyma adolygiad yn Barn ( ac un o fy nofel innau) a diolch, olygyddion Barn am roi cystal sylw i lyfrau plant a phobl ifanc:

image

A dyma i chi rai o eiriau doeth yr awdur ei hun:

‘Does dim i gymharu â’r dychymyg arddegol, ysfa pobl ifanc i ddianc i fyd arall, i fywydau eraill mewn oes wahanol. Dim ond cynnig egin stori mae’r awdur yn ei wneud – agor llifddorau’r dychymyg,’ meddai Lleucu Roberts. ‘Y darllenydd sy’n rhoi lliw a sain, anadl a bywyd i’r byd newydd.’

Bydd yr ail yn y ddwy drioleg yn dilyn yn Hydref 2018 ac mi fyddwn ni’n dwy yn mynd ar daith o amgylch ysgolion yn y flwyddyn newydd er mwyn trafod y nofelau.

Yn y cyfamser, mae’r ddwy ar werth am £5.99 yr un (Y Lolfa).

Cyfaill darllen a Nadolig Gwyntog Rwdolff

Published Rhagfyr 19, 2017 by gwanas

Mi fues i ar fy ymweliad un-bob-tymor i Ysgol Bro Cinmeirch bore ma. Dwi’n ‘Gyfaill Darllen’ iddyn nhw ers blynyddoedd rŵan, ers i gynllun ‘Patron of Reading’ ddechrau. Hynny yw, dwi’n mynd yno i ddarllen ac i drafod llyfrau yn rheolaidd, a dwi wrth fy modd efo’r ffaith fy mod i’n nabod y plant a’r plant yn fy nabod i. Iawn, dwi’m yn cofio enwau pawb – dwi’m yn eu gweld nhw mor aml â hynna! Ond dwi’n cofio be maen nhw’n hoffi ei ddarllen…
Dyma ni bore ma, efo’r rhai oedd wedi cael sticeri Sêr Darllen a Darllenwyr Da yn Blwyddyn 5 a 6:

image

Roedd yr athrawon yn enwebu darllenwyr o bob blwyddyn; maen nhw’n gneud hynny bob tymor, a dwi’n siŵr bod hynny yn eu hannog i ddal ati i ddarllen ac i drio cael eu henwebu y tro nesa. Ond hyd y gwn i, fi ydi’r unig awdur sydd wedi ei mabwysiadu fel cyfaill darllen Cymraeg. Mae na gannoedd o rai Saesneg yn Lloegr a’r Alban! Dowch ysgolion Cymraeg, y cwbl sydd ei angen ydi dewis awdur, a thalu am eu hamser am fore neu bnawn. Gwell dewis un gweddol leol i osgoi costau teithio mawr. Rhowch gynnig arni yn 2018. Rhowch ‘Patron of reading’ yn Google am fwy o wybodaeth.

Dwi’m yn gwybod os ydi hyrwyddo darllen wedi cyfrannu at lwyddiant sgwennu creadigol y criw ond daeth 2 o blant Ysgol Cinmeirch i’r brig yn Nghystadleuaeth Straeon Nadolig Aled Huws. Un yn agos iawn iawn, sef Alex a dyma hi – efo fi yn darllen ei stori hyfryd o flaen gweddill yr ysgol:

image

A dyma’r bachgen gafodd ei ddewis fel un o’r 5 awdur gorau yn darllen ei stori yntau:

image

Gewch chi wybod ei enw o bore fory, ar Radio Cymru, achos ei stori o fydd yn cael ei darlledu y tro yma! Sgwn i os fydd yr actor go iawn yn ei darllen cystal ag y gwnaeth yr awdur bore ma…

Un stori wnes i ei darllen i’r criw iau oedd hwn:

image

Nadolig Gwyntog Rwdolff. Ia, addasiad, a dwi’n trio osgoi rhoi sylw i addasiadau ar draul llyfrau gwreiddiol Cymraeg, ond mae hwn yn addasiad mor dda, alla i ddim peidio.

image

Dewi Pws a’i wraig hyfryd, Rhiannon sydd wedi ei addasu, a gan fod y stori ar ffurf mydr ac odl, doedd hynny ddim yn hawdd.

image

Ond maen nhw wedi llwyddo’n wych efo’r stori hon am Rwdolff druan yn pwmpian/cnecu dragwyddol oherwydd ei fod wedi bwyta gormod o sbrowts!

imageimage

Gwych. Da iawn Dewi a Rhiannon. Roedd y plant yn eu dyblau! Yn bendant, does na ddim digon o lyfrau Cymraeg yn sôn am bwmpian a chnecu ac ati. Felly dwi’n gobeithio llenwi’r bwlch fymryn efo antur nesa Cadi…

Straeon Nadolig Rhaglen Aled Hughes 2017

Published Rhagfyr 14, 2017 by gwanas

p02md0mv

Os wnaethoch chi golli rhaglen Aled Hughes bore ’ma, roedd Casia Wiliam (Bardd Plant Cymru)
Bardd_Plant_ir_Wefan

a fi yn cyhoeddi 5 enillydd cystadleuaeth Straeon Nadolig 2017. Roedd ’na gannoedd wedi gyrru eu straeon i mewn, a iechyd, roedd ’na rai da yno, o hanes coeden Nadolig unig yn ysu am gael ei hanrheg Nadolig ei hun, i Donald Trump yn cael swydd Sion Corn, i dad yn dod adre o’r rhyfel, i raglen deledu ‘realaeth’ yn dewis Sion Corn newydd, i fachgen yn helpu Sion Corn allan o’r simdde efo cymorth JCB digar bach 8018

67

ac yn cael Massey Ferguson 135 a digar mawr Dossan 340 yn anrheg! Ia, dwi’n meddwl mai plentyn ffarm/contractor oedd hwnna…

Roedd Casia a finna yn rhyfeddol o gytun, diolch byth. Dim cega na ffraeo y tro yma, ond roedden ni isio canmol pawb a rhoi sylw arbennig i’r rhain: ‘Y Bocs Esgidiau’ gan Lemonêd o Ysgol Bro Cinmeirch – ddest ti’n agos iawn Lemonêd! Hanes bocs sgidiau oedd hwn, o safbwynt plentyn sy’n ei lenwi, y ddoli glwt sy’n cael ei rhoi ynddo fo a’r plentyn sy’n derbyn y bocs. Hyfryd.

A stori ‘Y Sion Corn Newydd’, sef Donald Trump o bawb gan y Corach Drwg – sgwennu a hiwmor arbennig!
IKD9VWjDuhj49cdhvDShwvP2ptIEDcAEIMQYnlkIB9vJ_c2rToXmyatlWeRVdnR3RYm0aA=s128

Y Welsh Whisperer sydd â chwpwrdd sy’n mynd a’r awdur i wlad y Nadolig. Sgwennu disgrifiadol hyfryd.

Ro’n i hefyd yn hoff iawn o ‘Y Mwclis Hud’ gan Enfys a ‘Nadolig am Byth’ gan Bob Sgwîc, ‘Y Robin Goch tew’ gan Casi Wasi, ‘Lili yn dysgu gwers’ gan Rwdolff, ‘Sat Nav’ gan Rhys Webb, ‘Yr addurniadau amryliw’ gan ‘Y Diwedd’ – doedd na ddim ffug enw, felly mae’n rhaid mai ‘Y Diwedd’ oedd o?!
A ‘Y corach bach direidus’ gan Martha Plu Chwithig. Ac roedd Casia’n canmol rhain i’r cymylau hefyd (a finna o ran hynny!): ‘Y Nadolig’ gan Twmi Twrci,
‘Llond Bol!’ gan Jeff, a ‘Nadolig o Chwith’ – Erin Thomas.

Ond dyma’r pump a ddaeth i’r brig, ac mi gewch chi glywed enwau go iawn yr awduron a chlywed actorion yn darllen y straeon wythnos nesa ar Radio Cymru. Bydd Aled yn cael sgwrs efo enillydd gwhanol bob dydd am tua 8.50, ac wedyn bydd y stori yn cael ei darlledu am 9.30am. A dwi’n meddwl mai yn y drefn yma y bydd hynny’n digwydd.

Tanta-ra-ra:

‘Sebona ni!’ gan Jac Junior
Sgwennwr hyderus, cry sy’n defnyddio cymariaethau gwych fel “yn crynu fel peiriant golchi ar sbin clou.” Ac mae’n gallu gneud acenion y de a’r gogledd, neu o leia ‘gog’ Yws Gwynedd, sydd, fel mae’r teitl yn awgrymu, â rhan go fawr yn y stori! Mae geiriau ei ganeuon o yn y ddeialog, yn cynnwys y ‘sebon’. Syniad gwreiddiol, gwahanol, wedi ei ddeud yn arbennig o glyfar a gwreiddiol ac mi fydd Yws Gwynedd wrth ei fodd. A ffans Yws Gwynedd.
Yws-Gwynedd-WP

‘Bicini mamgu’ gan Carol.
Hanes digri dyn eira aniolchgar wedi laru gwisgo hen gôt a het ddu ddiflas. Mae o isio bod yn yr haul a chael het wellt a hufen iâ ayyb. Mae’r plant yn y stori yn gall a chlyfar iawn – fel yr awdur – ac mae’r diweddglo yn hyfryd. Ysgrifennu bywiog, byrlymus, gwych.
109328

‘Santa Bond – Opereshyn Nadolig’ gan Gareth Bale.
james-bond-santa1

Y syniad mwya gwreiddiol o’r cwbl? Mae pob gwlad yn y byd, heblaw Cymru wrth gwrs, yn ceisio dal ‘dybl jingl 7’ sef Santa Bond, wrth iddo fo drio rhannu anrhegion i blant y byd, ac mae’n mynd o wlad i wlad yn defnyddio ei chwistrell anweladwy a’i sgiliau karate i ddianc rhag crafangau’r bobl ddrwg ’ma, a llwyddo i rannu anrhegion er gwaetha bob dim. Mae’r deud yn wych, yr hiwmor yn arbennig a’r diweddglo yn glincar.

‘Diwrnod i’r defaid’ gan Myfanwwwwwa.
Mae Sian Corn wedi rhoi sgewyll yn frecwast i’r ceirw. O na! Mae’r disgrifiad o’r canlyniad yn hynod ddigri. Ac ‘erchyllolrwydd y sefyllfa’ ! Waw! Defaid Wiliam Morgan sydd yn achub y dydd. Ysgrifennu cryf, naturiol fel ‘trafod a stachu a llwytho’ – blas y pridd ar hwn. Ardderchog.

CW_Ea3tWwAAHt1T

‘Mabon’ gan Wil Cwac Cwac.
unknown-6

Mae hon yn wahanol iawn i’r lleill. Stori deimladwy, hyfryd sy’n teimlo mor wir. Ymson chwaer neu frawd plentyn o’r enw Mabon ydi hi, a wna i ddim difetha’r stori drwy ddeud be’n union sy’n digwydd ynddi, ond mae hi wedi ei sgwennu mor dda, mor gynnil, yn datgelu be sy wedi digwydd yn raddol, ac efo ‘pluen’ o hiwmor. Ardderchog. Deunydd nofelydd fan hyn yn bendant.

Llongyfarchiadau i bawb, a sori sori sori i’r gweddill – roeddech chi i gyd yn dda iawn. Edrych mlaen yn arw i glywed y straeon rŵan – a chlywed pwy yw’r awduron!

Bethan Mai

Published Rhagfyr 9, 2017 by gwanas

Mi wnaeth darluniau cyfrol Brên Babi (gwych ar gyfer pob mam a darpar fam!) gan Mari Lovgreen dynnu fy sylw yn syth:

DQZmnywVQAIgVhEDQZmnyyUQAAX7E7DQZmnzAUQAEs_q1

Felly mi wnes i benderfynu darganfod mwy am Bethan Mai, yr arlunydd.

18808784_1849604495362127_1242021357076611072_n

Mae’n dod o Bontiets yn wreiddiol. “Wedi caru neud llunie erioed. Ces i ngofyn i neud Brên Babi pan on i’n feichiog iawn, o nhw ddim yn gwbod hynny pan ofynnon nhw i fi, cyd ddigwyddiad oedd e! Ond amserol iawn.

Fy hoff ffurf ydi pen ac inciau.
17333833_318641475217991_68182979486154752_ncropped-bm16-4bm16-131

Mae gen i gwmni celf- morgimorgi.com lle fi’n argraffu fy llunie ar ddillad a phrintiau a fi’n angerddol iawn am gael deunydd masnach deg sy’n dda i’r amgylchedd. Ar y foment mae gen i gasgliad wedi’i selio ar fenywod cryf – maen nhw yn ysbrydoli fi yn ddi ben draw. Fi hefyd yn hoffi darlunio creaduriaid a chymeriadau bach rhyfedd.

Hyfforddais i mewn celf yng Nghaerfyrddin ac ym Mryste, ac wedyn es i mlaen i neud gradd mewn actio yn y Central School of Speech and Drama yn Llunden. Ers hynny fi wedi bod yn neud cymysgedd o gelf, actio a cherddorieth (band Rogue Jones a Huw M, a peth solo fy hun.

p036gswn

Fi’n gyffrous i neud mwy o ddarluniau llyfr pan byddai ddim ar gyfnod mamolaeth mwyach. Fi’n caru bod yn fam, mae Tanwen Antur bellach yn 4 mis oed ac yn hudolus. Fi’n byw gyda fy ngŵr, Ynyr, sef fy nghyd frontman o’n band ni- Rogue Jones, Tanwen a’n ci bach drygionus Myfi Mŵg. Fi’n credu bod Myfi Mŵg yn haeddu cyfrol ei hun!”

Diolch Bethan – a phob lwc efo bob dim!

Llyfrau am yr amgylchedd/llygredd

Published Rhagfyr 8, 2017 by gwanas

Gan fod yr amgylchedd a’r llygredd ofnadwy sydd yn ein moroedd gymaint yn y newyddion y dyddiau yma,

dyma chydig o lyfrau Cymraeg i blant sy’n delio gyda’r pwnc:

220px-Curig_a'r_Morlo_(llyfr)image.png

Stori ar ffurf cerdd i blant 7-9 mlwydd oed gan y diweddar Gareth F Williams. Mae Curig yn cael syndod mawr wrth glywed morlo yn dweud y drefn wrtho am gicio tun i’r môr. Ond mae gwaeth i ddod wrth i’r morlo fynd ag o ar daith anhygoel i weld y llanast ofnadwy y mae llygru diofal pobl yn gallu ei wneud i fyd natur. Stori llawn antur, am gyfrifoldeb pob un ohonon ni i warchod ein byd.

A fy ail lyfr i am helyntion Cadi – Cadi dan y Dŵr, lle mae Cadi yn cael gweld y drwg sy’n cael ei wneud i’r creaduriaid sy’n byw yn y môr. Addas i blant 4-8 oed.

Layout 1cadi danydwr p12

Dyna hi’n cael ei dal yn taflu potel blastig i’r môr…

Ydach chi’n gwybod am fwy o lyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg am y pwnc tybed? Rhowch wybod. Yn y cyfamser (er i mi ddeud mai dim ond rhoi sylw i llyfrau gwreiddiol ydi bwriad y blog hwn!) dyma addasiadau o’r Saesneg sydd ar gael:

Bywyd Gwyllt mewn Perygl: Mae cyfres y Green Gate yn edrych ar faterion amgylcheddol fel egni, gwastraff, llygredd a newid hinsawdd. Mae’n cynnig atebion a dulliau ymarferol i gadw’r Ddaear yn wyrdd ac yn le braf i fyw ynddo. Addas ar gyfer plant rhwng 10 a 14 oed.

panda
getimg-3getimg-1

Sglod ar y môr: Stori ddifyr a lliwgar am Sglod y ci doniol yn mynd i forio ar gwch Capten Caradog gan achub dolffin bychan rhag cael ei ddal mewn bag plastig a dysgu gwers bwysig am beryglon llygredd; i blant 5-7 oed.

Y Tŵr at yr Haul: Addasiad Cymraeg o The Tower to the Sun, stori dyner a thrist am ymdrech un hen ŵr a’i ŵyr i oresgyn effeithiau llygredd yn yr amgylchedd trwy adeiladu tŵr uchel drwy’r cymylau tywyll sy’n gorchuddio’r ddaear er mwyn gweld yr haul unwaith eto, i ddarllenwyr 7-11 oed.

A dyma un o’r nifer sydd ar gael yn Saesneg:
9781457530555

A oes angen mwy o rai gwreiddiol yn Gymraeg? Yn fy marn i, oes, yn bendant!

Gawn ni stori?

Published Rhagfyr 5, 2017 by gwanas

gawnnistori

Mae hwn yn berl o gasgliad. Dyma gyfrol clawr caled o 24 o chwedlau a straeon am arwyr Cymru gan y diweddar John Owen Huws.

JOH

Dim ond 49 oed oedd John pan fu farw yn 2001, ond nefi, mi wnaeth o gyflawni cymaint yn ei fywyd. Mi wnes i ddod i’w nabod pan gawson ni’n dau swyddi efo Radio Cymru nôl yng nghanol y 1980au. Swydd ymchwilydd ges i, ond aeth o’n syth i mewn fel cynhyrchydd – ac mi fu’n chwip o gynhyrchydd. Roedd o wedi bod yn athro hefyd (dwi’n siŵr ei fod o’n un gwych; roedd o’n wych am adrodd stori) ac roedd o’n arbenigwr ar straeon gwerin. Dyna pam gyhoeddodd o lu o lyfrau i blant ac oedolion am straeon ac arferion Cymru, yn cynnwys 6 cyfrol o ‘Gawn Ni Stori?’

muVFRsNXb91PnWf-JbRx9dA

a detholiad o’r llyfrau hynny sydd fan hyn. Ymysg y straeon mae hanes y Brenin Arthur, Jemeima Niclas, Dewi Sant, Gwrachod Llanddona, Gwenllian, Barti Ddu a llawer iawn mwy, ac mae Dorry Spikes wedi gwneud darluniau du a gwyn hyfryd i fynd efo nhw:

IMG_4165

image
image

Fel y gwelwch yn y llun uchod, mae arddull John yn glir, yn fywiog, ac yn hawdd ei ddarllen. Jest y peth i ddod â’n straeon a’n hanes ni yn fyw i blant heddiw.

Mae’n costio £13.50 ond mae hynna’n fargen am lyfr clawr caled sydd mor llawn o straeon difyr. Dwi wedi dysgu llawer iawn wrth bori drwyddo, ac mae o’r math o lyfr neith bara – mi allwch chi ddarllen am Faes Gwenllian un noson, Melangell ar noson arall, ac os dach chi isio stori sy’n dod ag Owain Glyndŵr yn fyw, mae John wedi cynnwys sgyrsiau rhyngddo a Hywel Sele, a llythyrau dychymygol – ond digon agos at y gwir rhwng abad Abaty Cymer, Owain a Hywel Sele.

Mi neith anrheg Nadolig hyfryd i unrhyw aelod o’r teulu, ac mi fydd yn ddefnyddiol iawn i athrawon ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwedlau a hanesion Cymru. Fy unig gwyn ydi bechod nad yw’r lluniau mewn lliw, yn enwedig o gofio bod Dorry’n wych efo lliwiau. Ond dwi’n deall pam – mi fyddai’r gyfrol yn gorfod bod yn ddrytach wedyn. Ac mae lluniau du a gwyn yn aml yn fwy trawiadol. Be dach chi’n ei feddwl?

O, a dyma i chi ddifyr – dyma be sy’n digwydd yng Ngwlad yr Ia ar noswyl Nadolig. Darllen llyfr a bwyta siocled yr un pryd! A llyfr sydd wedi cael ei ddewis yn ofalus i chi… nefoedd. Dwi wedi bod isio mynd i Wlad yr Iâ erioed, a dwi’n bendant am fynd rŵan!

image

A tydi Jolabokaflod yn air gwych? Digon hawdd ei addasu i’r Gymraeg hefyd: be am jolabocaflio Dolig yma?