
Dyna pam fod darllen mor bwysig! Wel, dim ond un rheswm.
Mi wnes i gyfrannu i sgwrs radio am ddarllen wythnos diwetha. Roedd cwmni o’r enw Renaissance UK wedi cyhoeddi canlyniadau am safonau darllen plant Cymru, Lloegr, yr Alban a’r Iwerddon, ac yn ôl hwnnw, roedd plant Cymru, fel Lloegr, yn darllen llyfrau mwy anodd na phlant yr Alban ac Iwerddon. Ond roedd plant yr Alban a’r Iwerddon yn deall eu llyfrau yn well.
Wel, dydi hynna ddim yn beth da nacdi? Be ydi pwynt darllen llyfr os nad ydach chi’n ei ddallt o?

Falle y gwnewch chi ddysgu ambell air newydd, ond wnewch chi ddim mwynhau’r profiad o ddarllen llyfr fel’na; fydd o ddim yn bleser na fydd? Ac yn yr oes hon, efo cymaint o bethau ‘haws’ na darllen, mae angen i blant gysylltu darllen efo pleser!
Mae hyn yn golygu felly nad yw plant Cymru yn cael y llyfrau cywir ar eu cyfer nhw. Doedd yr adroddiad ddim yn sôn am yr iaith Gymraeg, felly dwi’n cymryd mai sôn am lyfrau Saesneg ydan ni, ond mae’r egwyddor yr un fath yn y ddwy iaith.

Dwi’n gwybod am rai athrawon sy’n deud – “Dim bwys os nad ydyn nhw’n dallt, y ffaith bo nhw’n darllen sy’n bwysig.” Lol botes! Sôn am feithrin darllenwyr ydan ni, nid ticio bocsys.

Diolch byth, roedd ‘na dips da yn yr adroddiad, fel:
1. Rhaid neilltuo amser i ddarllen – darllen go iawn, tawel, yn yr ysgol ac yn y cartref.
2. Mae angen o leia chwarter awr o amser darllen bob dydd! Er gwybodaeth, os dach chi’n darllen am hanner awr bob dydd rhwng dechrau ysgol gynradd a gorffen ysgol uwchradd, mi wnewch chi ddelio efo 13.7 miliwn o eiriau. Ac i’r gwrthwyneb, bydd y rhai sy’n darllen llai na chwarter awr bob dydd yn delio efo 12 miliwn yn llai o eiriau. Gwnewch y syms…
3. Rhaid cael llyfrau addas i’r unigolyn, ddim yn rhy anodd nac yn rhy hawdd. Os ydyn nhw’n rhy hawdd, dydyn nhw’n gwella fawr ddim fel darllenwyr, ond mae llyfrau rhy anodd jest cyn waethed. Mi fedran nhw ddarllen llyfr heriol ar bob cyfri, ac os ydyn nhw’n ei fwynhau o, mi wnawn nhw ei ddeall o. Y rhan fwya, o leia.
Felly rhaid i athrawon, llyfrgellwyr a RHIENI wneud eu gwaith cartre er mwyn gallu helpu’r plant i ddod o hyd i’r llyfrau iawn. Rhaid nabod y plentyn, gwybod be maen nhw’n ei fwynhau, a gwybod be ydi eu lefel nhw.
4. Mae athrawon cynradd angen mwy o wybodaeth ac arweiniad er mwyn gallu annog a helpu plant i ddewis y llyfrau gorau ar eu cyfer nhw. (Cytuno’n llwyr – deunydd HMS a hyfforddi athrawon fan hyn).
Yn y bôn, rhaid annog darllen er mwyn pleser, nid dim ond i sgwennu traethawd amdano neu i neud ryw waith darllen a deall – sy’n lladd y pleser gan amla!
Hefyd, os nad ydyn nhw’n gweld eu rhieni’n mwynhau darllen a thrafod llyfrau, heb sôn am eu hathrawon, mi fydd yn anos eu darbwyllo bod darllen yn hwyl.
Mae hi mor bwysig annog plant i drafod llyfrau, a chael plant i argymell llyfrau ac awduron i’w gilydd. A dyma i chi syniad da:
(cliciwch ar y lluniau i’w gwneud yn fwy)
Mor syml. Jest dangos dipyn o gloriau llyfrau dach chi’n gwybod bod plant wedi eu mwynhau – ac nid dim ond rhai David Walliams a Roald Dahl, gobeithio. Cymysgedd, amrywiaeth, o rai ffuglen a rhai ffeithiol. Rhowch wybod os ydi o wedi gweithio i chi!
Y gwir amdani ydi ein bod ni i gyd angen cael ein hudo – a’n herio. Ond peidiwch â gwneud be wnes i yn 9 oed, sef ceisio darllen Tom Brown’s Schooldays

ar ôl gwirioni efo’r gyfres deledu yn 1971. Ro’n i wedi gwirioni efo’r bwli, Flashman, am ei fod mor olygus.

Ond roedd y llyfr yn OFNADWY O ANODD! Yn sicr i blentyn 9 oed. Dyma i chi ddarn ohono, ac nid un o’r darnau mwya anodd, iawn!
I sometimes think that you boys of this generation are a deal tenderer fellows than we used to be. At any rate, you’re much more comfortable travellers, for I see every one of you with his rug or plaid, and other dodges for preserving the caloric, and most of you going in those fuzzy, dusty, padded first-class carriages. It was another affair altogether, a dark ride on the top of the Tally-ho, I can tell you, in a tight Petersham coat, and your feet dangling six inches from the floor. Then you knew what cold was, and what it was to be without legs, for not a bit of feeling had you in them after the first half-hour. But it had its pleasures, the old dark ride. First there was the consciousness of silent endurance, so dear to every Englishman—of standing out against something, and not giving in. Then there was the music of the rattling harness, and the ring of the horses’ feet on the hard road, and the glare of the two bright lamps through the steaming hoar-frost, over the leaders’ ears, into the darkness; and the cheery toot of the guard’s horn, to warn some drowsy pikeman or the ostler at the next change; and the looking forward to daylight; and last, but not least, the delight of returning sensation in your toes.