Dach chi’n cofio i mi ganmol nofel ‘Tom’ gan Cynan Llwyd i’r cymylau?

Wel, fo ydi’r awdur diweddara i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau yn blentyn.

Un o ardal Aberystwyth ydi o’n wreiddiol ond mae o bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd gyda’i wraig Rachel. Pan na fydd o’n sgwennu mae’n darllen neu’n gwylio pêl-droed ac yn gweithio i Gymorth Cristnogol. A dyma ei atebion:
1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
Roeddwn i wrth fy modd â llyfrau T Llew Jones – yr antur, yr iaith gyfoethog, y cymeriadau anhygoel.

Dwi hefyd yn cofio darllen cyfres Kevin Crossley-Holland ar fywyd Arthur.

Mae’n drioleg wych sy’n dilyn bywyd Arthur o fod yn fachgen ifanc i fod yn farchog ac yn darlunio’i fywyd fel hanes yn hytrach na chwedl. Un peth da am y drioleg oedd bod yna mapiau ar gychwyn y llyfrau. Dwi’n hoff o fapiau mewn llyfrau!
Ac yn yr ysgol Uwchradd?
Ble i ddechrau?!
Cyfres Artemis Fowl gan Eoin Colfer

Cyfres Alex Rider gan Anthony Horowitz

Cyfres Raven’s Gate gan Anthony Horowitz

His Dark Materials gan Phillip Pullman

Harry Potter (wrth gwrs!)
Llinyn Trons gan Bethan Gwanas

Llyfrau Gareth F. Williams

Cyfres Mortal Engines gan Phillip Reeve

Cyfres Narnia gan C. S Lewis
Skellig gan David Almond

Am wn i, y llinyn sy’n rhedeg trwy’r nofelau hyn yw dôs dda o gyffro, cymeriadau byw a sgwennu a syniadau diddorol. Dydw i ddim yn naturiol yn cael fy nhynnu at yr un genre. Mae yna gymysgwch o nofelau ffantasi, sci-fi, hanesyddol a realaidd yma.
2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Dwi wrth fy modd â llyfrau i blant ac yn falch o weld y diwydiant yn ffynnu. Yn ddiweddar dwi wedi mwynhau Yr Horwth gan Elidir Jones a Huw Aaron,

The Hate U Give gan Angie Thomas,

La Belle Sauvage gan Phillip Pullman, Mae’r Lleuad yn Goch gan Myrddin ap Dafydd,

The Goldfish Boy gan Lisa Thompson,

Liccle Bit a Crongton Knights gan Alex Wheatle, The Explorer a Rooftoppers gan Katherine Rundell,

The Search for Mister Lloyd gan Griff Rowlands, Fi a Joe Allen gan Manon Steffan Ros,

Yr Ynys gan Lleucu Roberts

a Hufen Ia Afiach gan Meilyr Sion…i enwi ond rhai!
3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Rwy’n dwlu ar ddarluniau Jon Klassen. Ef yw awdur ac arlunydd y gyfres I Want My Hat Back, This is Not My Hat ac We Found a Hat.


Mae ei llyfrau a’i luniau yn syml, annwyl ond ar yr un pryd yn eithaf tywyll! Mae’r talentog a hoffus Huw a Luned Aaron yn cynhyrchu gwaith campus yn ogystal, o fapiau o Diroedd Gwyllt y De (Huw yn Yr Horwth) i Fochyn Daear annwyl ei olwg (Luned yn ABC Byd Natur)!

Mae stwff Jeffrey Alan Love (Norse Myths gyda Kevin Crossley-Holland) yn grêt hefyd, er braidd yn frawychus!

Tebyg mai Jac Jones oedd yr arlunydd mi wnes i ei fwynhau ei waith yn gyntaf, yn enwedig ei darluniau yn Lleuad yn Olau gan T Llew Jones.


4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Daeth fy awydd i ysgrifennu o’m hoffter o ddarllen. Gan fy mod yn darllen rownd y rîl, daeth ysgrifennu’n naturiol i mi. Dechreuais ysgrifennu o ddifri rhyw chwe blynedd yn ôl. Sylwais fy mod yn mynd yn rhy hen i gystadlu yn yr Urdd felly es ati i ysgrifennu rhywbeth ar gyfer y goron. Stori fer dywyll iawn. Ond dyna’r tro cyntaf i mi ysgrifennu o ddifri, a rhoi amser ac egni i mewn i’r peth. Mi wnes i wir fwynhau’r profiad, ac mi ges i feirniadaeth hael iawn gan Dewi Prysor. Roedd clywed fod rhywun wedi mwynhau’r hyn yr ysgrifennais, a chlywed awdur fel Dewi Prysor yn fy annog i barhau i ysgrifennu yn sbardun i mi ysgrifennu rhagor. Mae Rachel, fy ngwraig, yn fy annog yn wythnosol i ysgrifennu. Mae hi’n athrawes Gymraeg, felly dwi’n dysgu ganddi hi beth mae ei disgyblion yn hoffi darllen o ran themâu ac arddull.

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Y cyfle i greu cymeriadau a bydoedd newydd. Mae clywed fod pobl yn cael boddhad o ddarllen fy ngwaith yn rhywbeth swreal, ond braf iawn hefyd.
6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Cyhoeddais Tom (Y Lolfa) mis Mai eleni ac mae wedi cael ymateb ffafriol iawn. Mae Tom yn bymtheg mlwydd oed, ac mae ei fywyd yn gymhleth. Mae wedi’i leoli mewn cymuned sydd ddim yn rhy annhebyg i Grangetown yng Nghaerdydd ac rydym yn cyfarfod â chast o gymeriadau annwyl, doniol a boncyrs, wrth i ni weld Tom yn ceisio dod o hyd i ffordd allan o sefyllfa anodd.
7. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Dwi wrthi’n ysgrifennu nofel arall i Y Lolfa. Working title sydd i’r nofel, ond mi fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymgyrch Stori Sydyn sy’n ceisio annog darllenwyr anfoddog i ysgrifennu. Felly gobeithio, fel yn Tom, y byddaf yn llwyddo i ysgrifennu nofel sy’n symud yn gyflym ac sydd â chymeriadau byw ac sy’n trafod themâu cyfoes.

Diolch Cynan, a phob lwc efo’r ail nofel!