Welsh book about adoption

All posts tagged Welsh book about adoption

Y Boced Wag – llyfr am fabwysiadu i blant

Published Hydref 29, 2019 by gwanas

20191006_094034

Y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i gyflwyno’r syniad o fabwysiadu i blant bach dan 7! Syniad gwych gan Eurgain Haf, yr awdur. Ac amseru da hefyd: mae’n Wythnos Mabwysiadu Hydref 14-20 eleni.

Mae Eurgain yn gwybod am be mae’n sôn gan ei bod hi wedi mabwysiadu plentyn pan oedd yn fabi, a ganddo fo y cafodd hi’r syniad o ddefnyddio cangarŵ. Roedd o wedi dod â llun o gangarŵ yn ôl o’r ysgol feithrin, ond roedd o’n edrych yn drist. Gofynodd hi iddo fo pam fod y creadur mor drist. “Am fod ei phoced hi’n wag,” oedd yr ateb. Bosib nad oedd o mor ramadegol gywir â hynna yn yr ysgol feithrin… ond mae’r neges yr un fath.

Y canlyniad ydi llyfr bach annwyl, syml am Cadi’r cangarŵ digalon yn mynd ar antur i chwilio am help i lenwi ei phoced hi. Mae rhai anifeiliaid yn cynnig ei helpu:

20191006_094056

Ond dydi pawb ddim mor glen! Bydd raid i chi ddarllen y llyfr i gael gweld pwy yw’r snichyn… Y coala ydi’r help mwya, yn ei helpu i gael seren er mwyn gwneud dymuniad:

20191006_094138

Ydi, mae’r cyfan yn odli, ac oes, mae ‘na ddiweddglo hapus, siŵr iawn:

20191006_09415520191006_094212

Hyfryd! A chynnil. A difyr hefyd, gan fod plant hefyd yn dysgu am wahanol anifeiliaid Awstralia yr un pryd. Mae hwn yn berl o lyfr bach – bargen am £4.99, ac mae’r lluniau gan Siôn Morris yn siwtio i’r dim.