Freedom

All posts tagged Freedom

Y Dyn Dweud Drefn

Published Hydref 31, 2019 by gwanas

20191029_102437

Dwi wedi dotio at y llyfr bach yma! Llyfr cyntaf awdur newydd sbon, ac mae’n debyg ei fod wedi gweld golau dydd am y tro cyntaf fel rhan o bortffolio ar gyfer modiwl Ysgrifennu Creadigol yn Adran Gymraeg Prifysgol Abersytwyth. Dwi mor falch bod llyfrau plant yn cael eu croesawu fel rhan o fodiwl o’r fath. Hen bryd!

Pam mod i wedi dotio? Yn bennaf, oherwydd y ci. Os dach chi’n hoffi cŵn, mi wnewch chithau ddotio fel fi.

20191029_102639

Mae’r dyn dweud drefn yn hen ddyn blin, blin efo pawb a phopeth nes i gi bach ddod i’w fywyd. A sbiwch ar y llun ohono gan Gwen Millward: mae hi wedi llwyddo i ddal yr edrychiad yn llygaid ci i’r dim yndo?

Mae’r arddull gan Lleucu Fflur Lynch o Langwm (y ddawn ysgrifennu yn rhedeg yn y teulu, yn amlwg) yn hyfryd o syml ac yn siŵr o blesio plant cynradd, boed i’w ddarllen yn annibynnol neu i wrando ar oedolyn neu blentyn hŷn yn ei ddarllen yn uchel.

20191029_10250120191029_102521

Anrheg Nadolig bach hyfryd am £4.95. Gwasg Carreg Gwalch. I blant tua 5+ ddeudwn i.

Llyfr arall dwi newydd ei ddarllen ydi campwaith arall gan Catherine Johnson (ei mam o Wytherin – mae ‘na flog cyfan amdani yma os wnewch chi roi ei henw yn y bocs chwilio ar y dde):

41l4Lb92fzL._SX322_BO1,204,203,200_

Enillodd hwn y Little Rebels Children’s Book Award 2019, a hynny’n haeddiannol. Mae’n delio gyda’r pwnc o gaethwasiaeth yn onest iawn drwy gyfrwng hogyn bach o’r enw Nat sy’n cael ei yrru o Jamaica i Loegr. Mae’n addas ar gyfer plant 8-12 oed, ond oedolion hefyd. Mae’n fyr, ond mae ‘na gymaint ynddo fo, gan gynnwys ffeithiau, digwyddiadau a phobl go iawn. Oes, wrth gwrs bod ‘na elfennau brawychus ynddi, ond mae’n stori llawn cyffro a gobaith sydd wir yn werth ei ddarllen.