Llinyn Trons

All posts tagged Llinyn Trons

Hoff Lyfrau Cynan Llwyd

Published Hydref 29, 2019 by gwanas

Dach chi’n cofio i mi ganmol nofel ‘Tom’ gan Cynan Llwyd i’r cymylau?
9781784617455_300x400

Wel, fo ydi’r awdur diweddara i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau yn blentyn.

CynanLlwyd

Un o ardal Aberystwyth ydi o’n wreiddiol ond mae o bellach yn byw yn Grangetown, Caerdydd gyda’i wraig Rachel. Pan na fydd o’n sgwennu mae’n darllen neu’n gwylio pêl-droed ac yn gweithio i Gymorth Cristnogol. A dyma ei atebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Roeddwn i wrth fy modd â llyfrau T Llew Jones – yr antur, yr iaith gyfoethog, y cymeriadau anhygoel.

180px-Trysor_y_Môr-ladron_(llyfr)

Dwi hefyd yn cofio darllen cyfres Kevin Crossley-Holland ar fywyd Arthur.

514KTEhKomL._SX347_BO1,204,203,200_

Mae’n drioleg wych sy’n dilyn bywyd Arthur o fod yn fachgen ifanc i fod yn farchog ac yn darlunio’i fywyd fel hanes yn hytrach na chwedl. Un peth da am y drioleg oedd bod yna mapiau ar gychwyn y llyfrau. Dwi’n hoff o fapiau mewn llyfrau!

Ac yn yr ysgol Uwchradd?

Ble i ddechrau?!
Cyfres Artemis Fowl gan Eoin Colfer
41zm7dJODSL._SX327_BO1,204,203,200_

Cyfres Alex Rider gan Anthony Horowitz
91PTCFvmd1L

Cyfres Raven’s Gate gan Anthony Horowitz
220px-Rvnsgte

His Dark Materials gan Phillip Pullman

515xgvuYMfL._SX303_BO1,204,203,200_

Harry Potter (wrth gwrs!)
Llinyn Trons gan Bethan Gwanas
086243520X

Llyfrau Gareth F. Williams

51j5AQmatqL._SX324_BO1,204,203,200_

Cyfres Mortal Engines gan Phillip Reeve
0439979439

Cyfres Narnia gan C. S Lewis
Skellig gan David Almond
shopping

Am wn i, y llinyn sy’n rhedeg trwy’r nofelau hyn yw dôs dda o gyffro, cymeriadau byw a sgwennu a syniadau diddorol. Dydw i ddim yn naturiol yn cael fy nhynnu at yr un genre. Mae yna gymysgwch o nofelau ffantasi, sci-fi, hanesyddol a realaidd yma.

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi wrth fy modd â llyfrau i blant ac yn falch o weld y diwydiant yn ffynnu. Yn ddiweddar dwi wedi mwynhau Yr Horwth gan Elidir Jones a Huw Aaron,

20190920_094329

The Hate U Give gan Angie Thomas,

THV2
La Belle Sauvage gan Phillip Pullman, Mae’r Lleuad yn Goch gan Myrddin ap Dafydd,
51w2khsnUIL._SX316_BO1,204,203,200_

The Goldfish Boy gan Lisa Thompson,
51Ar5RdcsUL._SX324_BO1,204,203,200_-1

Liccle Bit a Crongton Knights gan Alex Wheatle, The Explorer a Rooftoppers gan Katherine Rundell,

51okwxMrtmL._SX323_BO1,204,203,200_

The Search for Mister Lloyd gan Griff Rowlands, Fi a Joe Allen gan Manon Steffan Ros,
20180519_151555_resized
Yr Ynys gan Lleucu Roberts

9781784615031
a Hufen Ia Afiach gan Meilyr Sion…i enwi ond rhai!

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Rwy’n dwlu ar ddarluniau Jon Klassen. Ef yw awdur ac arlunydd y gyfres I Want My Hat Back, This is Not My Hat ac We Found a Hat.

41vxvSNZDSL._SX355_BO1,204,203,200_
81CIYjJ5svL
Mae ei llyfrau a’i luniau yn syml, annwyl ond ar yr un pryd yn eithaf tywyll! Mae’r talentog a hoffus Huw a Luned Aaron yn cynhyrchu gwaith campus yn ogystal, o fapiau o Diroedd Gwyllt y De (Huw yn Yr Horwth) i Fochyn Daear annwyl ei olwg (Luned yn ABC Byd Natur)!
91YuBW10rVL

Mae stwff Jeffrey Alan Love (Norse Myths gyda Kevin Crossley-Holland) yn grêt hefyd, er braidd yn frawychus!
43a88c449be9820fbbd48fdd32ce76dc

Tebyg mai Jac Jones oedd yr arlunydd mi wnes i ei fwynhau ei waith yn gyntaf, yn enwedig ei darluniau yn Lleuad yn Olau gan T Llew Jones.
79074_lleuad_yn_olaus-2679074_lleuad_yn_olaus-8

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Daeth fy awydd i ysgrifennu o’m hoffter o ddarllen. Gan fy mod yn darllen rownd y rîl, daeth ysgrifennu’n naturiol i mi. Dechreuais ysgrifennu o ddifri rhyw chwe blynedd yn ôl. Sylwais fy mod yn mynd yn rhy hen i gystadlu yn yr Urdd felly es ati i ysgrifennu rhywbeth ar gyfer y goron. Stori fer dywyll iawn. Ond dyna’r tro cyntaf i mi ysgrifennu o ddifri, a rhoi amser ac egni i mewn i’r peth. Mi wnes i wir fwynhau’r profiad, ac mi ges i feirniadaeth hael iawn gan Dewi Prysor. Roedd clywed fod rhywun wedi mwynhau’r hyn yr ysgrifennais, a chlywed awdur fel Dewi Prysor yn fy annog i barhau i ysgrifennu yn sbardun i mi ysgrifennu rhagor. Mae Rachel, fy ngwraig, yn fy annog yn wythnosol i ysgrifennu. Mae hi’n athrawes Gymraeg, felly dwi’n dysgu ganddi hi beth mae ei disgyblion yn hoffi darllen o ran themâu ac arddull.
Bkz4eOuIIAAOs3h

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Y cyfle i greu cymeriadau a bydoedd newydd. Mae clywed fod pobl yn cael boddhad o ddarllen fy ngwaith yn rhywbeth swreal, ond braf iawn hefyd.

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Cyhoeddais Tom (Y Lolfa) mis Mai eleni ac mae wedi cael ymateb ffafriol iawn. Mae Tom yn bymtheg mlwydd oed, ac mae ei fywyd yn gymhleth. Mae wedi’i leoli mewn cymuned sydd ddim yn rhy annhebyg i Grangetown yng Nghaerdydd ac rydym yn cyfarfod â chast o gymeriadau annwyl, doniol a boncyrs, wrth i ni weld Tom yn ceisio dod o hyd i ffordd allan o sefyllfa anodd.

7. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Dwi wrthi’n ysgrifennu nofel arall i Y Lolfa. Working title sydd i’r nofel, ond mi fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o’r ymgyrch Stori Sydyn sy’n ceisio annog darllenwyr anfoddog i ysgrifennu. Felly gobeithio, fel yn Tom, y byddaf yn llwyddo i ysgrifennu nofel sy’n symud yn gyflym ac sydd â chymeriadau byw ac sy’n trafod themâu cyfoes.

cynan-llwyd-photo

Diolch Cynan, a phob lwc efo’r ail nofel!

Gwerthwyr Gorau i blant a’r Goeden Ioga ac Ysgol Maes y Gwendraeth

Published Gorffennaf 3, 2019 by gwanas

Hwrê! Drwy ryw ryfedd wyrth, mae 7 o’r 10 Gwerthwr Gorau ar gyfer Mehefin yn lyfrau gwreiddiol Cymraeg, wedi eu sgwennu gan awduron o Gymru! Dyma’r rhestr – cliciwch ar y ddolen isod:

http://www.gwales.com/ecat/?lang=CY&tsid=1

Iawn, mae 2 o’r tri uchaf yn addasiadau, ond tydi hi’n braf gweld llyfrau fel hyn yn cael eu GWELD? A da iawn Genod Gwych a Merched Medrus (Rhif 2) am fachu sylw’r siopau llyfrau cystal!

20190526_100316

Dach chi’n gweld, nid faint sydd wedi eu gwerthu sy’n gyfrifol am y rhifau yma, ond faint sydd wedi eu harchebu gan y siopau, sef faint maen nhw’n meddwl fydd yn gwerthu neu faint o archebion maen nhw wedi eu cael ymlaen llaw gan gwsmeriaid. Felly mae’n bosib y caiff llwythi o Seren Orau’r Sêr! / Super Duper You! (Rhif 1) eu gadael yn hel llwch ar y silffoedd, ac mai Genod Gwych a merched Medrus fydd yn gwerthu fwyaf yn y pen draw. Fel’na mae’r system yn gweithio.

A braf ydi sylwi mod i eisoes wedi rhoi sylw i bob un o’r llyfrau Cymraeg ar y rhestr ar y blog yma, wel, heblaw am un: rhif 5, Y Goeden Ioga gan Leisa Mererid.

20190703_142339

Felly dyma roi’r sylw haeddiannol yn syth bin! Yn un peth, mae’n lyfr sy’n TEIMLO’N neis am ryw reswm. Oherwydd y siâp, y pwysau, llyfnder y clawr? Dwi ddim yn siwr, ond ro’n i wrth fy modd yn ei deimlo yn fy nwylo.

Hefyd, mae’n lyfr unigryw, gwahanol (disgwyl dim llai gan Leisa Mererid!), y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg, sef llyfr sy’n cyflwyno ioga i blant (a’r teulu cyfan o ran hynny).

Dyma lun o Leisa gyda llaw, sy’n athrawes ioga ac yn actores ac yn berson annwyl tu hwnt.

Selog-a-Leisa-Mererid-ioga-Caergybi-yoga-in-Holyhead-300x300

Dach chi’n dysgu siapiau ioga syml trwy ddilyn hanes un hedyn bach wrth iddo dyfu’n goeden:

20190703_142455

Ac fel y gwelwch chi, mae’r cyfan yn odli! A hynny’n gwbl naturiol a syml – ond dydi hi ddim yn hawdd sgwennu felna, nacdi? Nacdi.

Mae’r darluniau gan Cara Davies yn hyfryd a gwahanol hefyd, yn siwtio’r cynnwys i’r dim. Dyma i chi ddwy dudalen arall, ac mae’n ddrwg gen i am y golau rhyfedd, fy ‘serious reader’ i ydi hwnna!

20190703_142640

Allwch chi ddim peidio â cheisio gwneud y siapiau sy’n y lluniau eich hun. Ond na, dach chi wir ddim angen gweld llun ohona i’n rhoi cynnig arni.

Mae’n gyfrol wirioneddol hyfryd, yn fargen am £5.99 gan Wasg Gomer. A dwi’n synnu dim bod rhai o enwogion Cymru wedi gwirioni efo hi:

D9l3qwbX4AEjsAk
D9lNNK2XsAglFYA

Ia, Rhys Ifans a’i fam yn fanna!

Gyda llaw, os oeddech chi’n meddwl tybed pam fod Llinyn Trôns ar y rhestr, a hwnnw allan ers bron ugain mlynedd bellach, wel, mae’n amlwg bod rhai ysgolion wedi gweld bod eu setiau nhw o’r llyfr wedi mynd yn fler neu’n brin ac wedi archebu set newydd neu ddau. Ieee! Dwi ddim yn annog disgyblion i amharchu’r llyfrau o gwbl wrth gwrs, jest yn falch eu bod yn cael cymaint o ddefnydd.

Fel mae’n digwydd, ro’n i yng Ngwersyll Glan-llyn neithiwr, efo criw Blwyddyn 9 Ysgol Maes y Gwendraeth, sy’n cael cwrs Llinyn Trôns bob blwyddyn, sef cyfle i wneud y pethau sy’n digwydd yn y llyfr (a mwy – does dim cerdded afon yn y nofel, sori) a chyfarfod yr awdures, wrth gwrs, a bathu cyffelybiaethau gwallgof yn arddull Llion/fi. Roedden nhw’n griw hyfryd, a dyma ni:

20190702_215334

(Sori, Zack/Zak…)

Ac i orffen, dyma syniad gwych o Loegr, sy’n gwneud dod o hyd i lyfrau yn antur ac yn rhoi bywyd newydd i lyfrau yr un pryd. Be am i rywun wneud yr un peth yn eich tref/pentref chi? Mi faswn i wedi bod WRTH FY MODD efo hyn yn blentyn:

https://www.cambridge-news.co.uk/news/local-news/cambridgeshire-st-neots-book-children-16490689

Cloriau llyfrau

Published Ebrill 3, 2019 by gwanas

images

Dyma be ydi clincar o glawr ynde? A dyma un arall dwi’n hoff iawn ohono:

41mN6FBCVGL._SX316_BO1,204,203,200_

Gofynodd Mared Lewis, yr awdures ar Facebook yn ddiweddar “Be sy’n gwneud clawr da i chi?” a chafodd ymateb difyr: y rhan fwya’n deud nad oedden nhw’n hoffi ffotograffau ar gloriau.

“Well gen i ddarn o gelf na ffoto ar nofel neu ffuglen.”
“Llun neu sgetch a’r lliwiau yn gweddu i’r stori. ddim ffoto.”
“Dwi’n casáu ffotograffau ar gloriau. Yn enwedig os oes wyneb person yna.”

Dwi’n tueddu i gytuno, ond mae’n dibynnu ar natur y llun a’r llyfr wrth gwrs.

Dyna rai o’r goreuon yn Gymraeg yn fy marn i (er y gallai teitl “Y Llyfrgell” fod yn gliriach, ond mae’r llun yn un da):

Yn rhoi naws y llyfr ac yn tynnu sylw. Ond efallai eich bod chi’n anghytuno?

O ran fy llyfrau fy hun, dyma’r cloriau dwi fwya balch ohonyn nhw:

O, a hwn:

9781847716491

Wedi ei ysbrydoli gan Game Of Thrones – y gyfres newydd ar y teledu yn fuan – ieee!

A dyma gloriau eraill dwi’n meddwl sy’n gweithio’n arbennig o dda:

Mae’r genre yn gwbl amlwg tydi?

Mae’r un peth yn wir am hwn:

me-before-you-jo-jo-moyes

Dach chi’n gwybod yn syth sut fath o lyfr ydi o.

Ac o ran llyfrau plant, mae hwn yn un o fy ffefrynnau:

61JSEHA5EVL._SX258_BO1,204,203,200_

Rhowch wybod be sy’n gwneud i glawr weithio yn eich barn chi.

Gyda llaw, dwi’n dal fel nodwydd wedi sticio, mi wn, ond dim ond 2 lyfr gwreiddiol gan awduron o Gymru sydd yn rhestr Gwerthwyr Gorau plant y mis yma.

55771769_10156486920978650_6215337986830106624_n

Oni fyddai llyfrau Cymraeg GWREIDDIOL yn cael gwell chwarae teg a sylw pe bai modd darparu dwy restr? Un ar gyfer llyfrau gwreiddiol yn unig? Dim ond gofyn.

Peidiwch a meddwl bod angen llyfrau am fechgyn i fechgyn!

Published Medi 8, 2018 by gwanas

_97532327_808129dc-e06e-47f8-9033-43260dcaca52

Dyma i chi flog diddorol am agweddau at lyfrau merched/bechgyn.

https://readitdaddy.blogspot.com/2018/09/boys-dont-read-books-featuring-girls.html?utm_source=dlvr.it&utm_medium=twitter&m=1

Mae rhai rhieni yn gyndyn o brynu llyfrau maen nhw’n eu hystyried yn lyfrau ‘merched’ i’w meibion, a vice versa. Dim byd newydd yn hynny, ond dydan ni ddim yn sôn am lyfrau pinc, fflyfflyd fan hyn ond llyfrau normal gyda chlawr a theitl fel hyn:

images

Ond merch ydi’r awdur (Gabrielle Kent) a merch ydi’r prif gymeriad, a dyma rywbeth roddodd hi ar Twitter yn ddiweddar:

“So, I’ve been spending a lot of time in bookshops signing #KnightsAndBikes, and I’ve noticed something that reeeeaaally bothers me. Lots of adults are stopping boys from reading books with female protagonists!”

Mae’r peth yn hurt ond mae o’n digwydd. Dwi’n cofio pan sgwennais i Ceri Grafu

0862436923

(Ia – merch ar y clawr, a merch ydi’r prif gymeriad ond mae hi am bêl-droed a dwi wedi cyfarfod llawer iawn o fechgyn sydd wedi ei mwynhau hi) gofynodd Y Lolfa i mi sgwennu un arall yng nghyfres Pen Dafad ond wedi ei hanelu at fechgyn, a dyna pam sgwennais i Pen Dafad.

0862438063

Ond y chwaer fach ydi fy hoff gymeriad i…

Gofynwyd i mi anelu Llinyn Trôns at fechgyn hefyd, ac mi wnes, gan roi merched cryf ynddo hefyd.

086243520X

Y gred ydi y gwnaiff merched ddarllen unrhyw beth ond bod bechgyn yn mynnu cael llyfrau sydd ddim yn peryglu eu statws fel bechgyn tyff, caled, sy’n gwneud pethau ‘bachgennaidd’.

Dyna pam fod Joanne Rowling wedi cytuno i ddefnyddio’r llythrennau JK Rowling ar ei llyfrau Harry Potter, am fod y cyhoeddwyr yn poeni na fyddai bechgyn yn fodlon darllen llyfr gan ddynes.

images-1

Ond y mwya dwi’n siarad efo bechgyn a mynd i ysgolion, dwi’n gweld nad oes llawer o ots/bwys gan y bechgyn, ac mai’r STORI sy’n bwysig. Ai eu rhieni sy’n bod yn hen ffasiwn? Neu ai rhywbeth newydd ydi hyn? Dwi’n eitha siwr bod bechgyn ers talwm wedi mwynhau darllen am helyntion Madam Wen a Luned Bengoch – achos dydyn nhw byth jest am y ferch yn unig nacdyn? Ac roedd Enid Blyton wastad yn cynnwys merched a bechgyn yn ei llyfrau. Mae bechgyn wrth eu boddau efo Matilda, tydyn?

51GNnCMoMjL._SX336_BO1,204,203,200_

Ac onid yw bechgyn yn mwynhau darllen am Na, Nel?

getimg

Mae’n debyg bod siopwyr weithau’n gofyn ‘Ble mae eich llyfrau ar gyfer bechgyn?’ A’r gwirionedd ydi – maen nhw’n bob man. Dwi rioed wedi gweld unrhyw lyfrgell na siop yn rhannu llyfrau i silffoedd ‘bechgyn’ neu ‘ferched’ – byddai’r peth yn hurt! Ond iawn, gan fod llai o fechgyn yn darllen na merched, mae angen bod yn fwy cyfrwys weithiau i’w perswadio bod darllen yn hwyl.

Mae rhieni weithiau’n gofyn ar wefannau fel Facebook am lyfrau Cymraeg addas i’w meibion 7 oed sydd ddim yn hoffi darllen – iawn, mae modd eu cyfeirio at yr Henri Helynts ayyb (addasiadau…) ond oes raid diystyru llyfrau sydd â merched yn brif gymeriadau?

Dyma rywbeth arall ddywedodd Gabrielle Kent:

“Reading about kick ass girls having awesome adventures, solving mysteries, and saving the world teaches boys to see girls in a different light to the ones they see screaming at rubber spiders in toy adverts. Let boys read the stories they want to read. Books are for everyone!”

Amen. Rhowch y gorau i wneud i’ch meibion feddwl bod rhywbeth o’i le efo darllen am ferched! Mae na lond dosbarthiadau o hogia bach digri, direidus sy’n gwirioni efo llyfrau o bob math, ac o mhrofiad i, y STORI a’r HIWMOR sy’n bwysig yn yr oed yna. Ac yn hŷn hefyd o ran hynny.

Dyna pam dwi’n poeni dim mai merch ydi prif gymeriad llyfrau Cadi, gen i. Bachgen, Tyler o Ysgol Bro Cinmeirch, roddodd y syniad i mi am y nesa yn y gyfres – Cadi a’r Deinosoriaid.

getimg

A dwi’n gwybod y bydd bechgyn a merched wrth eu bodd efo’r ffaith fod deinosoriaid yn cnecu/pwmpian!

20180908_114450

Gan mod i wedi bod yn ddigon ffodus i gael glanio ar ynys llawn o eliffantod môr (elephant seals) elephant-seal-01-1000x480

rai blynyddoedd yn ôl, yr hyn drawodd fi fwya amdanyn nhw (ar wahân i’r ffaith eu bod mor fawr a rhyfedd yr olwg) oedd y ffaith eu bod yn drewi ac yn gollwng gwynt bron yn ddi-baid. A dyma feddwl – mae’n siŵr bod deinosoriaid yr un mor wyntog, doedden!

Hefyd, dwi’n cofio gweld llyfr bach hyfryd yn Norwyeg, (gan blant y boi sy’n gwybod lot am wleidyddiaeth, Richard Wyn Jones,picture-274-1423571860 fel mae’n digwydd) oedd yn gyfieithiad o’r Almaeneg:

51Tci1QAlYL._AC_US218_

am dwrch bychan oedd yn flin am fod rhywun wedi gwneud ei fusnes ar ei ben o ac yn chwilio am yr anifail euog

53b3580b3f578f9bd2c7d05ea76dca49

Ystyr y teitl yn fras ydi – ‘y twrch bach oedd yn gwybod nad oedd o’n ddim o’i fusnes o’ ac mae o’n wirioneddol ddigri – ac addysgiadol! Fel y gwelwch chi, mae ‘na fersiwn saesneg ar gael, ac mi wnes i gynnig ei gyfieithu i’r Gymraeg flynyddoedd yn ôl ond doedd gan neb ddiddordeb. Hmff. Mae’r cynnig yn dal yna. Mae cyfieithu llyfr o iaith heblaw’r Saesneg yn fater gwahanol, tydi?

Ta waeth, mae ‘na bwmps/cnecs a phŵ yn stori Cadi. Ac mae’r braciosawrws yn siarad efo acen y de, ocê? Pam? Am mod i’n trio apelio at blant (o bob rhyw) o bob rhan o Gymru – a dwi wrth fy modd efo’r gair ‘cnecu.’

Plismyn llyfrau

Published Chwefror 24, 2018 by gwanas

Mae David Walliams wedi cael ei feirniadu (eto) am sgwennu llyfrau sy’n rhy hawdd. Yn ôl academydd yn Y Times, mae o’n rhannol gyfrifol am y ffaith bod llawer o blant 14 oed yn darllen llyfrau sydd wedi eu hanelu at blant iau. Dyma ran o’r erthygl:

IMG_4277

A dyma ateb awdur o Loegr i’r peth:
“This makes me so angry. Kids should not be told they’re reading books that are “too young” for them. There is no such thing. The important thing is that they are reading.”

A dyma sylw gan Lois Gwenllian ar Twitter:
“Dw i’n cofio Llyfrgellydd yr ysgol yn gwrthod gadael imi fynd a ‘Llinyn Trons’ gan @BethanGwanas allan ym mlwyddyn 10 am fy mod i’n “rhy ifanc”, a’r un peth yn digwydd yn y Chweched pan roeddwn i eisiau darllen ‘Gwrach y Gwyllt’.”

51m-rbd55hl

Ha! Mi gafodd Llinyn Trôns ei wrthod gan un pwyllgor am nad oedd o’n ddigon ‘safonol’ ond mi wnaeth Y Lolfa ei gyhoeddi beth bynnag ac mi benderfynodd pwyllgor arall ei fod yn haeddu Gwobr Tir na-Nog y flwyddyn honno. Ac wedyn, oherwydd protestiadau athrawon, mi gafodd ei roi ar y cwricwlwm TGAU. Mae’n dal yno.

Weithiau, mae pobl yn gallu bod reit snobyddlyd am lyfrau…

Mae David Walliams wedi bod dan y lach o’r blaen: nôl yn 2015 mi ddywedodd Anthony Horowitz, awdur nofelau Alex Ryder,

latest

bod Walliams yn “dumbing-down fiction and failing to ‘challenge’ young readers.” Mi wnaeth o gyfadde bod ei lyfrau o’n ‘witty and entertaining’ ond nid yn hanner digon uchelgeisiol. Roedd o’n cyhuddo llyfrau ‘The Diary Of A Wimpy Kid’ gan Jeff Kinney o’r un drosedd.

Hm. Mae Walliams a Kinney yn gwerthu mwy na llyfrau Alex Ryder. Oes ‘na chydig o wenwyn fan hyn tybed? Rhyw fymryn o wyrddni?
jealousy-3

Yn fy marn i, ddylen ni ddim rhwystro plant rhag darllen y llyfrau sy’n apelio atyn nhw – boed nhw’n rhy ‘ifanc’ neu’n rhy ‘hen’. Ro’n i’n darllen llyfrau oedolion yn 14 oed, ond hefyd yn mwynhau comics. A’r hyn sy’n berffaith, gwbl amlwg i mi – a llawer o athrawon – ydi bod plant isio hiwmor mewn llyfrau! Ac os ydi hiwmor David Walliams a Jeff Kinney yn apelio at blant hŷn yn ogystal â phlant iau, wel, be ydi’r broblem? Gadewch i blant benderfynu pa lyfrau maen nhw isio eu prynu. Mi wnân nhw ddarllen rhai ‘hŷn’ pan fyddan nhw’n teimlo fel gwneud hynny, nid pan mae oedolion yn pregethu wrthyn nhw. Os ydyn nhw’n trafod Gangsta Granny ac ati efo’u ffrindiau, mae rhywun yn siŵr o ddeud eu bod wedi mwynhau llyfr gan awdur gwahanol ryw ben, ac mi fyddan nhw’n rhoi cynnig ar hwnnw wedyn.

Rydan ni i gyd yn wahanol ac yn mwynhau pethau – a llyfrau – a hiwmor gwahanol. Iawn, ydi, mae David Walliams yn hawdd ei farchnata oherwydd ei fod yn ‘seleb’ ond mae cwyno amdano fel wnaeth Anthony Horowitz a’r academydd yn y Times jest yn rhoi ei wyneb ar dudalen papur newydd eto!

Ydi, mae’n handi cael gwybod ar gyfer pa oedran mae llyfr penodol wedi ei anelu, ond canllaw yn unig ddylai hynny fod. Mae rhai plant yn darllen yn llawer hŷn na’u hoed, a rhai ddim. Dwi’n hen, a dwi’n mwynhau llyfrau plant. Ac un dwi newydd ei fwynhau yn arw (yn Saesneg) ydi Cogheart gan Peter Bunzl.
29939780
Nofel ‘steampunkaidd’ – ar gyfer plant 9+ yn ôl y sôn – ond mi fyddai plant yn eu harddegau yn ei fwynhau hefyd. Ac unrhyw oedolyn sy’n mwynhau chwip o stori dda wedi ei deud yn gelfydd.

Felly Nyyyy!

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!

Llinyn Trôns

Published Gorffennaf 11, 2016 by gwanas

images

Mae’r hen Llinyn Trôns yn dal i fynd, yn dal ar y cwricwlwm TGAU. Anodd credu bod y bobl gomisynodd o gyntaf wedi ei wrthod am eu bod “wedi disgwyl rhywbeth mwy safonol”… Ond gofyn am lyfr fyddai’n “apelio at fechgyn tua 15 oed sydd ddim yn hoffi darllen” wnaethon nhw, a dyna gawson nhw – ac mi benderfynodd criw arall o bobl (beirniaid Gwobr Tir naNog 2001) mai dyma’r llyfr gorau i blant uwchradd gafodd ei gyhoeddi y flwyddyn honno! Nyyyy.

Dyna un peth sy’n wir am y byd llyfrau – allwch chi byth blesio pawb.

Mae talfyriad ohono ar gael ar CD hefyd – llun bychan iawn, sori.

btxOXMMILiH3HKtbSBWC7V5DXIIDrmqPt7O8u5pUDjfz497atuMV_WehQcNVnPiaNTAr=s86

Ond wedi ei ddarllen yn wych gan Owen Arwyn – a dyma fo:

.Arwyn_9

Os ydach chi’n mynd i’w astudio ar gyfer eich TGAU, mae ‘na wefan da iawn fan hyn:

http://www.bbc.co.uk/education/guides/zc96fg8/revision

A dyma lun mae rhywun wedi ei wneud o’r ganolfan awyr agored sy’n y llyfr. Da! Atgoffa fi o wersyll Glan-llyn, braidd, ond nid fanno wnes i ei osod o mewn gwirionedd.

37b8a87706ac3d9d8e578007df88b775f11eb6ee

Nôl yn 1990-91, mi wnes i gyfnod ymarfer dysgu ym Mhlas Gwynant, sydd nid nepell o Lyn Gwynant, ger Beddgelert, a dyma lun o’r llun hwnnw, efo’r graig lle bydden ni’n neidio i mewn i’r dwr.llyn-gwynant-campsite-large

A dyma lun o fynychwyr un o’r cyrsiau go iawn yno yn barod am sesiwn ganwio yn union fel sydd yn y nofel.

key stage 3 kayaking snowdonia school trip

 

A dyma luniau o’r graig lle roedd yr abseilio’n digwydd – go iawn!

Contemplation top of abseil cliff for John Muir Award Snowdonia

Teachers course abseil

Ydi, mae’n le arbennig iawn, dim rhyfedd ei fod wedi fy ysbrydoli i sgwennu nofel!

Wythnos dwetha, fel sy’n digwydd yn flynyddol bellach, mi es i draw i Lan-llyn i roi sgwrs a gweithdy i ddisgyblion Ysgol Maes y Gwendraeth, sydd yng Nghefneithin, ger Llanelli. Roedd y rhan fwya newydd wneud sesiwn ganwio ar Lyn Tegid, bron yn union fel yr un mae Llion, Nobi, Gags a’r criw yn ei wneud, oedd yn dod â’r olygfa yn fyw, gobeithio.

Mi fues i’n siarad am gefndir y nofel a’r cymeriadau a pham wnes i ei sgwennu hi, wedyn mi fuon ni’n rhoi pobl yn y gadair goch i ateb cwestiynau fel y cymeriadau. Gawson ni stwff gwych, rhaid i mi ddeud! Ac yna ymsonau ysgrifenedig oedd yn haeddu A*, dim problem.

Dyma’r criw talentog, ffraeth ar ddiwedd y sesiwn, a fi yn eu canol yn gwenu fel het, wedi mwynhau bob eiliad:

maes Gwendraeth

Annog awduron a helpu’r byd llyfrau Cymraeg

Published Ionawr 8, 2014 by gwanas

Mae’r byd llyfrau Cymraeg angen eich help chi!
Oes, mae ‘na gryn dipyn o lyfrau ar gael bellach, ond y broblem fawr ydi cael sylw iddyn nhw.

Mae’n torri nghalon i bod llyfrau da yn mynd ar goll, felly gai eich annog chi os gwelwch chi’n dda i roi ambell seren neu frawddeg o adolygiad (does dim rhaid sgwennu traethawd!) ar wefannau llyfrau?

Y llyfr fydda i’n rhoi sylw iddo tro nesa ydi hwn, Cyfrinach Ifan Hopcyn gan Eiry Miles:image

Mi wnes i glywed amdano gan ferch ysgol gynradd mewn sgwad sgwennu (methu cofio dy enw rwan, sori!) – roedd hi wrth ei bodd efo fo beth bynnag. A dyma’r wybodaeth sydd ar wefan gwales.com sydd yn Gymraeg a Saesneg.
Oes, mae na adolygiad gan ddarllenydd ‘proffesiynol’ yma, ond sbiwch ar y botwm ‘Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer.’ Braf fyddai gweld plant/athrawon/rhieni – ond plant yn fwy na neb – yn sgwennu pwt am y llyfrau sy’n eu plesio.

Mae’n help i ddarllenwyr eraill ddod o hyd i lyfr da, ond hefyd yn help i’r wasg ei werthu a phenderfynu be sy’n llwyddo a be sydd ei angen.
Ond yn fwy na dim, mae’n help i’r awdur! Mae canmoliaeth yn gallu rhoi hyder ac ysbrydoli rhywun i sgwennu mwy.

Dyma i chi dudalen am fy nofel oedolion ‘Hi yw fy Ffrind’ ar wefan goodreads:
image
Digon o sêr yn fanna i ysbrydoli awdur!

Ond dydi’r ymateb i nofel oedolion arall, Gwrach y Gwyllt ddim cweit mor gyson:
image
O diar. Ond dwi wedi sylwi bod gynnoch chi rai adolygwyr yn rhoi un seren i bob blwmin llyfr! Hmff. Darllenwyr hynod ffysi neu awduron chwerw sydd isio rhoi pin ym malwn (efo tô bach) awduron eraill? Ond fi sy’n chwilio am esgus wrth gwrs. Weithiau, mae’n rhaid derbyn ei bod hi’n amhosib plesio pawb.

Dim llawer o sylwadau ar y tudalennau goodreads yna, sylwch, ond mae beirniadaeth yn gallu bod yn help, o ran dysgu ar gyfer y nofel nesa.

Mae modd rhoi sylw i lyfrau Cymraeg ar Amazon hefyd. Dyma’r ymateb i Llinyn Trôns ( nofel ar gyfer disgyblion 13+):
image

Hapus iawn efo hynna, er bod y ddau gynta’n cyfeirio at wasanaeth Amazon yn hytrach na chynnwys y llyfr…

Ond fel soniais i, mae’n anodd plesio pawb, a doedd yr ymateb i ‘Y Gwledydd Bychain’, llyfr ffeithiol ar gyfer oedolion yn y gyfres Stori Sydyn ddim cweit cystal:
image

Charming, ynde! Oes, mae angen croen eliffant i fod yn awdur. Ond mae hyd yn oed sylw negyddol yn sylw, ac nid llyfr ar gyfer plant 12 oed oedd hwnna, felly nyyy, Chand, pwy bynnag wyt ti!

Cofiwch hefyd: Mi fydd yn Ddiwrnod y Llyfr cyn bo hir – dydd Iau, Mawrth 6ed. A dyna gyfle gwych i roi sylw i lyfrau, felly os am syniadau, dilynwch @DYLLcymWBDwales ar Twitter neu sbio ar dudalen Facebook: https;//www.facebook.com/DiwrnodYLlyfrWorldBookDayWales