Mae ‘na awdur arall wedi ateb fy nghwestiynau i!
Ganwyd Lleucu Roberts yn Aberystwyth a chafodd ei magu yn ardal Bow Street, Ceredigion. Aeth i Ysgol Gynradd Rhydypennau, Ysgol Gyfun Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth – lle y ces i’r fraint o ddod i’w nabod hi, ond mae hi fymryn yn iau na fi.
Erbyn hyn, mae hi’n byw yn Rhostryfan, Gwynedd efo’i gŵr, Arwel (Pod) sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfr o’i gerddi, Stompiadau Pod, ond mi ddylai yntau sgwennu llyfrau ar gyfer plant os dach chi’n gofyn i mi.
Mae ganddyn nhw 4 o blant, ac wedi llwyddo i fagu’r rheiny tra’n sgwennu a chyfieithu. Yn ogystal â sgwennu llyfrau ar gyfer plant hŷn ac oedolion, mae Lleucu hefyd yn sgriptio ar gyfer y radio a’r teledu ac yn ennill gwobrau dragwyddol, fel Gwobr Tir na n-Og droeon.
Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn. Tipyn o gamp!
Tipyn o awdur felly, a dyma ei hatebion hi:
Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi’n blentyn?
Dwi’n cofio dwli ar Teulu’r Cwpwrdd Cornel a oedd yn un o’r llyfrau a oedd gan fy mam yn blentyn, yn fwy na Llyfr Mawr y Plant, er bod ‘Siôn Blewyn Coch’ yn ffefryn.
A stwff Blyton, fesul y llath (dwi’n gwaredu at y ffordd roedd merched Malory Towers ym mhellafion Lloegr yn llwyddo i ddal fy nychymyg). Dwi’n meddwl ‘sa well gen i weld plentyn â’i drwyn yn sownd yn ei ffôn nag yn hynt a helynt preswylwyr ysgolion bonedd Blyton, felly dwi ddim yn siwr ‘mod i’n cytuno gant y cant fod darllen unrhyw beth yn well na darllen dim. Roedd y Fives a’r Sevens dwtsh yn well.
(ia, llun o’r ffilm, sori, ond mae’n un da tydi!)
Ond gwell o lawer oedd un o lyfrau fy nhad yn blentyn – Swallows and Amazons, Arthur Ransome – a greai fyd dychymyg plentyn i’r dim.
Dotiwn at nofelau Beti Hughes ac Elizabeth Watkin-Jones, ond i raddau, roedd prinder llyfrau i blant yn Gymraeg pan oeddwn i’n blentyn ar ddiwedd y chwedegau a dechrau’r saithdegau yn ein gwthio i ddarllen llyfrau oedolion yn gynt, a doedd hynny ddim yn ddrwg o beth i gyd: J Ellis Williams, Jane Edwards, Islwyn Ffowc Elis – darllenais Cysgod y Cryman
ddwy waith ac Yn Ôl i Leifior unwaith tra ar wyliau cyfnewid am bythefnos gyda theulu yn Llydaw yn dair ar ddeg, cymaint oedd fy hiraeth am adre.
Copi fy rhieni o The Great Short Stories of the World
a agorodd fy meddwl i nofelau o rannau o’r byd y tu hwnt i’r ynysoedd hyn, ac er bod rhai nofelau’n fwy o sialens na’i gilydd, po fwya’r her, mwya’r wobr. Mae’n dda cael llyfrau heddiw wedi’u targedu at wahanol oedrannau, ond ddylen ni ddim categoreiddio’n ormodol chwaith: mae Llyfr Glas Nebo yn brawf o’r ffordd y mae llenyddiaeth wych yn rhychwantu oedrannau.
Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant?
Dim digon. Rydyn ni’n eithriadol o lwcus o’r awduron gwych sy’n ysgrifennu yn Gymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc – Bethan Gwanas, Manon Steffan Ross, Myrddin ap Dafydd a chymaint o rai eraill, heb anghofio nofelau Gareth F Williams. Bûm am flynyddoedd yn ei chael hi braidd yn anodd i ymgolli mewn llyfrau gwych fel trioleg wreiddiol Phillip Pulman am nad oeddwn yn hynod o hoff o ddarllen nofelau heb eu gwreiddio yn y byd real fel petai, ond gwendid oedd hyn, a dwi’n dechrau gwella.
Ar ôl dweud hynny, yn y cyfnod pan oedd fy mhlant yn fach, a minnau’n darllen iddyn nhw’n nosweithiol, roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl ddewis oedd ar gael erbyn hynny: trysorau Angharad Tomos, Cyfres Rwdlan wrth gwrs
(collais sawl deigryn yn darllen Yn Ddistaw Bach, ac mae fy mhlant a minnau’n dal i allu adrodd talpiau o’r gyfres ar ein cof), a Sothach a Sglyfath (yr orau un i mi o bosib);
Tŷ Jac, cyfrol fendigedig am y ddaear a’r ffordd rydyn ni’n effeithio arni a roddai neges werdd ymhell cyn i negeseuon felly ddod yn fwy cyfarwydd.
Erbyn hynny hefyd, roedd ‘na lu o lyfrau lliwgar gwych – yn cynnwys cyfrolau bendigedig Gwyn Thomas a Rhiannon Ifans ac eraill – yn adrodd straeon gwerin Cymru a’r byd, a chwedlau a hanesion arwyr Cymru.
Pwy ydi dy hoff ddarlunydd llyfrau plant?
Yn dilyn o’r uchod, mae gwaith Margaret Jones ar y Mabinogi yn aros yn y cof:
Ond yn bersonol, does dim curo ar symlrwydd Cyfres Rwdlan.
A Sothach a Sglyfath wedyn, yn debyg i luniau Y Tywysog Bach, Antoine de Saint-Exupery.
Er mai yn y dychymyg drwy eiriau’r awdur y mae’r lluniau gorau’n digwydd, mae’r darlunwyr gorau’n ategu lluniau’r dychymyg yn hytrach na’u disodli. Mae fy mhlant (sy’n oedolion ers tro byd bellach) yn dal i gofio’r murlun o holl gymeriadau Cyfres Rwdlan baention ni yn eu hystafell wely.
Beth wnaeth i ti ddechrau ysgrifennu?
Darllen. Llarpio llyfrau, a chael fy llyncu gan lyfrau, wrth iddyn nhw ymestyn fy ngorwelion i fydoedd a phrofiadau eraill heb i mi orfod symud o fy unfan. A hynny yn ei dro yn codi awydd arna i i drio ysgrifennu straeon sy’n gwneud yr un peth i eraill.
Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am ysgrifennu?
Yn union yr un peth â dwi’n ei fwynhau fwya am ddarllen llyfrau – ymgolli. Codi ‘mhen ar ôl teirawr o ddarllen/ysgrifennu a meddwl faint o’r gloch yw hi? Lle goblyn ydw i? Pwy ydw i?
Dwed ychydig mwy am dy lyfr diweddaraf i blant:
Afallon: yr olaf yn nhrioleg Yma, a ddaeth allan y llynedd. Enwau’r ddwy gyntaf oedd Yr Ynys a Hadau.
Trioleg yw hi am ddau yn eu harddegau, Gwawr a Cai, sy’n byw ar ynys yng nghylch yr Arctig yn y flwyddyn 2141. Yn dilyn trychineb niwclear, does dim llawer o bobl ar ôl yn y byd, a diolch i Fam Un, a aeth o Gymru ychydig cyn y drychineb, cafodd y Gymraeg ei chadw a’i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ar yr ynys. Daw’n ddiogel dros ganrif yn ddiweddarach i deithio’n ôl i Gymru, a phan ddaw’r ynyswyr yma, does neb ar ôl wrth gwrs. Tybed…?
Mae’r ail a’r drydedd nofel yn dilyn beth sy’n digwydd i Gwawr a Cai ar ôl iddyn nhw gyrraedd Aberystwyth, a’u cymdogion newydd yno.
Pa lyfr plant sydd ar y gweill gen ti?
Mae gen i nofel i oedolion ar y gweill, ond dim byd penodol i blant ar hyn o bryd. Mi wnes i fwynhau ysgrifennu trioleg Yma yn fawr iawn, a dwi’n teimlo ‘mod i wedi byw gyda Gwawr a Cai a’r cymeriadau eraill yn y dyfodol am y ddwy neu dair o flynyddoedd a gymerodd hi i gyhoeddi’r tair. Dwi’n hoff o ddyfalu’r dyfodol a chanlyniadau pethau sy’n digwydd heddiw, a dyna wnes i mewn nofel gynharach hefyd, Annwyl Smotyn Bach.
Mae’n ddigon posib mai aros yn y dyfodol wna i ar gyfer fy nofel nesa i blant hefyd. Caf weld!
A dyna ni – diolch yn fawr Lleucu, a brysia efo’r llyfr nesa i blant!