Mae hi wedi bod fel ffair yma, ac yn dal i fod, ond dwi am drio rhoi sylw i hynny alla i o lyfrau Cymraeg GWREIDDIOL i blant cyn y Nadolig.
Un o fy ffefrynnau ydi hwn: Ia, plant sydd wedi sgwennu’r straeon yma, a phwy sy’n gwybod yn well na phlant be mae plant yn ei hoffi? Enillwyr cystadleuaeth gan Radio Cymru llynedd ydyn nhw, ac mae pob un yn cael sylw fel hyn:
Wedyn mae’r straeon yn dilyn, fel hyn:
Ac ew, straeon da ydyn nhw, bob un. Nofelwyr y dyfodol, yn bendant! A gesiwch be – am fod cystadleuaeth llynedd wedi bod mor llwyddiannus, maen nhw wedi penderfynu cynnal un arall eleni, efo’r un beirniaid: Anni Llŷn, Bedwyr Rees a fi. A dwi’n meddwl mai Rhagfyr 11 ydi’r dyddiad cau ar gyfer eu gyrru i BBC Bangor. Dwi’n edrych mlaen yn arw at gael ffraeo efo fy nghyd-feirniaid eto! Gwasg Carreg Gwalch sy’n cyhoeddi – pris £5.99.
Mae Meleri Wyn James newydd fod ar daith o gwmpas ysgolion efo’i llyfrau hynod boblogaidd Na, Nel, ac os dach chi isio llyfryn bach difyr i’r hosan, be am hwn? Na, Nel!: Ho, Ho!
Mae o’n lliwgar ac yn llawn direidi a syniadau difyr am bethau i’w gwneud adeg y Nadolig. Bargen am £2.99
O, ac mae na ddarn bach difyr gan ferched Meleri yn Golwg yr wythnos yma.
A sôn am Golwg – dyna i chi un rheswm pam mod i wedi bod yn rhy brysur i flogio: dwi’n gweithio iddyn nhw’n rhan amser dros gyfnod mamolaeth. Ac wythnos nesa ynde…mi fydd ‘na dudalennau hyfryd, lliwgar, difyr am lyfrau plant a barn plant am lyfrau! Mi fydd ‘na sylw i hwn:
“Mae’r llyfr hwn yn llawn cerddi clyfar a choeglyd ac yn berwi o ryfeddodau o fyd natur, bywyd bob dydd a ffantasi” yn ôl Llinos Griffin ar gwales.com
A hwn gan Mari Lovgreen:
Merch fach daclus iawn ydi Anni Wyn, pob blewyn yn ei le bob amser, ac mae hi wedi cael hen ddigon ar fyw gyda’i rhieni bler, anrhefnus…ond…!
A hwn:
Mae un aderyn bach yn y goedwig yn penderfynu creu band, ond tybed a fydd y criw yn cael llwyddiant wrth gystadlu yn eisteddfod y goedwig?
A tybed be fydd barn plant Ysgol Morswyn, Caergybi, ac Ysgol Bro Ingli, Trefdraeth o’r llyfrau?
Un peth alla i ddeud wrthach chi ydi bod Cyfres Lolipop yn boblogaidd IAWN – ac mae isio mwy! A mwy o sylw iddyn nhw, yn lle’r pethau “Addas.” ‘ma.
A does gen i ddim cywilydd yn rhoi sylw i fy llyfr fy hun chwaith – dyma fo!
Dwi wedi gwirioni efo fo, rhaid cyfadde. Clawr caled hefyd – ieee! Dwi rioed wedi cyhoeddi llyfr efo clawr caled o’r blaen. A dwi’n meddwl bod Janet Samuel yn un o’r arlunwyr gorau yn y byd ar gyfer plant bach. Mae hyd yn oed ei madarch hi’n gorjys!
Mi wnaethon ni ei lawnsio yn Gorwelion, y Bala wythnos dwytha, a dyma i chi rai o’r criw:
Y Cadi go iawn wedi mynd i drafferth i wisgo fel y Cadi yn y llyfr, a’r Caio go iawn wedi gwisgo fel corach! Roedd Mabon yn sglaffio bisgedi ar y pryd a ddim isio tynnu ei lun…ond roedd o’n edrych fel hyn rai misoedd yn ôl. Llynedd o bosib!
Ac os dach chi’n nabod bobl ifanc ( tipyn h^yn na’r rhain) sy’n hoffi llyfrau ffantasi, dyma i chi linc i flog difyr am lyfrau ffantasi, a’r tro yma am un i bobl ifanc gafodd ei gyhoeddi sbel yn ôl:
http://fideowyth.com/2015/11/25/clwb-llyfrau-f8-samhain/
Addo rhoi mwy o sylw i lyfrau plant cyn Dolig!