Ro’n i a Manon Steffan Ros (neu Manon Siop Fferins fel dwi am ei galw o hyn allan – mae hi’n symud i hen siop fferins)
yn tiwtora yn Nhŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu yn Llanystumdwy wythnos dwytha.
Roedden nhw’n griw gwych: 12 o awduron (rhai’n weddol brofiadol, rhai ddim) fu’n ddigon lwcus i gael eu dewis i dreulio 5 diwrnod hyfryd yn cael eu hysbrydoli gynnon ni, y lleoliad, bisgedi cartref Tony, ac yn fwy na dim, gan ei gilydd.
Dwi’n falch o ddeud bod ‘na ddawn dweud a syniadau gwych ganddyn nhw, a photensial am nofelau difyr tu hwnt ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Rhai yn wahanol iawn, gwahanol i’r llyfrau arferol ar gyfer yr arddegau yn sicr!
Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau a Llên Cymru am noddi’r wythnos hon, a’r wythnos ar gyfer plant iau y llynedd. Defnydd da o’ch harian yn fy marn i.
Doedd pawb (wel, y rhai oedd wedi bod yn sgwennu ffantasi) ddim yn hapus o glywed gan y cyhoeddwyr bod ‘na ormod/llawer o nofelau ffantasi ar y ffordd eisoes, ond duwcs, os fydd pobl ifanc yn galw am lyfrau ffantasi, mae ‘na le i fwy does? Felly mae o i fyny i chi i brynu’r llyfrau fel fyddan nhw’n cyrraedd y siopau.
Dwi’n ysu am fedru ateb cwestiwn pobl sydd wedi mwynhau Cyfres y Melanai: ‘Be gai ddarllen nesa?’ efo rhestr o lyfrau Cymraeg cyffrous. Ia, llyfrau fel hyn (er, mae’r term ‘ffantasi’ yn llac iawn gen i):
A rhai Manon wrth gwrs
A fi!
Gyda llaw, mae Gwylliaid wedi bod allan o brint am sbel, ond na phoener, mae ‘na fwy yn cael eu hargraffu rŵan.
Wel? Ydach chi’n meddwl bod ‘na ormod o lyfrau ffantasi ar gael yn Gymraeg rŵan?
LLYFRAU AM CHWARAEON
Dwi am dorri fy rheol ‘dim llyfrau Saesneg’ eto fyth, gan mod i wir wedi mwynhau hon gan Jason Reynolds:
Nid ffantasi o gwbl, ond stori am ferch sy’n wych am redeg a’i helyntion efo’r thîm ras gyfnewid. Erbyn deall, mae’n un o gyfres – Track:
pob un am athletwyr. A phob un yn ddu – chwa o awyr iach mewn byd sy’n brin o arwyr croenddu mewn llyfrau plant/OI. Ac mae’n debyg bod Ghost hyd yn oed yn well na Patina.
Fel un sydd wedi gwirioni efo athletau erioed, mi faswn i wrth fy modd yn sgwennu am sbrintwyr a neidwyr – athletau’n gyffredinol. Dwi eisoes wedi sgwennu stori fer am nofiwr yng nghyfrol ‘Darllena, Datblyga’ gyhoeddwyd gan gronfa Achub y Plant.
Ond athletau a gymnasteg yw fy ffefrynnau. Rhyw ddydd… ond allwn i wneud rhai o’r cymeriadau’n ddu? Oes gen i hawl sgwennu o safbwynt rhywun du a minnau’n wyn? Do, mi fuon ni’n trafod y busnes ‘cultural appropriation’ ‘ma ar y cwrs yn Nhŷ Newydd, ac mae’n gymhleth. Oes gynnoch chi farn? Ac a oes angen nofelau am chwaraeon? Oes, siwr!