Edrych mlaen at y Steddfod? A fi – ac un o’r pethau cynta fydda i’n eu gwneud ( ar ôl gosod fy stondin efo’r campafan – os gai help rhywun i godi’r adlen hurt sy gen i) fydd holi’r awdures Mair Wynn Hughes. Mi fydd hynny’n digwydd am 5.00 ar y pnawn Sul cynta, Awst 6ed yn y Llannerch ( llwyfan bach cysurus a chlên rhywle’n agos at y babell Lên meddan nhw) a chyn hynny, am 4.00 yn y Babell Lên, mi fydd hyn yn digwydd:
‘Hwyl Sgrifennu gyda Mair Wynn Hughes’ – Mwyniant o dros hanner can mlynedd o sgrifennu ar gyfer plant a’r arddegau, gyda darlleniad byr.
Dros hanner can mlynedd?! Ia, mae hi wedi cyhoeddi rhyw 103 o lyfrau dros y blynyddoedd. Dyma rai ohonyn nhw:
A dyma chydig mwy:
Sori, does gen i ddim lle i 103 clawr llyfr.
A dyma i chi un o’r rhai sgwennodd hi ar gyfer plant hŷn:
A dyma daflen Adnabod Awdur amdani wnaethpwyd sbel yn ôl:
Ia, landrofyr, felly mae’n amlwg ei bod hi’n byw ar ffarm tydi? Neu jest yn hoff o landrofyrs? Na, roedd hi’n wraig ffarm ac athrawes yn ogystal â bod yn awdures – dynes brysur – a hynod ddawnus.
Mi enillodd Wobr Tir na-Nog 4 gwaith, a dyma adolygiad o un ohonyn nhw – ‘Ein Rhyfel Ni’:
Hanes ifaciwîs o Lerpwl sy’n dod i ardal wledig ar Ynys Môn a geir yma. Brawd a chwaer yw canolbwynt y nofel, Norman a Milly; y mae eu tad yn filwr a’u mam yn gweithio mewn ffatri arfau. Dônt i aros ar fferm Tomos, ac wedi cyfnod o ansicrwydd ar ôl cyrraedd, o ran yr ifaciwîs a’r teulu o Gymru sy’n eu lletya, cawn hanes y ddau o Lerpwl yn ymgartrefu ac yn magu hyder ar y fferm ac yn yr ysgol.
Mae’r stori’n datblygu’n ddiddorol gyda nifer o hanesion dwys a digrif ar hyd y daith, megis awyrennau’n ymladd, gwisgo masgiau nwy, a’r Hôm Giard. Wrth i’r plant o Lerpwl ymgartrefu yng Nghymru, mae eu Saesneg hefyd yn graddol droi’n Gymraeg hyfryd, a’u defnydd o’r iaith weithiau’n codi gwên. Er bod yma hanesion doniol, mae’r awdur hefyd yn crybwyll sawl digwyddiad sy’n tanlinellu pa mor erchyll yw rhyfel, yn arbennig tua diwedd y stori.
Ceir yma felly ddarlun dilys a chredadwy o fywyd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a nofel gwerth ei darllen yn sicr, gyda lluniau cynnil Jac Jones yn rhoi cipolwg ar y cyfnod ac yn dod â’r cymeriadau’n fyw.
Elin Meek
Mae ‘na linc fan hyn i chi gael gwybod bron bob dim am Mair:
Ond, er mwyn i chi ddysgu chydig mwy na hynna amdani cyn y Steddfod, dwi wedi bod yn ei holi am ei hoff lyfrau yn blentyn, a dyma’r atebion:
- Llyfrau Ysgol Gynradd
Anodd cofio erbyn hyn, mae o mor bell yn ôl! Cymraeg – Llyfr Mawr y Plant, wrth gwrs!
A Dail Difyr, os ydw i’n cofio’r teitl yn iawn. ( ydach – Bethan)
Nansi’r Dditectif.
Helynt Coed y Gell
Saesneg – Sunny Stories
The Railway Children
The Children of the New Forest.
2) Uwchradd.
Cymraeg –Nofelau Daniel Owen
Saesneg – Jane Austen, Trollope,- rhywbeth fedrwn i gael gafael arno.
2) Fyddwch chi’n dal i ddarllen llyfrau plant?
Pori’n ysbeidiol yn myd llyfrau plant o dro i dro.
Cymraeg – rhai i’r arddegau gan amlaf, fy hoff awdur: Gareth F Williams.
Saesneg – Gangsta Granny a.y.b gan David Walliams
(sori – methu peidio â gweld tebygrwydd rhwng Mair a’r nain…Bethan)
The Chronicles of Ancient Darkness gan Michelle Paver – mwynhau rhain yn arw.
3) Hoff arlunydd?
Jac Jones. Y fantais wrth weithio efo Jac oedd ein bod yn medru ymgynghori wyneb yn wyneb.
Elwyn Ioan wedi dylunio llyfrau Wali Wmff a Morus Mihangel. Rwy’n gwerthfawrogi gwaith y ddau.
(Elwyn yn ddiweddar a sbel yn ôl, wastad efo barf)
4) Be wnaeth i chi ddechrau sgwennu?
Angen storïau Cymraeg i blant fy nosbarth yn y chwedegau cynnar.
5) Be dach chi’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Anodd dweud. Mae cymaint o bleser i’w gael wrth ddatblygu syniad yn thema, creu cymeriadau, a gadael iddyn nhw wau y stori wedyn.
6) Dwedwch chydig am eich nofel ddiweddara i blant.
I’r arddegau oedd fy nofel ddiweddaraf, a hynny ers peth amser bellach.‘I Feysydd Pell’ dilyniant i ‘F’annwyl Leusa.’
Y ddwy nofel wedi’u lleoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Sut mae Leusa’n ymdopi wedi colli William, mor anodd wynebu’r siarad a phwyntio bys wedi i William gael ei ddyfarnu’n llwfr yng ngwyneb y gelyn, a’i saethu ar doriad gwawr. Yn ‘I Feysydd Pell,’ mae Leusa’n gadael cartref i nyrsio yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Yna cawn ei phrofiadau wrth ofalu am y milwyr tu ôl i’r llinell flaen yn Ffrainc, cyn iddi hithau golli ei bywyd yno. Dwy nofel i danlinellu erchylldra rhyfel, a’r effaith ar deulu a chydnabod.
(Adolygiad o F’Annwyl Leusa fan hyn:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781904845515&tsid=5#top
Ond oes dim sôn am I Feysydd Pell ar gwales.com!)
7) Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa?
Dim un! Wedi rhoi y ffidil yn y to!
O, naaa! Dowch i wrando arni yn y Steddfod ar y 6ed – i weld os allwn ni ei pherswadio i newid ei meddwl…