Archif

All posts for the month Mehefin, 2020

Sw Sara Mai – nofel i blant

Published Mehefin 23, 2020 by gwanas

IMG_1562

IMG_1580

Reit, os dach chi’n caru anifeiliaid, tua 7-11 oed, ac yn hoffi stori sy’n cydio yn eich dychymyg ac yn gwneud i chi ysu i droi’r tudalen i weld be sy’n digwydd nesaf, dyma’r nofel i chi!

Dwi wedi ei mwynhau hi’n arw, achos ro’n i wrth fy modd efo anifeiliaid yn yr oed yna (dal i fod) ond mae ‘na bethau eraill yn y nofel hon fydd yn cadw diddordeb plant hŷn ac oedolion hefyd.

9 oed ydi Sara Mai, y prif gymeriad, ac mae’n llawer haws iddi ddeall yr anifeiliaid yn sw ei mam na’i chyfoedion ym Mlwyddyn 5. Roedd bob dim yn iawn nes i ferch newydd gyrraedd yr ysgol a dechrau dweud pethau cas, hiliol wrthi. Grrrr…. A hynny dim ond oherwydd lliw croen Sara Mai. GRRRRR! Mae ei thad hi’n wyn, ond ei mam yn ddu, dach chi’n gweld.

Dyma eglurhad Casia Wiliam, yr awdur:

“Mae mor, mor bwysig bod ein llenyddiaeth yn adlewyrchu ein cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, er mwyn i bob plentyn fedru adnabod eu hunain mewn llyfr. Rydw i wedi bod yn meddwl ers tro bod angen mwy o amrywiaeth o fewn llenyddiaeth plant, ac yn arbennig hefyd bod angen i’r prif gymeriad fod o gefndir cymysg, nid dim ond yn gymeriad ymylol. Roeddwn i’n awyddus i drafod hiliaeth mewn nofel, heb i hynny deimlo fel ‘gwers’ fel petai.”

Ac mae hi wedi llwyddo, dydi o ddim yn teimlo fel ‘gwers’ o gwbl. Mae ‘na sawl neges neu ‘thema’ yn y nofel mewn gwirionedd (bwlio, hiliaeth, cyfeillgarwch, pwysigrwydd peidio rhoi fyny a dal ati…) ond bydd pob darllenydd yn ei mwynhau oherwydd y stori a’r cymeriadau, heb i’r “negeseuon” neidio allan fel gordd, fel sy’n digwydd gyda rhai llyfrau.

Mae ‘na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau. Ac ro’n i wir wedi dotio at rai o’r cymeriadau – Oli yn un, a Zia sy’n datŵs i gyd, a’r ffaith fod rhieni Sara Mai efo cymeriadau mor wahanol.

Mi wnes i ddysgu gryn dipyn am wahanol anifeiliaid hefyd!

Dyma’r dudalen gynta i chi gael blas.

IMG_1577

Mae ‘na chydig o luniau tu mewn hefyd (gan Gwen Millward) a dyma un hyfryd o Sara Mai:

IMG_1579

Mae’r nofel yn llawn digwyddiadau ffraeth, fel dyfodiad y jiráff Newydd sydd ag ofn uchder a Llywelyn Fawr, arth o’r Andes sydd newydd gyrraedd y sw ac yn cael trafferth setlo.

Daeth yr ysbrydoliaeth i Casia pan oedd hi’n fardd plant Cymru ac yn ymweld ag ysgolion.

“Gwnes i gyfarfod â merch fach mewn ysgol oedd yn annwyl tu hwnt ac yn gwirioni ar anifeiliaid, ac mi ddywedodd wrtha i – “Mae Mam yn dweud bod gen i gysylltiad arbennig gydag anifeiliaid.” A dyma fi’n meddwl – rydw i am dy roi di mewn llyfr! Rydw i wir yn gobeithio y bydd plant yn hoffi’r llyfr – er mwyn i Sara Mai gael sawl antur arall!”

Sawl antur arall? Ieeee! Plîs! Dwi wir yn gobeithio y bydd plant yn ei hoffi hefyd achos mae ‘na ddeunydd cyfres wirioneddol ddifyr a phwysig fan hyn. Felly prynwch a rhannwch y newyddion da er mwyn i ni gael mwy o helyntion y sw a Sara Mai.

Llongyfarchiadau, Casia! Clincar…

Sw Sara Mai gan Casia Wiliam a(£5.99, Y Lolfa).

NOFEL OEDOLION

A sôn am glincars, sbiwch lluniau da dynnodd Heledd Wyn Roberts ohona i pan ro’n i’n llofnodi llyfrau mewn layby rhwng Bala a Dolgellau ddoe…

IMG_1566

Nid nofel i blant mo ‘Merch y Gwyllt’ gyda llaw. Un i’ch rhieni/nain/taid/modryb/athrawon, iawn? A dim ond os nad ydyn nhw’n rhy sensitif/parchus/cael eu dychryn yn hawdd… (he he!)

Cyfle i ennill llyfrau a newyddion am lyfr lliwio Cadi

Published Mehefin 16, 2020 by gwanas

Eai5h7wXQAEXiDd-1

Mae’r Cyngor Llyfrau wedi trefnu cystadleuaeth newydd gyffrous!
£100 i’w wario ar lyfrau?! Waw!

Dyma’r manylion:

📢 CYSTADLEUAETH – Galw Adolygwyr Ifanc!📢

📚 ENILLWCH BENTWR O LYFRAU i chi a’ch ysgol!📚

😎 Dewiswch eich ffefryn o’r templedi cŵl yma:
http://ow.ly/YND950A7Gsl

✏️ Ysgrifennwch adolygiad o lyfr o’ch dewis chi!

💻 Anfonwch eich adolygiad at cllc.plant@llyfrau.cymru

neu

✉️ drwy’r post at
Adran Llyfrau Plant
Cyngor Llyfrau Cymru,
Castell Brychan,
Aberystwyth,
SY23 2JB

📆 Dyddiad cau: 15 Gorffennaf 2020.

📚 Bydd y goreuon yn derbyn gwerth £100, £75 neu £50 o lyfrau gwych ynghyd â phentwr o lyfrau i ysgol y buddugol.

Amdani!

Tip i chi gen i – peidiwch â sgwennu traethawd 6 tudalen. A byddwch yn onest. Ond peidiwch â bod yn gas.

Pob lwc.

LLYFR LLIWIO

A sbiwch! Dwi wedi cyffroi’n rhacs. Dyma glawr Llyfr Lliwio Cadi (wel, rhan ohono fo, dydi’r wefan ‘ma ddim yn rhy hoff o PDFs), fydd, gobeithio, yn cael ei argraffu wythnos nesa:

104373155_1503502643145038_2656064775374545145_n

Bechod na fyddai o wedi gallu ymddangos ar ddechrau cyfnod Covid, ond dyna fo – mae hwnnw wedi drysu pob dim tydi?

A chofiwch roi gwybod pa lyfrau sydd wedi’ch plesio chi dros y misoedd diwethaf yma. Gewch chi yrru brawddeg ata i, a thudalen at y Cyngor Llyfrau…

Gwylio pobl yn trafod llyfrau

Dyma i chi wefan ddifyr. Llwyth o bobl yn trafod llyfrau neu eu hoff lyfrau, a fidios gan bob un sydd wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Tir na n-Og eleni. Neu Tir Na Nog neu Tir na-nog, pa bynnag ffurf sy’n gywir. Dwi byth yn cofio, ydach chi?

https://www.amam.cymru/carudarllen

Mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi fis nesa dwi’n meddwl. Pob lwc i bawb!

Nofel newydd sbon ar gyfer yr arddegau

Published Mehefin 6, 2020 by gwanas

image001

Mae Heiddwen Tomos yn hen law (gweld be wnes i yn fanna?) ar sgwennu nofelau bellach, ond rhai ar gyfer oedolion oedd rheiny, ac o’r diwedd, mae hi wedi cyhoeddi un ar gyfer yr arddegau – ieee!

Ro’n i’n gwybod y byddai’n un dda oherwydd:
1. Mae hi’n gallu sgwennu.
2. Mae’n athrawes uwchradd ers blynyddoedd, ac yn gwybod yn iawn be sy’n apelio at bobl ifanc 11-14, a sut maen nhw’n siarad ac ati.

Ac ro’n i’n iawn. Dwi wedi mwynhau Heb Law Mam yn arw.

Mae’n llawn hiwmor, emosiynau/angst a chynnwrf y cariad cyntaf, problemau teuluol a’r cyfeillgarwch ffug sy’n anffodus yn gymaint o ran o fywyd disgyblion ysgol – wel, merched o leia. Ac mi wnes i wir fwynhau casau Gwen (yr ast) a’i mam (arch-ast).

Dywedodd Heiddwen mai ei phrofiad mewn ysgol oedd yr “ysbrydoliaeth fwyaf ar gyfer ysgrifennu’r nofel hon. Neges y stori yw bod cyfnodau ym mywydau pawb yn gallu bod yn anodd, ond daw eto haul ar fryn.”

Neges bwysig, achos mae cyfnodau anodd yn eich arddegau yn gallu teimlo fel diwedd y byd.

Efa ydi’n harwres ni (enw da am arwres, os gai ddeud…) ac mae’n cael amser caled gan Gwen (yr ast) a rhai o’i ‘ffrindiau’ eraill. Mae hi hefyd yn dechrau ffansïo bachgen am y tro cyntaf. Ar ben hyn oll, mae mam Efa yn yr ysbyty yn disgwyl babi – ac am driniaeth gancr.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

IMG_1434

Ydi, mae hi’n ddeheuol iawn ac yn llawn ymadroddion gwych ardal Llanbedr Pont Steffan, ffor’na. Do’n i ddim yn deall pob un, a dwi wir yn meddwl y byddai rhestr yn y cefn yn egluro rhai ohonyn nhw o help mawr.

Dyma dudalen arall:

IMG_1435

Mi wnes i holi Heiddwen drwy Facebook be oedd ystyr “O’s sgrwb arnot ti?” a dyma’r ateb ges i:

Ie pan ti wedi ymarfer dy gorff nes bod y muscles yn tynnu bore rôl ny😉

Tydi o’n ymadrodd gwych? Mae gen i awydd ei fabwysiadu. Ond does gen i’m clem be mae “yn mynd i ga’l hwp” yn ei feddwl. Gorffen efo rhywun? Cael slap? Rhoi tacl dda i rywun? Penderfynwch chi!

Ro’n i’n hoffi’r darnau sgwrsio tecst/whatsapp hefyd:

IMG_1436

Dywedodd Heiddwen hefyd iddi “fwynhau ysgrifennu’r nofel hon mas draw.” Ac mae hynny’n amlwg – mae’n llifo. “Fel mam i dri o blant, penderfynais ysgrifennu nofel iddyn nhw i’w darllen.” Ac mae’n swnio fel petae hi am sgwennu mwy ar gyfer yr arddegau: “mae cael bod yn bryfyn ar wal yn yr ystafell ddosbarth yn gyfoeth o straeon difyr dros ben!” Gwyliwch eich hunain, ddisgyblion Mrs Tomos…

Ond edrych ymlaen yn arw at gael darllen mwy o lyfrau fel hyn – gwell fyth os gawn ni eirfa hefyd! Llongyfarchiadau, Heiddwen.

image002

Mae Heb Law Mam gan Heiddwen Tomos ar gael rŵan/nawr (£5.99, Y Lolfa).
Addas ar gyfer: 11 – 14 oed yn ôl y wasg, ond dwi’n llawer hŷn ac mi wnes i ei mwynhau hi hefyd.

Llyfrau i daclo hiliaeth

Published Mehefin 4, 2020 by gwanas

Yn bendant, mae angen mwy o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion sy’n delio efo hiliaeth. Maen nhw’n brin yn Gymraeg, ond dyma restru ambell un sy’n delio efo bod yn wahanol mewn rhyw ffordd:

Ar gyfer plant iau, Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros:

EHeOqcAWsAAbUAI
20191128_085602

Stori hyfryd, syml, sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb. Ar restr Tir naNog eleni – ac yn haeddu bod arni…

Addasiad ydi hwn, gan y bardd, Mari George, a dwi ddim wedi gweld copi fy hun, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Y llyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel, gyda darluniau llawen, mae’r stori hon yn dathlu amrywiaeth a chynhwysedd, tra’n tanlinellu pa mor bwysig yw undod yn ein byd.

9781849670982

Addasiad arall, wedi ei gyfeithu gan fardd arall, Mererid Hopwood,

getimg

a dwi ddim wedi gweld hwn chwaith, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Dewch i hedfan i bedwar ban byd gyda Mam-gu, a helpwch hi i gyfrif o un i ddeg ar ei thaith siopa fythgofiadwy. Stori ddifyr mewn mydr ac odl, gyda llun hudolus ar bob tudalen. Cyfieithiad o My Granny went to Market – A Round-the-World Counting Rhyme.

A dyma mae Sian Melangell yn ei ddeud amdano:

Dwi ar fin cael hwn i Ewen, yn un peth… am sawl rheswm (Mererid yn ffab, hoffi’r ffaith ei fod yn cyflwyno’r byd mewn stori, ac hefyd wrth gwrs, yr amrywiaeth bobl). Un peth dwi’n ymwybodol ohono ydi fod llyfr hefo bobl mewn gwledydd tramor hefo lliw croen gwahanol i’r Cymro bach yma yn un peth, ond mae llyfrau hefo bobl lliw gwahanol eu croen yn siarad Cymraeg ac yn gwneud pethau fel fo yn arbennig o bwysig hefyd.

Os am lyfr i blant 4-6 oed yn Saesneg, ac wedi ei sgwennu gan awdur du, ac am deithio drwy’r gofod, be am hwn gan Ken Wilson-Max?

astro-girl

Mae Astrid wrth ei bodd efo’r gofod ac isio bod yn astronot! Mae’n cael andros o hwyl efo’i thad yn darganfod be sydd ei angen i gyflawni ei breuddwyd, o wneud arbrofion i fwyta bwyd sych, i ddod i arfer efo “near-zero gravity”. Dim clem be ydi hwnnw yn Gymraeg, sori!

Mae o hefyd yn cynnwys ffeithiau am ferched go iawn sydd wedi bod yn y gofod. Felly llyfr sy’n ticio sawl bocs!

Mae angen cefnogi a darllen a phrynu llyfrau gan awduron sy’n gwybod am be maen nhw’n sôn, ac mae ‘na fwy o syniadau fan hyn:

https://www.booktrust.org.uk/booklists/r/represents-picture-books/

Saesneg eto, a dwi wedi sôn am rhain eisoes, ac maen nhw wir yn werth eu darllen:

22902132412_3

Dwi wedi cyfeirio at lyfrau eraill Jason Reynolds o’r Unol Daleithiau hefyd, awdur croenddu wirioneddol gyffrous. Teipwich ei enw yn y bocs chwilio.

513yussx5tl._sx309_bo1204203200_

Dwi newydd sylweddoli na wnes i ddeud ar y pryd mai awdur croenddu ydi Jason Reynolds. Ro’n i jest yn meddwl amdano fo fel awdur, nid awdur du. Sy’n beth da, gobeithio. Ond er mwyn y blog yma, dwi’n tynnu sylw at y ffaith, iawn!

Awdures dwi wedi ei chanmol droeon ar y blog yma ydi Catherine Johnson, ac mae ei llyfrau hi i gyd yn werth eu darllen, ac yn sôn am gymeriadau du eu croen:

Os am wybod mwy amdani a’i chysylltiadau Cymreig, teipiwch ei henw yn y bocs chwilio ar y dde.

Cymraeg – arddegau

Yn ôl i’r Gymraeg, ar gyfer yr arddegau, mi sgwennodd Gwyneth Glyn ‘Aminah a Minna’ nôl yn 2005, fel rhan o gyfres Pen Dafad:

getimg

Mae’n stori hyfryd, ffraeth sy’n sôn am dreialon bachgen sy’n dechrau mynd allan gyda merch o dras Asiaidd – er gwaetha’r problemau mae hynny’n ei greu efo pobl eraill.

Ar gyfer yr arddegau eto (tua 11+), mi wnes i drio delio gyda’r anhegwch o gael eich trin yn wahanol oherwydd eich bod yn edrych yn wahanol yn 2il a 3ydd llyfrau Cyfres y Melanai, Y Diffeithwch Du ac Edenia.

20180926_175004
4133j-opo9L

Wedyn, be am Tom gan Cynan Llwyd? Dydi o ddim yn gwneud sioe fawr o’r ffaith fod cymeriad Ananya o dras Bangladeshi, mae hi jest yno, yn ran naturiol o’r stori.

tom-cynan-llwyd-500x743

Mae angen mwy o luniau o bobl amrywiol yn gwneud pethau normal mewn cyhoeddiadau ac ar y we yn Gymraeg yn gyffredinol, felly dyma un fan hyn:

CH6xCTMb1Cv9Qsok-ilzysaGszLgE9gc7imp1IMDqFIwLeKMjYIKkB033oqwHZ9H6EFuX-5Y_aqvR9f-BowBRG7hQ94q5VWuZUSrYQnpooPEMqYemth2q8ED6urf6FHE5WpYqwTtobJnB5TLNf2fUEa2jnj5Vv-Al0c

Gyda llaw, mi wnes i gyhoeddi llyfr am fy mhrofiadau yn Nigeria yn yr 80au, lle ro’n i’n dysgu plant uwchradd (a chynradd o ran hynny), a dwi’n gobeithio’n arw nad o’n i’n hiliol ynddo fo, neu’n tanlinellu pethau fyddai’n gwylltio pobl groenddu, ond cofnod go iawn am fyw mewn pentre bach diarffordd ydi o, ac un o gyfnodau gorau, hapusaf fy mywyd. Doedd profiadau a bywydau plant Gbara ddim byd tebyg i blant duon Prydain, Ffrainc neu’r Unol Daleiethiau, ond dwi’n gobeithio bod y cariad deimlais i at fy nisgyblion a RHAI o fy nghyd-weithwyr yn dod drwadd ynddo fo.

51fqoiiatyl-_sy344_bo1204203200_

LLYFRAU OEDOLION:

Fel mae’n digwydd, dwi wedi bod yn darllen llyfrau gwych gan awduron croenddu yn ddiweddar. Dwi ar ganol Becoming, hunangofiant Michelle Obama, ac yn mwynhau’n arw.

81dDwAzxtrL

Dwi ddim yn disgwyl y bydd hunangofiant Mrs Trump cweit cystal.

A llyfr wnes i syrthio mewn cariad yn llwyr efo fo ydi hwn, Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo:

51ahH0NU6BL._SX324_BO1,204,203,200_

Enillydd y wobr Booker 2019. Fel arfer, dydi ennill y wobr honno ddim yn golygu y bydda i’n mwynhau, a chan nad oes unrhyw atalnod llawn yn y nofel hon, mae rhywun yn teimlo ar y dechrau: “O dyma ni, stwff arti-ffarti…” ond na, gyfeillion! Er ei fod wedi bod yn chydig o waith dal ati ar y dechrau, nefi, mi ges fy hudo! Mae’n delio gyda nifer o gymeriadau gwahanol, a phob un yn agoriad llygad i ddarllenydd croenwyn fel fi. Dwi wedi perswadio ein grŵp darllen i ddewis hon fel ein nofel Saesneg y tro yma a dwi wir yn edrych ymlaen at weld be fydd eu barn nhw. A diaw, dwi am gynnig Becoming ar gyfer y cyfarfod ar ôl hwnnw, hefyd.

Mae hi wir yn drueni bod George Floyd wedi gorfod marw er mwyn i’r byd sylweddoli o ddifri be mae pobl sydd ddim yn wyn eu croen yn gorfod delio ag o, ond er mwyn osgoi magu cenhedlaeth arall o bobl hiliol, mae’n rhaid i ni ehangu gorwelion a gwybodaeth PAWB. Cam bach ydi cyflwyno llyfrau efo cymeriadau amrywiol i blant, ond mae’n gam i’r cyfeiriad iawn.

Ac i gloi, dyma fidio ar youtube drawodd fi fel gordd: