Diolch i Gwawr am dynnu fy sylw at y llyfr yma drwy gyfrwng Facebook: Captain Rosalie.
Ia, llyfr Saesneg, ond cyfieithiad o un Ffrangeg ydi o, felly dwi’n llacio fy rheolau. Dyma’r clawr gwreiddiol, a dyma’r awdur, Timothée de Fombelle.
Dwi wedi gwirioni! Wrth gwrs mod i, neu fyddwn i ddim wedi llacio fy rheolau i’w gynnwys.
Ar gyfer pa oed mae o ta? Wel, yn ôl tudalen Amazon Ffrainc, mae o ar gyfer plant 7-13 oed, ond mae’r wybodaeth sydd ar gael yn Saesneg yn deud 8-12, felly rhywle o gwmpas fanna.
Ond stori am ferch fach 5 oed ydi hi. Mae hi’n cael mynd i’r ysgol efo’r plant mawr, ond yn gorfod eistedd yn y cefn, ynghanol y cotiau:
Dyma’r dudalen gyntaf:
Mae ei mam yn gweithio mewn ffatri ers i’w thad fynd i ryfel, ac mae’r athro yn gadael i Rosalie ddod i’r ysgol fel ffafr i’r fam. A gyda’r nosau, mae’r fam yn darllen llythyrau ei thad i Rosalie, sy’n llawn pysgota a chnau a gobaith.
Ond mae Rosalie yn ferch fach benderfynol, ac yn ara bach, mae’n dysgu darllen drosti’i hun.
Dwi’m isio deud mwy na hynna, dim ond ei bod hi’n stori hyfryd, gynnil, glyfar am ryfel a chanlyniadau rhyfel. Mae ‘na gyfeiriadau at y canlyniadau hynny o’r cychwyn cyntaf: yr athro ag un fraich, mamau mewn ffatrioedd, geiriau’r athro i’r bechgyn ifanc yn ei dosbarth. Ond mae hi am obaith a dyfalbarhad hefyd – a llawer mwy. Nefi, mae ‘na gymaint ynddi!
Dyma’r awdur yn siarad am y llyfr – yn Ffrangeg wrth gwrs. Os nad ydach chi’n dalt Ffrangeg, jest gwrandewch ar sŵn yr iaith ta – mae’n hyfryd. A dwi’n siwr y gwnewch chi sbotio ‘petite fille’, sef ‘hogan fach.’
Mae’r darluniau yn wych hefyd, rhai yn fychan, rhai yn dudalennau dwbl:
A dwi’m yn gwybod ai rhywbeth Ffrangeg ydi hyn, ond un o Ffrainc ydi Valériane Leblond ynde, ac mae lluniau Isabelle Arsenault yn f’atgoffa’n fawr o’i harddull hi:
Llyfr i’w drysori felly. Mwynhewch!