Archif

All posts for the month Medi, 2014

10 llyfr sydyn

Published Medi 26, 2014 by gwanas

Diddorol oedd darllen blog gan Ffrwti ar ffrwti.com yn annog pobl i restru deg llyfr Cymraeg sydd wedi gwneud argraff arnyn nhw am ba bynnag reswm; does dim rhaid enwi eich eich hoff lyfrau, ond llyfrau rydach chi’n eu cofio, sy’n eich atgoffa o gyfnod yn eich bywyd, sydd wedi dysgu rhywbeth i chi o bosib, neu sydd jest yn neidio i’r meddwl:

image

Mae’n bwysig peidio a phendroni gormod am y peth, dyna sut rydan ni’n cael clywed am lyfrau gwahanol i’r ‘usual suspects’.

Dyma fy rhestr i ac ambell un arall gyfrannodd:

image

Be amdanoch chi? Rhowch gynnig ar wneud rhestr o ddeg llyfr Cymraeg fel hyn. Does dim rhaid i chi rannu’ch rhestr wedyn, ond mi fyddai’n ddifyr cael gwybod.

O, a gyda llaw, mi fyddai’n teithio i Fangor pnawn ma, ar gyfer Clwb Darllen Tudur Owen a’i griw. Dyma’r llyfr gosod:

image

Mae o mor fyr, mi allech bicio i’r llyfrgell/siop i nôl copi rwan, a’i ddarllen erbyn 3.30!

Plesio Bl 7 Aberaeron

Published Medi 24, 2014 by gwanas

Braf ydi cael ymateb dosbarth cyfan i Gwylliaid. Dwi wedi cael ymateb unigolion i’r llyfr, ond dyma’r tro cynta gan ddosbarth cyfan!

image

Cael ymateb drwy Twitter wnes i, a dyma’r neges:

image

Neis ynde? Mi wnes i ateb drwy ddweud nad oes gen i lyfr ar gyfer eu hoedran nhw ar y gweill ar hyn o bryd, ond be am Llwyth? Gan eu bod nhw mewn ysgol uwchradd, maen nhw’n ddigon hen ar gyfer hwnnw.

Unknown-9

A digwydd bod, dwi newydd orffen addasu Llwyth ar gyfer Radio Cymru. Roedden nhw isio 5 rhaglen llai na deg munud. Doedd o ddim yn waith hawdd gwasgu a chywasgu 12 pennod rhyw 45 munud yr un i mewn i lai na 50 munud i gyd! Yn enwedig gan mod i wedi ei sgwennu yn eitha ‘tynn’ beth bynnag. Ond dwi wedi ei wneud o, ac mi wnes i fwynhau hefyd.

Pan ro’n i’n yr ysgol, roedden ni’n aml yn gorfod sgwennu précis neu summary yn y dosbarth Saesneg ( nid Cymraeg am ryw reswm), sef dweud mewn ychydig eiriau be roedd darn llawer hirach yn ei ddeud.
shrink

Mi fyddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny. Fel hwch mewn siocled. Ond dydi addasu ar gyfer radio ddim cweit yr un peth wrth gwrs!

Mi fydd i’w glywed yn ystod wythnos hanner tymor fis Hydref, am 10.50 y bore, sef slot ‘Llyfr Bob Wythnos’ ar raglen Shan Cothi.

Unknown-5

Hunangofiant Idris Charles sydd yr wythnos yma, yn cael ei ddarllen gan Maldwyn John.

Dwi’m wedi cael cadarnhad pendant pwy fydd yn darllen Llwyth eto ond dwi’n gwybod pwy dwi isio! Sut fath o lais fyddech chi’n ei hoffi? Un dyn? Un merch? Unrhyw actorion yn neidio i’r meddwl?
Pan ga i wybod, mi gewch chithe wybod pwy fydd wrthi.

Darlith Gŵyl Golwg

Published Medi 17, 2014 by gwanas

Mi wnes i draddodi darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yng Ngŵyl Golwg dros y Sul. Wnes i rioed feddwl y byddai un o’r sylwadau wnes i yn y ddarlith yn bachu sylw’r cyfryngau i’r fath raddau!
Yn sgîl yr erthygl hon ar wefan Golwg 360

image

Mi ges alwadau ffôn gan Post Prynhawn, Taro’r Post a Newyddion S4C. Iawn, gwych, roedd hi’n braf gweld sylw i lyfrau ar y newyddion a chlywed cymaint o drafod, yn enwedig ar Taro’r Post. A dwi’n falch o ddeud BOD na rai wedi cytuno efo fi! Ond eironi’r sefyllfa ydi’r ffaith na fyddai llawer o’r bobl ro’n i’n cyfeirio atyn nhw, pobl a phlant sy’n cael eu taflu a’u drysu a’u gwylltio oherwydd fod iaith rhai llyfrau plant (bach) yn ddiarth iddyn nhw, yn gwrando ar Radio Cymru nac yn gwylio Newyddion S4C.

Be amdanoch chi? Be dach chi’n ei feddwl? Sôn am lyfrau plant bach ro’n i, pan fydd geiriau fel ‘nawr’, ‘moyn’, ‘bola tost’ ac ati yn drysu gogleddwyr bychain, a ‘nain’, ‘rwan’ a ‘berfa’ yn drysu rhai y de. Rhowch wybod. Ffys fawr am ddim byd neu beidio?

Ta waeth, mi ddywedais i lawer mwy na’r sylw bach yna yn fy narlith! Mae blas o hynny yn fy ngholofn yn yr Herald Cymraeg heddiw.

Roedd yr ŵyl yn Llanbed yn un wirioneddol hyfryd, yn gerddoriaeth, pethau digidol a bwydydd hyfryd yn ogystal â llyfrau.

image

A dyma i chi stondin Mair, sydd, yn ogystal â sgwennu llyfr mawr swmpus (nid llyfr plant)

image

wedi creu pob math o nwyddau ar gyfer pobl sy’n caru darllen. Mygiau, llyfrnodau, pethau i roi eich paned arnyn nhw ac ati. Mi fydda i’n prynu rhywbeth ganddi bob tro y bydda i’n gweld ei stondin. Dyma be ges i tro ‘ma:

image

Da ‘de! O, ac i egluro’r llun ohona i efo wyneb glas,

image

roedd Mair wedi gneud ‘cardboard cut outs’ mawr ar gyfer ei stondin, ac mae arna i ofn bod yr un o’r awdur Ioan Kidd wedi ei golli yn y llun yna, bechod. Sori, Ioan. Dach chi’n nabod y boi wrth fy ochr i ta? Sgwn i os fydd o’n gwenu fory?! Llun o Byw yn yr Ardd ydi hwnna ohona i, pan ges i fy mheintio fel un o’r Cymry cynnar mewn pentre i lawr yn ochrau Sir Benfro. Paent glas digon tebyg i Mel Gibson yn Braveheart, pan oedd o’n actio rhan William Wallace, Albanwr arall oedd isio i Loegr adael llonydd i’r Alban…

image

Iawn, nôl at waith. Dwi ar ganol addasu Llwyth ar gyfer Radio Cymru

Unknown-9

Sef ei gwtogi i ffitio 5 slot 10 munud o Llyfr yr Wythnos ar gyfer wythnos hanner tymor. Gwaith anodd ond difyr! Nofel Ioan Kidd, Dewis sy’n cael ei darlledu ar hyn o bryd fel mae’n digwydd. Gawn ni weld os fydd plant yn gwrando dros yr hanner tymor, ond dwi’n eich rhybuddio, dydi o ddim yn addas ar gyfer plant bach! Braidd yn waedlyd…