nofelau ffantasi

All posts tagged nofelau ffantasi

Yr Horwth – nofel ffantasi

Published Medi 20, 2019 by gwanas

20190920_094329

Dwi newydd orffen darllen Yr Horwth, y nofel gyntaf mewn cyfres ffantasi newydd i bobl ifanc gan Elidir Jones. Mi wnai gyfaddef yn syth i mi gael trafferth efo hi ar y dechrau, ond efallai mai arna i oedd y bai am hynny, nid y llyfr. Mae rhywun wedi blino ddiwedd nos tydi? A doedd fy mhen i ddim yn gallu delio efo’r holl gymeriadau ar y dechrau; ro’n i’n gorfod ail-ddarllen yr un tudalennau yr ail a’r trydydd noson.

Dyma un o luniau Huw Aaron o rai o’r cymeriadau cyntaf i ni ddod ar eu traws:

20190920_095523

OND – a sylwer ar y llythrennau breision yn fan’na – pan wnes i fachu amser call i roi mwy o sylw iddi yn yr haul yn yr ardd, mi ges i fy machu go iawn! Roedd y stori’n cydio a’r cymeriadau’n glir, a nefi, mi wnes i fwynhau.

Felly, os fyddwch chi, fel fi, wedi drysu ar y dechrau, daliwch ati – mi fydd o werth o.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas o’r arddull:

20190920_094348

A dyma dudalen arall, sy’n dangos peth o’r ddeialog, ac yn cyflwyno Heti, un o fy hoff gymeriadau:

20190920_094834

A dyma lun o chwip o gymeriad arall, Sara o’r Coed (gafodd ei magu yn y coed) ac sy’n gogydd gwbl anobeithiol:

20190920_094445

Mae ‘na gymeriadau gwrywaidd wrth gwrs, ac mae’r rheiny’n cydio hefyd, fel Pietro y mynach a Nad y consuriwr – hiwmor gwych gan hwnnw.

Do’n i ddim yn siŵr am y lluniau i ddechrau. Oes eu hangen? A fyddai’n well gadael i ni eu dychymygu ein hunain? Roedd y map cyntaf un o Diroedd Gwyllt y De braidd yn rhy ffidli i mi; ro’n i angen mwy o ofod gwyn i fedru ei “ddarllen.” Ond ar y llaw arall, ro’n i wrth fy modd efo lluniau fel hwn:

20190920_094926

Roedd y lluniau o’r gwahanol greaduriaid peryglus/od mae’r criw yn eu cyfarfod yn ddifyr hefyd. A wnes i rioed feddwl y byddwn i’n syrthio mewn cariad efo mwydyn neu bry genwair anferthol a hynod ddiolwg, sy’n gallu cnoi drwy graig, ac sydd ddim hyd yn oed yn dweud gair o’i ben. Ond wir i chi, rhywsut, mae Elidir Jones wedi llwyddo i greu cymeriad arbennig, a rhoi enw cwbl annisgwyl ond perffaith iddo fo hefyd. Bydd raid i chi ddarllen Yr Horwth eich hun i weld be ydi’r enw a pham mod i wedi dotio cymaint at fwydyn.

Ro’n i wrth fy modd efo’r stori a dychymyg a hiwmor yr awdur, a dwi wir yn edrych ymlaen at weld be fydd yn digwydd nesa yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch. Ond fydd hi’n gwerthu? Dyna’r broblem efo llyfrau ffantasi yn Gymraeg erioed am ryw reswm, ac yn bendant, mae angen mwy o farchnata ar hon. Does fawr neb wedi clywed amdani, ac yn sicr nid y bobl ifanc. Ond os dach chi’n berson ifanc sy’n mwynhau darllen – rhowch gynnig arni da chi. Mi wnaeth yr oedolyn yma ei mwynhau hi, felly does dim angen i chi fod yn ifanc chwaith! Ond dwi’n deud y bregeth honno o hyd tydw?

Athrawon, rieni, lyfrgellwyr, darllenwch hon er mwyn gallu ei hargymell i ddarllenwyr ifanc sy’n chwilio am rywbeth gwahanol. Hoffi Lord of The Rings? Wel, triwch yr Horwth. Dwi wedi sylwi bod y rhan fwyaf o nofelau ffantasi Saesneg ar gyfer pobl ifanc wedi eu sgwennu gan – a’u hanelu at – ferched, y dyddiau yma. Dyn sgwennodd hon, dyn sy’n amlwg wedi gwirioni efo’r genre ffantasi, ac mae ‘na flas cwbl wahanol iddi.

Yr Ynys – nofel ar gyfer yr arddegau hŷn

Published Rhagfyr 22, 2017 by gwanas

image

Ro’n i ar dân isio darllen hon, y gyntaf yn nhrioleg YMA ar gyfer yr arddegau hŷn gan Lleucu Roberts. Yn un peth, mae’r clawr yn denu, yn ail, dwi’n ffan o waith Lleucu, ac yn drydydd, dwi wedi derbyn comisiwn tebyg gan Lywodraeth Cymru i greu trioleg ar gyfer yr arddegau (Cyfres Melanai), ac roedden ni’n dwy yn sgwennu ar yr un pryd ac yn gorfod cyflwyno ein drafftiau yr un pryd. Sôn am roi pwysau ar rywun!

Felly ro’n i’n edrych ymlaen i’w darllen ond hefyd rhyw fymryn yn nerfus. Mae Lleucu wedi ennill llwyth o wobrau am sgwennu! Gwobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff,

ac yn 2014, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, y person cyntaf i gipio’r ddwy brif wobr ryddiaith yn yr un flwyddyn.

_76785715_eist_06_seremoni_priflenor_rhyddiaith

Ac ydi, mae Lleucu wedi llwyddo i daro deuddeg eto. Mi wnes i fwynhau Yr Ynys yn arw! Nofel ‘ddyfodolaidd’ ydi hi, wedi ei gosod yn y flwyddyn 2140. Dyma’r sefyllfa yn fras: cyn i fomiau niwclear ddod yn agos at ddinistrio bywyd ar y ddaear yn 2030, aeth 49 o bobl (yn cynnwys Cymry) i guddio mewn ogof ar ynys oer, anghysbell.

image

Ynys fwyaf ynysoedd Svalbard yn yr Arctig, yn perthyn i Norwy ydi Spitsbergen – a dwi wedi bod yno – pan ro’n i’n ffilmio efo cyfres Ar y Lein! Lle anhygoel.

polar-bears-svalbard-norway

Yn ôl at y stori: ganrif yn ddiweddarach, ar ôl ffrwydriad dinistriol y Diwedd Mawr, mae cymdeithas wedi datblygu ar yr ynys, sy’n siarad Cymraeg a Norwyeg, ac sy’n cynnwys ein prif gymeriadau: Gwawr, sy’n 15, a Cai ei ffrind sy’r un oed. O, ac maen nhw’n bwyta cŵn gyda llaw…yn amlwg, does gan Lleucu ddim ci!

Mae Gwawr wrth ei bodd yn darllen dyddiaduron Mam Un, sef y ferch oedd yn un o’r 49 person lwydddodd i oroesi yn 2030. Roedd honno wedi mynd ati i nodi pob dim allai hi ei gofio am fywyd a chymdeithas – a Chymru – cyn i bopeth fynd ar chwâl.
Yn raddol, mae’r ynyswyr yn trefnu teithiau i weld be a phwy sydd ar y tir mawr, a rŵan, maen nhw’n trefnu taith yn ôl i Gymru, ac mae Cai a Gwawr yn benderfynol o fod yn rhan o’r criw.
Dwi ddim am ddeud mwy am y plot, ond mae’r llyfr yn gorffen mewn man lle byddwch chi i gyd yn ysu i weld be fydd yn digwydd yn yr ail gyfrol. O, ac mae ‘na ddarn brawychus roddodd goblyn o sioc i mi!

Dyma’r dechrau i chi gael blas:

image

A dyma adolygiad yn Barn ( ac un o fy nofel innau) a diolch, olygyddion Barn am roi cystal sylw i lyfrau plant a phobl ifanc:

image

A dyma i chi rai o eiriau doeth yr awdur ei hun:

‘Does dim i gymharu â’r dychymyg arddegol, ysfa pobl ifanc i ddianc i fyd arall, i fywydau eraill mewn oes wahanol. Dim ond cynnig egin stori mae’r awdur yn ei wneud – agor llifddorau’r dychymyg,’ meddai Lleucu Roberts. ‘Y darllenydd sy’n rhoi lliw a sain, anadl a bywyd i’r byd newydd.’

Bydd yr ail yn y ddwy drioleg yn dilyn yn Hydref 2018 ac mi fyddwn ni’n dwy yn mynd ar daith o amgylch ysgolion yn y flwyddyn newydd er mwyn trafod y nofelau.

Yn y cyfamser, mae’r ddwy ar werth am £5.99 yr un (Y Lolfa).

Clwb Llyfrau Tudur Owen

Published Mehefin 2, 2015 by gwanas

Peidiwch a phoeni – dydi’r clwb ddim wedi darfod!
images-1
Fi oedd wedi rhoi nofel fawr dew iddyn nhw ei darllen, a nofel wahanol iawn hefyd. Trafod y genre ‘gwyddonias/science fiction/ffantasi’ oedden ni ar ddiwedd y sgwrs ddiwetha’, y math o lyfrau sy’n gallu bod yn gwlt, ond ar y llaw arall, ddim at ddant pawb o bell ffordd.
Dwi’n dipyn o ffan fy hun, ac yn arch-ffan o lyfrau George R R Martin ( fo sgwennodd y gyfres ‘A Song of Fire and Ice’ sydd bellach yn gyfres deledu ‘Game of Thrones’ – welsoch chi bennod neithiwr? Waaaaw! NID AR GYFER PLANT GYDA LLAW)

images

Does na’m llawer o awduron Cymru wedi mentro i’r byd hwnnw ond mae ambell un wedi rhoi cynnig arni, felly un o’r rheiny wnes i ei chynnig i’r hogia:

Ar_Drywydd_y_Duwiau_(llyfr)

Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts.
p02chm6dMi gafodd ei chyhoeddi yn 2010, a gwerthu’n eitha da. Mi gafodd adolygiadau ffafriol hefyd. Ond dwi’n gwybod bod ambell un ( sydd ddim yn hoffi’r genre beth bynnag) ( neu sydd jest methu derbyn y math yma o beth yn Gymraeg) ddim wedi ei hoffi. Gawn ni weld be fydd barn Tudur, Gareth a Dyl Mei… (dwi’m yn meddwl y bydd Manon Rogers yn darllen hon).

Mae gynnoch chi tan y 12fed o Fehefin i’w darllen hi os ydach chi am gymharu nodiadau efo aelodau’r clwb. Mi fyddwn ni’n ei thrafod hi rhyw dro rhwng 4 a 5 y diwrnod hwnnw.