Ydach chi wedi clywed am y digwyddiad GWYCH yma fydd yn y Galeri, Caernarfon ar y 10fed o Fawrth? Mae o am ddim i blant bl 5-6 ardal Caernarfon fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2015. Mae seddi yn dechrau mynd yn brin, felly brysiwch!
Anni Llyn fydd yn arwain y sesiwn ac yn cyflwyno:
Huw Aaron, Gruffudd Antur, Aneirin Karadog
– a fi.
Dwi’m yn edrych fel yna go iawn siwr! Yr opsiwn ‘nose twirl’ ar y ‘photo booth’ dwi newydd ei ddarganfod ar fy Mac i ydi o.
Beth bynnag, os ydach chi’n un o griw bl 5 a 6 ardal Caernarfon fydd yn mynd i Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd – welai chi yno. Yn edrych yn weddol normal gobeithio.
Wps! Nid Angharad Tomos yr awdures fydd efo ni, ond Angharad Tomos arall sy’n gweithio i’r Cyngor Llyfrau… ddrwg iawn gen i am ddrysu unrhyw un!
Dim problem o gwbl! Dyw e ddim y tro gyntaf fel y gallwch chi ddychmygu! Edrych ymlaen at y Sioe yn fawr!