Aneirin Karadog

All posts tagged Aneirin Karadog

Powell, Merched Dewr a Gwlad yr Asyn

Published Ionawr 19, 2023 by gwanas

Nofel ar gyfer yr arddegau ydi Powell gan Manon Steffan Ros: hanes bachgen o’r enw Elis yn mynd am bythefnos i America i hel achau’r teulu efo’i daid. Mae o’n gwybod erioed mai ei gyndaid, “yr Ellis Powell arall” yrrodd bres adref o America i sefydlu ysbyty, ysgol gynradd ac ati yn Nhrefair. Y Powell Arms ydi enw’r dafarn leol ac mae Elis yn pasio cerflun ohono ar y ffordd i’r ysgol bob dydd. Dyn pwysig, dyn arbennig.

Mae cynnwrf Elis a’i daid yn pefrio drwy’r tudalennau, ond rydan ni’n gwybod bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, felly mae’r ofn yn llechu wrth droi pob tudalen hefyd. Na, doedd Ellis Powell mo’r arwr roedden nhw wedi ei ddisgwyl. Caethwasiaeth ydi’r cefndir, fel yn nofel Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, ond oherwydd mai rhywbeth yn y gorffennol ydi o yn Powell, y berthynas rhwng Elis a’i daid sy’n cydio fan hyn, ac mi wnes i fwynhau’r croeso a’r tensiwn maen nhw’n ei gael a’i deimlo gyda Yncl George ac Anti Hayley yn eu tŷ mawr crand ym Maryland. Felly nofel gyfoes am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd ydi hon.

Fel un gafodd ei hudo gan gyfres Roots ers talwm ( llun o’r gyfres wreiddiol isod),

ro’n i wedi disgwyl mwy am y caethweision, ond mae Manon yn hogan glyfar – doedd dim angen misoedd o waith ymchwil i sgwennu hon, nag oedd! Ac mae hi’n anghyfforddus iawn yn sgwennu fel rhywun nad oes ganddi’r ‘hawl’ i sgwennu amdanyn nhw – y busnes cultural appropriation ‘ma. Dwi’n dallt yn iawn ond dwi’m yn siwr os ydw i’n cytuno bob tro chwaith, neu be ydi diben dychymyg? I’w drafod eto…

Dwi’n hoffi’r clawr hefyd – syml, ond mae ’na lun yn rhoi cliw am y cynnwys. A dach chi’n gallu deud yn syth nad ydi hi’n mynd i fod yn nofel ffrili, lawen. Nid bod Manon yn sgwennu llawer o bethau felly! Ond mae ‘na hiwmor ynddi, dwi’n prysuro i ddeud. Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

Yndi, mae Gwil yn gymeriad a fo sy’n gyfrifol am y rhan fwya o’r hiwmor sy yn y llyfr. Wedyn dyma i chi ddarn arall sy’n digwydd yn America – a Manon â’i bys ar y pyls fel arfer:

A dyma i chi ganmoliaeth gafodd hi ar Twitter gan Vaughan:

“Waw! Wel, dwi newydd cwpla’r llyfr hwn ac mae’n bwerus iawn iawn a hyd yn oed wedi gwneud i fi grio, ychydig. Ac yn bendant yn gwneud i chi feddwl. Da iawn@ManonSteffanRos unwaith eto x”

Ac ateb gan Y Dyn Barfog: “Dwi newydd ei orffen hefyd, tua chwarter awr yn ôl. Cytuno. Pob tro mae llyfr msr yn gwneud i mi drio bod yn berson gwell.”

Waw – dwi’n gwybod yn union be maen nhw’n ei feddwl.

Dros y môr a’r mynyddoedd. Straeon Merched dewr y Celtiaid Os dach chi isio gwario mwy ar lyfr, be am £18 ar gyfer clamp o lyfr hardd, clawr caled.

Mae ’na ddarluniau hyfryd gan Elin Manon, merch o Gymru sy’n byw yng Nghernyw, a lob sgows o awduron: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

Ond pam dewis peidio rhoi enw’r awdur wrth bob stori, wn i ddim. Rhaid troi i’r cefn i weld pwy sgwennodd pa stori. Dwi ddim wedi darllen pob un gan fod ’na bymtheg ohonyn nhw, a llyfr i bori ynddo fesul tipyn ydi hwn yn fy marn i. Ond mi wnes i wir fwynhau y rhai dwi wedi eu darllen – Nia Ben Aur, y chwedl o Iwerddon gan Angharad Tomos,

Rhiannon a’r gosb o fod yn geffyl  (o’r Mabinogi) gan Myrddin a Ker Is o Lydaw gan Aneirin Karadog. Fersiwn o chwedl Cantre’r Gwaelod ydi honno. Y Gaer Isel ydi ystyr Ker Is, gwlad lle roedd y brenin yn flin am fod ei bobl mor aniolchgar ac yn gwneud dim ond gwledda a phartïo dragwyddol a phoeni am ddim ond gneud mwy o bres a bwyta ac yfed mwy a mwy.Yn ei farn o, roedden nhw wedi colli golwg ar beth oedd yn bwysig mewn bywyd. Ia, dach chi’n gweld y diwedd yn dod tydach ond efallai nid yn y ffordd fyddech chi’n ei ddisgwyl…

Mi wnes i fwynhau Llygad am Lygad gan Haf Llewelyn hefyd, am y frenhines Maebh o Iwerddon, rhywun na wyddwn i ddim oll amdani tan y llyfr hwn. Ond nefi, am gymeriad difyr. Hogan ffyrnig a deud y lleia!

Dwi’n edrych mlaen yn arw i ddarllen y gweddill.

Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant ond dwi’n gwybod am sawl oedolyn a dysgwr fyddai’n hoffi’r straeon yma.

Mi wnes i wir fwynhau Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason.

Nofel graffig i blant ydi hi, gyda’r lluniau gan ferch yr awdur, Efa Blosse Mason, ond mae’n bendant yn siwtio oedolion ac mae angen bod yn blentyn go soffistigedig i’w dallt hi’n iawn beth bynnag. Ddwedwn ni 9+? Mae angen dallt pethau fel ‘Paid â diystyru dy nerth cynhenid’ a ‘Mae angen bod yn wasaidd i fyw ymhlith pobol.’

Welais i mo’r ddrama, ac ar ôl darllen y nofel, mae’n anodd iawn ei dychmygu fel sioe un-person, ond roedd ’na ganmol mawr iddi doedd? Doedd y ddrama ddim yn addas i rai o dan 13 oed oherwydd y themàu, y rhegfeydd a’r cyfeiriadau at ryw ynddi, ond: “Unwaith rydych chi’n gwneud darlun o’r asyn, yn sydyn mae’n newid yn rhywbeth ar gyfer plant,” meddai’r awdur. Fel un sy’n mwynhau llyfrau graffig ar gyfer oedolion, dwi ddim mor siwr bod jest troi cymeriad yn ddarlun yn ei droi’n rywbeth i blant, ond mi wnes i wir fwynhau. Teimladwy, ffraeth, a chwa o awyr iach. Mae angen mwy o nofelau fel hyn, ond mi fydd yn anodd creu’r dilyniant a’r galw gan nad ydi’r traddodiad gynnon ni yma, ar wahân i gyfieithiadau Tintin ac Asterix. Gobeithio y bydd Gwlad yr Asyn yn gwerthu’n dda beth bynnag. Mae’n fargen am £12 gan fod llyfrau graffig yn gallu bod dipyn drytach na hynna.

A dyma i chi flas o’r cynnwys:

Hufen Afiach – i blant sy’n hoffi pethau afiach! A Pawen Lawen, cerddi am fyd natur.

Published Tachwedd 21, 2018 by gwanas

DoCvNvtXkAAkriM

Dwi mor falch bod rhywun wedi sgwennu llyfr Cymraeg i blant 7-11 oed sy’n llawn pethau afiach a ‘drwg’ fel pigo trwyn a gollwng gwynt. Does dim digon o lyfrau fel hyn ar gael yn Gymraeg!

Do, dwi wedi sgwennu un i blant iau efo deinosor yn cnecu/pwmpian a phŵ (Cadi a’r Deinosoriaid) ond mae Hufen Afiach (£6.99 Atebol) gan Meilyr Siôn yn mynd yn llawer pellach! Mae ‘na bethau afiach iawn IAWN yn hwn, sydd wedi bod yn fêl ar fysedd dawnus yr arlunydd Huw Aaron. Sbiwch:

20181121_142846.jpg20181121_142911.jpg

Hanes gwallgo, boncyrs bost brwydr rhwng cawr ffiaidd o’r enw Beli Bola Mawr a chriw o blant ym… gwahanol sydd yma. Dyma i chi’r dudalen gynta:

20181121_142948

A dyma lun o Beli:
20181121_142717

Mae o’n gawr wirioneddol gas, ffiaidd sy’n twyllo a deud celwydd a dwyn a bwyta pethau gwbl afiach, fel hufen ia blas siocled a winwns/nionod, sos coch a fanila ac ati – a hyd yn oed blas plant! Mae pobl Cwm Cwstard wedi cael gwared ohono unwaith, ond mae o’n ei ôl…

Ond mae Poli Peswch Pen ôl, Seimon Smwts (stwff trwyn/snot), Sali Seimllyd a Wili Silibili yn benderfynol o roi stop ar y cawr. Oes, mae ‘na enwau gwych a gwallgo yma, yn bobl ac yn bentrefi, fydd yn gwneud i blant chwerthin yn uchel.

Er, dwi’n digwydd meddwl y byddai Poli Pwmp wedi bod yn enw gwell na Poli Peswch Pen ôl, ond dydi ‘pwmp’ ddim yn air sy’n cael ei ddefnyddio ym mhobman ar gyfer gwynt o’r pen ôl mae’n debyg. Ac mi fydd rhai plant yn gorfod pendroni am eiliad neu ddwy i weithio allan be ydi peswch pen ôl, decini! Ac os nad ydach chi’n gyfarwydd â’r gair ‘decini’ – ‘I suppose’ ydi o.

Ro’n i’n arbennig o hoff o gymeriadau’r 2 wylan, Bob a Barbra, ond ddim yn siŵr os ydi’r jôc am ddyn o’r enw Cliff yn gweithio yn Gymraeg…digon hawdd fyddai cael gwylan/cawr i ddeud hynny hefyd, fyddai wedi ychwanegu at elfen od, quirky y llyfr. Ta waeth.

Roedd y disgrifadau o Sali Seimllyd druan, sydd â gwallt anhygoel o seimllyd, yn gwneud i mi deimlo’n sal! Ych a pych. Ond ro’n i’n teimlo drosti yn arw, bechod.

20181121_142811.jpg

Roedd Meilyr (sy’n frawd i nytar o’r enw Eleri Siôn gyda llaw – hiwmor yn rhedeg yn y teulu, yn amlwg) _78131778_gavin002
p05wndck
isio ymateb i’r galw am lyfrau tebyg i rai Roald Dahl a David Walliams yn Gymraeg, yn hytrach na jest cyfieithu llyfrau’r rheiny, felly da iawn fo. Roedd angen golygu fymryn bach mwy ar y llyfr yn fy marn i fel oedolyn, ond dwi’m yn meddwl y bydd plant 7-9 oed yn sylwi.

Bydd plant sy’n mwynhau darllen a chlywed am bethau afiach, budur, drewllyd, seimllyd, gwirion wrth eu boddau – yn enwedig plant y de, ond dwi’n meddwl y bydd y Gogs yn hapus hefyd. Ac mae’r lluniau yn siwtio’r ych-a-pychrwydd i’r dim!

Llyfr cwbl wahanol ydi Pawen Lawen!- casgliad o gerddi am fyd natur gan Fardd presennol Plant Cymru, Casia Wiliam, a phawb arall sydd wedi bod yn fardd plant ar ryw adeg:

pawen-lawen--2180-p

Na, dim byd i neud efo ymgyrch Pawen Lawen hynod lwyddiannus Aled Radio Cymru
p06p8pd6

Jest cyd-ddigwyddiad ydi’r ffaith bod y ddau beth wedi ymddangos tua’r un pryd am wn i? Cyd-ddigwyddiad hapus beth bynnag. Mae’r llyfr yn un bach hyfryd, bargen am £5 (Gwasg Carreg Gwalch), a dyma i chi un o gerddi Casia:

20181121_143155

Ac un gan Aneirin Karadog:

20181121_154114

A fy ffefryn, hon gan Tudur Dylan:

20181121_143322

Mae ‘na lwythi o lyfrau newydd, bywiog, GWREIDDIOL i blant Cymraeg y dyddiau yma yndoes? Ieee!

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!

Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd

Published Chwefror 17, 2015 by gwanas

Ydach chi wedi clywed am y digwyddiad GWYCH yma fydd yn y Galeri, Caernarfon ar y 10fed o Fawrth? Mae o am ddim i blant bl 5-6 ardal Caernarfon fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2015. Mae seddi yn dechrau mynd yn brin, felly brysiwch!

anni1

Anni Llyn fydd yn arwain y sesiwn ac yn cyflwyno:

Huw Aaron, Gruffudd Antur, Aneirin Karadog
Unknown-3Unknown-1Unknown

– a fi.

Photo on 17-02-2015 at 20.53

Dwi’m yn edrych fel yna go iawn siwr! Yr opsiwn ‘nose twirl’ ar y ‘photo booth’ dwi newydd ei ddarganfod ar fy Mac i ydi o.

Beth bynnag, os ydach chi’n un o griw bl 5 a 6 ardal Caernarfon fydd yn mynd i Sioe Lyfrau Fwyaf y Byd – welai chi yno. Yn edrych yn weddol normal gobeithio.