Llyfr i blant bach

All posts tagged Llyfr i blant bach

Dysgu am natur a sut i gyfri yr un pryd

Published Tachwedd 30, 2018 by gwanas

Llyfr hyfryd arall i blant bach ydi 123 Byd Natur gan Luned Aaron.

91YuBW10rVL._AC_UL320_SR314,320_

Mae’n glawr caled, yn lliwgar ac yn cyflwyno’r rhifau o 1-20.
Dyma i chi enghraifft:

20181130_112718
20181130_112731

A rhag ofn y bydd Mam a Dad yn pendroni cyn dysgu’r gair Cymraeg am rhain i’w plant:

20181130_112858

Mae na restr yn y cefn i’ch helpu:

20181130_112811

Ffiw. Ond…hm. Mi faswn i wedi licio gweld dewis o eiriau ar gyfer ambell beth, ee: mwydyn. Sori, ond pry genwair fydd o yn y gogledd am byth! Be oedd o’i le efo 18 mwydyn/pry genwair? A byddai 10 gwlithen/malwen wedi bod yn syniad hefyd.
Ond dyna fy unig gwyn – mae’n llyfr hyfryd. Ac mae oedolion sy’n ddysgwyr yn ei hoffi o hefyd! Es i â chopi i un o fy nosbarthiadau – defnyddiol iawn.

A dyma i chi syniad da gan Wasg Carreg Gwalch: Mi wnaethon nhw gynnig gwobr gwerth £100 o lyfrau Gwasg Carreg Gwalch i blant i hyrwyddo’r llyfr, a dyma chi’r enillydd: Ela o Bentrefoelas.

DtPpdpCWkAAx1fi

A dyma’r colâj greodd hi ar destun y llyfr:

DtPpfiyW0AARCsK

Llongyfarchiadau Ela! A Luned Aaron.

Advertisements

Lluniau lliw ‘Cadi dan y Dŵr’ wedi cyrraedd!

Published Ebrill 10, 2017 by gwanas

Mae’r arlunydd gwych o Bontarddulais, Janet Samuel newydd yrru’r lluniau lliw terfynol ar gyfer Cadi dan y Dŵr! ( dilyniant i Coeden Cadi) Sbiwch – dyma flas ohonyn nhw:

cadi danydwr p14-15cadi danydwr p12cadi danydwr p20cadi danydwr p16-17

cadi danydwr p22-23 .jpg

Dwi wedi gwirioni’n rhacs! Lliwiau bendigedig, a manylder hyfryd. Arhowch nes gwelwch chi’r ceffylau môr a’r pysgod pwff … ond bydd raid i chi aros am y llyfr cyfan i weld rheiny. Dim dyddiad cyhoeddi eto – ond cyn Steddfod yr Urdd yn bendant, ac mi wnai ddangos y clawr terfynol fan hyn pan ddaw o – addo.

Gyda llaw, yn y geiriadur, ‘chwyddbysgodyn’ ydi’r term Cymraeg am ‘puffer fish’ ond mi wnaeth plant Ysgol Bro Cinmeirch a finna benderfynu bod hwnnw’n air llawer rhy stiff a hirfaith. Mi wnaeth yr hogyn bach efo’r sbectol yng nghanol y llun yma o blant yn dynwared y pysgod hynny gynnig ‘pysgodyn pwff’ ac rydan ni wedi mynd am hwnnw yn y llyfr:

pysgod pwff

Dwi’n edrych ymlaen i weld y llyfr gorffenedig, bobol bach!