Myrddin ap Dafydd

All posts tagged Myrddin ap Dafydd

Powell, Merched Dewr a Gwlad yr Asyn

Published Ionawr 19, 2023 by gwanas

Nofel ar gyfer yr arddegau ydi Powell gan Manon Steffan Ros: hanes bachgen o’r enw Elis yn mynd am bythefnos i America i hel achau’r teulu efo’i daid. Mae o’n gwybod erioed mai ei gyndaid, “yr Ellis Powell arall” yrrodd bres adref o America i sefydlu ysbyty, ysgol gynradd ac ati yn Nhrefair. Y Powell Arms ydi enw’r dafarn leol ac mae Elis yn pasio cerflun ohono ar y ffordd i’r ysgol bob dydd. Dyn pwysig, dyn arbennig.

Mae cynnwrf Elis a’i daid yn pefrio drwy’r tudalennau, ond rydan ni’n gwybod bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, felly mae’r ofn yn llechu wrth droi pob tudalen hefyd. Na, doedd Ellis Powell mo’r arwr roedden nhw wedi ei ddisgwyl. Caethwasiaeth ydi’r cefndir, fel yn nofel Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, ond oherwydd mai rhywbeth yn y gorffennol ydi o yn Powell, y berthynas rhwng Elis a’i daid sy’n cydio fan hyn, ac mi wnes i fwynhau’r croeso a’r tensiwn maen nhw’n ei gael a’i deimlo gyda Yncl George ac Anti Hayley yn eu tŷ mawr crand ym Maryland. Felly nofel gyfoes am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd ydi hon.

Fel un gafodd ei hudo gan gyfres Roots ers talwm ( llun o’r gyfres wreiddiol isod),

ro’n i wedi disgwyl mwy am y caethweision, ond mae Manon yn hogan glyfar – doedd dim angen misoedd o waith ymchwil i sgwennu hon, nag oedd! Ac mae hi’n anghyfforddus iawn yn sgwennu fel rhywun nad oes ganddi’r ‘hawl’ i sgwennu amdanyn nhw – y busnes cultural appropriation ‘ma. Dwi’n dallt yn iawn ond dwi’m yn siwr os ydw i’n cytuno bob tro chwaith, neu be ydi diben dychymyg? I’w drafod eto…

Dwi’n hoffi’r clawr hefyd – syml, ond mae ’na lun yn rhoi cliw am y cynnwys. A dach chi’n gallu deud yn syth nad ydi hi’n mynd i fod yn nofel ffrili, lawen. Nid bod Manon yn sgwennu llawer o bethau felly! Ond mae ‘na hiwmor ynddi, dwi’n prysuro i ddeud. Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

Yndi, mae Gwil yn gymeriad a fo sy’n gyfrifol am y rhan fwya o’r hiwmor sy yn y llyfr. Wedyn dyma i chi ddarn arall sy’n digwydd yn America – a Manon â’i bys ar y pyls fel arfer:

A dyma i chi ganmoliaeth gafodd hi ar Twitter gan Vaughan:

“Waw! Wel, dwi newydd cwpla’r llyfr hwn ac mae’n bwerus iawn iawn a hyd yn oed wedi gwneud i fi grio, ychydig. Ac yn bendant yn gwneud i chi feddwl. Da iawn@ManonSteffanRos unwaith eto x”

Ac ateb gan Y Dyn Barfog: “Dwi newydd ei orffen hefyd, tua chwarter awr yn ôl. Cytuno. Pob tro mae llyfr msr yn gwneud i mi drio bod yn berson gwell.”

Waw – dwi’n gwybod yn union be maen nhw’n ei feddwl.

Dros y môr a’r mynyddoedd. Straeon Merched dewr y Celtiaid Os dach chi isio gwario mwy ar lyfr, be am £18 ar gyfer clamp o lyfr hardd, clawr caled.

Mae ’na ddarluniau hyfryd gan Elin Manon, merch o Gymru sy’n byw yng Nghernyw, a lob sgows o awduron: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.

Ond pam dewis peidio rhoi enw’r awdur wrth bob stori, wn i ddim. Rhaid troi i’r cefn i weld pwy sgwennodd pa stori. Dwi ddim wedi darllen pob un gan fod ’na bymtheg ohonyn nhw, a llyfr i bori ynddo fesul tipyn ydi hwn yn fy marn i. Ond mi wnes i wir fwynhau y rhai dwi wedi eu darllen – Nia Ben Aur, y chwedl o Iwerddon gan Angharad Tomos,

Rhiannon a’r gosb o fod yn geffyl  (o’r Mabinogi) gan Myrddin a Ker Is o Lydaw gan Aneirin Karadog. Fersiwn o chwedl Cantre’r Gwaelod ydi honno. Y Gaer Isel ydi ystyr Ker Is, gwlad lle roedd y brenin yn flin am fod ei bobl mor aniolchgar ac yn gwneud dim ond gwledda a phartïo dragwyddol a phoeni am ddim ond gneud mwy o bres a bwyta ac yfed mwy a mwy.Yn ei farn o, roedden nhw wedi colli golwg ar beth oedd yn bwysig mewn bywyd. Ia, dach chi’n gweld y diwedd yn dod tydach ond efallai nid yn y ffordd fyddech chi’n ei ddisgwyl…

Mi wnes i fwynhau Llygad am Lygad gan Haf Llewelyn hefyd, am y frenhines Maebh o Iwerddon, rhywun na wyddwn i ddim oll amdani tan y llyfr hwn. Ond nefi, am gymeriad difyr. Hogan ffyrnig a deud y lleia!

Dwi’n edrych mlaen yn arw i ddarllen y gweddill.

Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant ond dwi’n gwybod am sawl oedolyn a dysgwr fyddai’n hoffi’r straeon yma.

Mi wnes i wir fwynhau Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason.

Nofel graffig i blant ydi hi, gyda’r lluniau gan ferch yr awdur, Efa Blosse Mason, ond mae’n bendant yn siwtio oedolion ac mae angen bod yn blentyn go soffistigedig i’w dallt hi’n iawn beth bynnag. Ddwedwn ni 9+? Mae angen dallt pethau fel ‘Paid â diystyru dy nerth cynhenid’ a ‘Mae angen bod yn wasaidd i fyw ymhlith pobol.’

Welais i mo’r ddrama, ac ar ôl darllen y nofel, mae’n anodd iawn ei dychmygu fel sioe un-person, ond roedd ’na ganmol mawr iddi doedd? Doedd y ddrama ddim yn addas i rai o dan 13 oed oherwydd y themàu, y rhegfeydd a’r cyfeiriadau at ryw ynddi, ond: “Unwaith rydych chi’n gwneud darlun o’r asyn, yn sydyn mae’n newid yn rhywbeth ar gyfer plant,” meddai’r awdur. Fel un sy’n mwynhau llyfrau graffig ar gyfer oedolion, dwi ddim mor siwr bod jest troi cymeriad yn ddarlun yn ei droi’n rywbeth i blant, ond mi wnes i wir fwynhau. Teimladwy, ffraeth, a chwa o awyr iach. Mae angen mwy o nofelau fel hyn, ond mi fydd yn anodd creu’r dilyniant a’r galw gan nad ydi’r traddodiad gynnon ni yma, ar wahân i gyfieithiadau Tintin ac Asterix. Gobeithio y bydd Gwlad yr Asyn yn gwerthu’n dda beth bynnag. Mae’n fargen am £12 gan fod llyfrau graffig yn gallu bod dipyn drytach na hynna.

A dyma i chi flas o’r cynnwys:

Chwedlau ardal yr Eisteddfod

Published Gorffennaf 31, 2019 by gwanas

20190731_091836

Ia, map o ardal Eisteddfod Dyffryn Conwy, ond yn dangos lle mae rhai o’r chwedlau. Hyfryd! Felly os dach chi awydd mynd am dro yn ystod yr wythnos, pam ddim i rai o’r mannau hyn?

Bydd raid i chi brynu/benthyca’r llyfr wrth gwrs:

20190731_091851

Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy gan Myrddin ap Dafydd – sy’n cyhoeddi cymaint o lyfrau y dyddiau yma, dwi’n cael trafferth cadw i fyny efo fo – mae gen i bentwr o’i lyfrau i’w darllen pan gai gyfle. Ond mi wnes i bori drwy hon dros frecwast bore ma – difyr!

Mae’r arwydd ar gyfer Cadair Ifan Goch wastad wedi tynnu fy sylw a gwneud i mi feddwl pwy oedd Ifan Goch, tybed? Wel, mae’r ateb yn y stori hon:

20190731_092350

Ia, cawr oedd o, ac os dach chi isio gwybod mwy, mae’r llyfr ar gael am £6.95. Ond er cystal lluniau Lleucu Gwenllian a’r llun o gi dieflig yr olwg, dwi’n siŵr mai ci coch fel fy ngast i oedd ci Ifan go iawn!

DSC_0194

Ro’n i wedi clywed am chwedl Llyn yr Afanc yn Metws y Coed, ac mae na fersiwn fywiog iawn ohoni yma. Dyma’r dudalen olaf efo llun yr afanc wedi ei ddal, a hanes ych-a-fi Pwll Llygad yr Ych:

20190731_093257

Os fyddwch chi’n crwydro i Ysbyty Ifan a gyrru neu gerdded dros fawnogydd a rhosydd y Migneint, byddwch yn ofalus a darllenwch stori Y Telynor yn y Gors yn gyntaf. Dim syniad pam fod y llun ar ei hanner, sori, ond mi gewch ei weld yn llawn yn y llyfr…

20190731_092938

Mae’n gyfrol fydd yn boblogaidd iawn efo pobl yr ardal wrth reswm, ond dydi Myrddin ddim yn dwp, dwi’n siŵr y bydd Steddfodwyr sydd am wybod mwy am yr ardal a hanes enwau ac ati yn hapus iawn efo hi hefyd.

Os ydach chi’n gyfarwydd â stori Culhwch ac Olwen, be am ddilyn ôl troed Culhwch a phedwar o farchogion eraill y Brenin Arthur i chwilio am Dylluan Cwm Cowlyd? Iawn, bydd angen defnyddio eich dychymyg i weld y coedwigoedd a fu yno ers talwm, gan mai tir mawnog, corsiog sydd yng Nghwm Cowlyd bellach, ond mae’n werth mynd yno yr un fath, ac os welwch chi dylluan… wel!

Dyma llyfr ar gyfer plant ac oedolion – a jest y peth i’w ddarllen yn uchel yn y garafan cyn mynd i gysgu…

O, a dwi’n nabod nifer o bobl sy’n gwirioni pan fydd map mewn llyfr – mi wnaiff chwip o anrheg iddyn nhw hefyd!

Nofelau am golli/galaru a Gwobr Tir na n-Og 2018

Published Mehefin 28, 2018 by gwanas

20180609_125510

Dyma’r llyfr enillodd wobr Saesneg Tir na-nOg eleni: The Nearest Faraway Place gan Hayley Long.

Hayley-Long-web

A nefi, roedd o’n haeddu cael ei wobrwyo. Hanes 2 frawd, Griff a Dylan yn gorfod ymdopi efo trasiedi deuluol. Mae hanner y nofel yn digwydd yn yr Unol Daleithiau a’r hanner arall yn Aberystwyth ( lle bu’r awdur yn fyfyrwraig). Mae’n drist, ydi, a do, mi wnes i grio, ond mae’n ddigri a llawn gobaith hefyd. Mae’n delio gyda galar, teuluoedd, cyfeillgarwch a chariad a chydymdeimlad, a hynny mewn ffordd wahanol, eitha ‘quirky.’ Wel, mae rhai o’r cymeriadau reit wahanol a ‘quirky’, ond mi wnewch chi gymryd atyn nhw i gyd. O, ac mi fyddwch chi eisiau clywed y gerddoriaeth sy’n ran pwysig o’r stori.

Mi fedra i argymell hwn ar gyfer pobl ifanc (a hŷn) o tua 12/13 oed i fyny. Ardderchog.
(This book is wonderful, for YA, and deals with grief, loss, love, sympathy, hope etc in a compelling, multi-layered, heart-wrenching way. Excellent.)

Fel mae’n digwydd, dwi newydd ddarllen nofel arall sy’n delio efo galar: The List of Real Things gan Sarah Moore Fitzgerald o Iwerddon:

9781444014815

Mae’n hyfryd, ac yn addas ar gyfer plant (aeddfed) tua 11 oed +, ond bydd y criw ‘oedolion Ifanc’ yn ei mwynhau hefyd. Mae Gracie yn 14 oed (ac mi fyddwch chi isio ei blingo hi weithiau!) a’i chwaer fach ryfeddol yn 6 oed, ond yn gwybod a gweld cymaint mwy na’i chwaer fawr. Nofel am bwysigrwydd y dychymyg, am alar, gobaith a chyfeillgarwch. Gwych.
(A magical novel for children around 11+ and adults like me. About the imagination, grief, loss, hope and friendship. I loved it.)

Ar yr ochr Gymraeg, Mererid Hopwood ddaeth yn fuddugol yn y categori Cynradd gyda stori ‘Dosbarth Miss Prydderch a’r Carped Hud’ gan Wasg Gomer.

7231.21477.file.cym.Carped-Hud.150.230

“Mentrwch gyda Miss Prydderch a’i disgyblion o Ysgol y Garn ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma’r teitl cyntaf mewn cyfres o lyfrau am yr athrawes anghyffredin a’i hanturiaethau.” Ac mi fedra i ddeud bod y gyfres yn siŵr o brofi’n boblogaidd efo plant tua 7-9+ oed. Mae’r plot syml, hawdd ei ddeall yn ei wneud yn addas iawn i ddarllenwyr ifanc sy’n magu hyder wrth ddarllen yn annibynnol. Mae ‘na nodiadau i egluro geiriau ac idiomau anghyfarwydd ar ochr y dudalen, wedi eu hesbonio mewn ffordd fodern, hwyliog. Mi fydd y lluniau gwreiddiol, cartwnaidd o help hefyd. Y darn gorau i mi oedd yr ‘iaith’ newydd – ond bydd raid i chi ddarllen y llyfr drosoch chi’ch hun i weld be dwi’n ei feddwl!

_101821771_49e7fc69-4fa9-4e21-acb4-dc887f0f6387

Ac aeth y wobr yn y categori Uwchradd i Myrddin ap Dafydd am ‘Mae’r Lleuad yn Goch’, gan Wasg Carreg Gwalch.

7229.21475.file.cym.Lleuad-yn-Goch.150.213

“Nofel sy’n clymu’r Tân yn Llŷn yn 1936 a’r ymosodiad ar Guernica yng Ngwlad y Basg yn 1937. Mae tân yn y cartref henoed yn gorfodi Megan, sydd bellach yn nain, i ddewis un peth o’i llofft wrth i’r adeilad gael ei wagio gan y timau diogelwch. Pam mae hi wedi dewis hen faner denau goch, gwyrdd a gwyn?”

Ia, nofel hanesyddol ydi hon, un swmpus i blant a phobl ifanc – ac oedolion o ran hynny. Mae’n rhoi i ni hanes llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhen Llyn, ond mae hefyd yn dod â hanes erchyll trychineb Guernica yn fyw, ac yn rhoi darlun arbennig o bobl ryfeddol Gwlad y Basg i ni – rhywbeth sydd wedi bod yn llawer rhy brin mewn llyfrau Cymraeg – tan rwan.

Dyma lun enwog Picasso o’r hyn ddigwyddodd yno:

350px-PicassoGuernica

Allwch chi ddim peidio â gweld tebygrwydd rhwng hanes plant y Basgiaid a ffoaduriaid heddiw, felly mae’n rhoi digon i ni bendroni drosto – a dysgu ohono, gobeithio.

Ro’n i’n teimlo bod trydydd rhan y nofel yn llifo’n well na’r dechrau, a hanes y Basgiaid gydiodd yn fy niddordeb go iawn. Felly os fydd ambell blentyn yn nogio ar y dechrau – daliwch ati – mi fydd o werth o!

Ar ddiwedd y llyfr mae ‘na nodiadau difyr a dadlennol iawn hefyd.

Llongyfarchiadau Myrddin a Mererid!

A dyma un i’ch rhieni: dwi wedi bod yn yr ysbyty eto yn diweddar (clun newydd – yr ochr arall tro ma) ac mi ges fodd i fyw yn darllen Sgythia gan y diweddar Gwynn Ap Gwilym:

IMG-20180610-WA0000

Epig o nofel hanesyddol yn dilyn stori John Dafis, a fu’n rheithor ym Mallwyd, ger Dinas Mawddwy o 1604 hyd ddiwedd ei oes. Hynod ddifyr a darllenadwy – campwaith yn bendant.

Ac i’r plant iau – sbiwch be sydd ar y ffordd yn fuan!

cadi page35

Cadi a’r Deinosoriaid. Dwi wedi gwirioni efo lluniau a lliwiau Janet Samuel eto fyth. Dwi’m wedi cael y proflenni eto a dim dyddiad cyhoeddi ond dwi bron yn siŵr y bydd yn barod erbyn y Steddfod. Wwww-y! Fi sy’n teimlo fel’na – yn cynhyrfu efo pob llyfr newydd…

Cystadleuaeth Darllen Dros Gymru 2018

Published Hydref 17, 2017 by gwanas

Mae’r llyfrau wedi eu henwi ar gyfer: Cystadleuaeth Llyfrau i Ysgolion Cymru 2017–2018!

Dyma i chi’r rhai ar gyfer Rownd Sirol Blynyddoedd 3 a 4 – cliciwch ar y ddolen:

 

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._3_a_4_2017-2018

Falch o weld rhain yno! 9 allan o 10 llyfr yn rai gwreiddiol Cymraeg – da. A dau gan fam a merch, digwydd bod – Haf Llewelyn a’i merch Leusa. Y tro cynta i hynna ddigwydd, mae’n siŵr?

imageLayout 1imagegetimg20141024Straeon-Gorau-Byd9781845276164getimggetimggetimg

 

A dyma rai Blynyddoedd 5 a 6. 3 allan o 10 yn addasiadau. Ond mae ‘na lai o lyfrau gwreiddiol ar gael ar gyfer yr oedran yma, dwi’n gwybod.

Darllen_Dros_Gymru_Rownd_Sirol_Bl._5_a_6_2017-2018

Dyma luniau rhai o’r cloriau:

Cysgod_y_Darian

9781845276232_1024x1024

220px-Dirgelwch_y_Bont  Hoffi’r clawr hwn yn arw, gyda llaw.

 

image1

trysorfa_chwedlau_cymru

Ac mae maint y lluniau yn dibynnu ar faint y lluniau oedd ar gael ar y we – dim byd i neud efo fy marn i, iawn!

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion eisoes wedi cael y wybodaeth uchod, ond rhag ofn bod gan ryw ysgol awydd rhoi cynnig arni am y tro cynta erioed, cysylltwch â darllendrosgymru@llyfrau.cymru | 01970 624 151 os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Ac mae’n siwr bod awduron y llyfrau hyn yn falch o gael gwybod eu bod ar y rhestr hefyd! Sgwn i pa rai gaiff eu dewis i’w trafod, a pha rai i wneud cyflwyniad? Hmm…

Mwy o newyddion da: mae ‘na rifyn newydd o Mellten yn y siopau:

DMV8gRGXUAAfylm

Pob hwyl ar y darllen – a phob lwc i’r ysgolion!

Myrddin ap Dafydd

Published Mehefin 19, 2017 by gwanas

Myrddin ap Dafydd yw perchennog Gwasg Carreg Gwalch, cwmni sy’n cyhoeddi rhyw 50 o lyfrau y flwyddyn.

myrddin01p

Ond mae o hefyd yn fardd – yn brifardd hyd yn oed: fo enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol Cwm Rhymni 1990, a Thyddewi 2002.

_40810355_myrddin203

9781845273798_1024x1024

getimg-4

Ac os dach chi isio dysgu cynganeddu:

514G4iXPHmL._UY250_

Ac mae o wedi cyhoeddi llwythi o lyfrau o gerddi i blant, nifer ohonyn nhw yn ddarnau gosod mewn steddfodau:

51bnsKxMggL._SX371_BO1,204,203,200_

getimg-5.jpg

getimg-1getimg-10getimg-9.jpg51YKbro8iYL._SX324_BO1,204,203,200_ copy

Ond mae o hefyd yn awdur rhyddiaith. Mae o wedi sgwennu nifer o ddramâu, cyfres o lyfrau ar lên gwerin, a ffuglen i blant yn Gymraeg a Saesneg.

getimg-6.jpggetimg-7.jpggetimg-8.jpggetimg-3

51FE39Oc7KL._SX258_BO1,204,203,200_9781845275785.jpg

9781845276232_1024x1024

Mae o’n mynd o amgylch ysgolion yn gyson i siarad am ei gerddi a’i lyfrau.

C_8zqbuVYAAkM9T

A does dim syndod ei fod yn hoff iawn o lyfrau gan iddo gael ei fagu mewn siop lyfrau yn Llanrwst, a’i dad oedd yr awdur Dafydd Parri. Fo sgwennodd y gyfres hynod lwyddiannus am Y Llewod.

Felly Myrddin ydi’r nesa i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau pan oedd o’n blentyn:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
  2. a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Nofelau T Llew Jones a Thwm Siôn Cati yn arbennig, Ein Hen Hen Hanes, Jac Jamaica a nofelau Famous Five, Enid Blyton

51VKT1HC6CL._SX345_BO1,204,203,200_s-l225

9780863817779fgtdr

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Islwyn Ffowc Elis, cyfres yr ‘Hardy Boys’ a chyfres Pocomonto – nofelau am ddau dditecif ifanc a chowboi ifanc oedd y rheiny

POCA01hb011c

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n hoff iawn o nofelau Michael Morpurgo – ac rydan ni wedi cyhoeddi fersiynau Cymraeg o nifer ohonyn nhw fel Ceffyl Rhyfel, Gwrando ar y Lloer a Llygaid Mistar Neb.

Dwi’n hoff o feirdd plant fel Charles Causley, Michael Rosen a Benjamin Zephaniah.

cover

Gan fy mod i’n gweithio yn y maes, mi fydda i’n darllen llawer o lyfrau plant Cymraeg hefyd – mae Gareth F. Williams ac Angharad Tomos yn ffefrynnau, Manon Steffan Ros a Caryl Lewis hefyd.

image9

angharadtomos3540-16182-file-eng-manon-steffan-ros-281-400_90579567_llyfr_y_flwyddyn_hir_res-6_28461454775_o

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dorry Spikes – dwi wedi cael pleser mawr o gydweithio efo hi ar sawl cyfrol. Mae’n wych mewn lliw ac mewn du a gwyn, yn gweld onglau a gorwelion gwahanol, ac mae ei phobol hi’n bobol ddiddorol iawn.

b222643b641ce0ff598a35548b0564e7large_Amelias_magazine_TWWDNU_Dorry_Spikes_press_weba529bc532f5924ee0ec4e5d278d2c1dd

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Cael gwahoddiad i fynd i siarad mewn ysgol wnes i, ar ôl ennill cadair genedlaethol am gerdd oedd yn sôn am enedigaeth plentyn. Mi sylweddolais nad oedd gen i ddim i’w rannu efo nhw a dyma drio sgwennu am brofiadau roeddwn i wedi’u cael pan oeddwn i eu hoed nhw.Myrddin_ap_Dafydd

 

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Mewn rhyw ffordd, dwi’n cael ail-fyw fy mhlentyndod wrth sgwennu i blant – ac mae’n syndod be sy’n dod yn ôl i’r cof! Rhannu ydi sgwennu, ac felly mae cael ymateb yr un sy’n derbyn yn bwysig iawn. Mae’n braf iawn dal i fynd o gwmpas ysgolion a chael clywed barn y plant.

11118376933_56a2a4fe33

 

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Mae’r Lleuad yn Goch sydd newydd ei chyhoeddi. Mae hon yn rhan o gyfres sydd ganddon ni i bobol ifanc yn creu straeon gyda chefndir darnau o hanes y ganrif ddiwethaf iddyn nhw. Yn y cefndir mae hanes y Tân yn Llŷn a thref Gernika yng Ngwlad y Basg yn llosgi ar ôl cael ei bomio gan y Ffasgwyr yn 1937. Ond stori am deulu o Lŷn ydi hi – mi gawsant eu troi allan o’u fferm i wneud lle i’r Ysgol Fomio, mae’r ferch yn dod yn agos at y rhai a losgodd yr Ysgol Fomio ac mae’r mab yn llongwr ac yn cael ei hun yng nghanol peryglon helpu ffoaduriaid o Wlad y Basg.

9781845276232_1024x1024

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Mae gen i focs ar lawr y swyddfa sgwennu. Dwi wrthi’n hel pytiau am hanes y Welsh Not ar hyn o bryd a dyna fydd cefndir y nesaf.

(does a wnelo’r llun isod dim byd â’r ateb roddodd Myrddin, ond dwi’n licio’r llun – Geraint Lovgreen ydi hwnna wrth ei ochr o)

p02lbm97

Diolch, Myrddin!

 

Cynhadledd Pobl Llyfrau

Published Chwefror 10, 2017 by gwanas

Heddiw, mi ges i ddiwrnod hyfryd, difyr a llawn syniadau yng Nghynhadledd Undydd i Gyhoeddwyr a Llyfrwerthwyr  yn Llety Parc, Abersytwyth.

Ro’n i’n aelod o banel oedd yn trafod “Llyfrau i blant  a phobl ifanc – beth yw’r arlwy delfrydol?”

c4uyeivwcairoom

Siwan Rosser oedd yn cadeirio a dyma’r panel:

Myrddin ap Dafydd (Cyhoeddwr), Eirian James (Llyfrwerthwr), Bethan Gwanas (fi). Roedd  Nia Gruffydd (Llyfrgellydd yng Nghaernarfon) i fod efo ni ond roedd hi’n sal. Brysia wella, Nia.

A be oedd yr arlwy delfrydol yn ein barn ni? Mwy o lyfrau gwreiddiol i blant 8 oed +. Mae ‘na hen ddigon i blant bach yndoes? Mae angen mwy ar gyfer yr arddegau hŷn yn bendant, a dwi wedi cynnig ‘Llyfrau OI’ (oi!) (oedolion ifanc) ar gyfer llyfrau YA ( young adult). Licio fo? Ac ro’n i’n teimlo’n gryf bod angen mwy o ddynion i sgwennu ar gyfer yr oedran yna. Ers colli Gareth F, chydig iawn o ddynion sy’n sgwennu ar gyfer plant rwan. Ble maen nhw? Yn sgwennu ar gyfer y teledu?

Be am rywun fel Rhys Gwynfor?

p0358zwx

 Rhys (sy’n dod o ardal Corwen) oedd canwr Jessop a’r Sgweiri – enillwyr Cân i Gymru yn 2013 efo Mynd i Gorwen Hefo Alys. A dwi’n gwybod ei fod o’n gallu sgwennu – cofio gweld pethau sgwennodd o yn yr ysgol, a dwi’n 99% siwr mai sgwennu creadigol wnaeth o yn y coleg.
Neu Tudur Owen?
tudur-owen-the-ll-factor-ed-fringe-review
Eisoes wedi profi ei fod yn sgwennwr. Roedd ‘Y Sw’ yn ardderchog, jest y peth ar gyfer y gynulleidfa OI.
415dxae0cl-_sy344_bo1204203200_
Gawn ni fwy, plis Tudur? Gan gadw yr OIs mewn cof?
A dwi’n gwybod bod gan Geraint, neu Ger, o sioe Geth a Ger ar Radio Cymru, ddiddordeb mawr mewn llyfrau. Synnwn i daten na fyddai yntau’n gallu sgwennu llyfrau ar gyfer plant 8+ – Geth a Ger efo’i gilydd o bosib? (Ger sydd ar y dde gyda llaw)
p026v193
A dwi wedi bod yn trio perswadio Arwel Pod Roberts ( gŵr Lleucu Roberts) i sgwennu llyfrau plant ers blynyddoedd. Mae o eisoes wedi sgwennu llwyth o gerddi gwallgo bost, dramau ac ambell stori fer.
41jcgemlzfl-_sx353_bo1204203200_
Ond mae cyfieithu’n talu’n llawer, llawer gwell na sgwennu llyfrau plant, ga drapia!
Ac mae’r nofelwyr arferol, fel Dewi Prysor, Llwyd Owen ac ati wedi arfer efo cyflogau mwy y byd oedolion. Hm.
Dach chi’n gwbod be sydd ei angen? I’r Eisteddfod Genedlaethol osod rhywbeth fel ‘Nofel ar gyfer oedolion Ifanc’ neu ‘i blant 12-16 oed’ ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen neu’r Fedal Ryddiaith. Roedd hynny’n digwydd ers talwm… Gwres o’r Gorllewin gan Ifor Wyn Williams enillodd y fedal yn 1971. Ac Irma Chilton enillodd yn 1989 efo Mochyn Gwydr.
51kg27fkw8l
O, ac mi wnes i gyfarfod un o ffans pennaf Gwrach y Gwyllt heddiw – Vikki sydd wedi agor siop lyfrau Cymraeg yng Nghaerffili – Llyfrau’r Enfys. Dyma ni yn gneud stumiau gwirion.Gormod o goffi…
16602639_580813922089187_1451798243923167220_n

Nofel gan Myrddin ap Dafydd

Published Gorffennaf 24, 2016 by gwanas

Nofel Gymraeg newydd – a gwreiddiol – i blant! Diolch yn fawr Myrddin ap Dafydd. O, a phen-blwydd hapus ( glywes i o ar raglen Dewi Llwyd bore ma…).

image

Ar gwales.com mae’n deud bod y nofel hon yn addas i blant 9-11 oed, ond mae’n addas i blant fymryn hŷn hefyd yn fy marn i. Ac er mai ‘gog’ ydi’r awdur, mae’r ddeialog ynddi i gyd yn ddeheuol. Pam? Wel, am mai hanes go iawn rhywbeth ddigwyddodd yn ardal Llangyndeyrn, Cwm Gwendraeth Fach, Sir Gaerfyrddin yn 1963 sydd yma – ond ar ffurf nofel. Roedd pobl Cwm Tryweryn eisoes wedi colli eu brwydr hwy, ac roedd cynlluniau ar droed i foddi Cwm Gwendraeth Fach er mwyn i Abertawe gael mwy o ddŵr.

Os dach chi isio gwybod be ddigwyddodd – wel, darllenwch y nofel ynde!

Dyma’r dudalen gyntaf, wedi ei hadrodd o safbwynt bachgen 12 oed:

image

Iaith y de, fel y dywedais i, ac er nad ydw i’n arbenigwraig o bell ffordd, mae’n swnio’n iawn i mi. Mae ‘na lawer iawn o ddeialog ynddi, felly digon o sgôp ar gyfer actio darnau.

Ac fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan fardd, mae ‘na ddisgrifiadau hyfryd yma:

“A dyma’r clychau’n awr sy’n ein galw i’r gad. Mae’n deimlad cysegredig, fel canu emyn mewn mynwent, fel gwrando ar ddau’n dweud eu haddunedau priodas. Mae’r clychau’n canu am ein dyletswydd ni at y cwm.”

Dyma i chi fymryn mwy o’r bennod gyntaf i godi blas ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):

image

Ond os ydach chi isio gweld mwy, dim ond £5.99 ydi pris y llyfr. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn hanes ardal Cwm Gwendraeth, hanes Cymru a digwyddiadau ‘go iawn’, ac yn hoffi stori dda wedi ei dweud yn dda, yn hoffi cwningod a choed a chlywed am Gymry yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd, mi ddylech chi fwynhau hon.

Mi fydd oedolion yn ei mwynhau hi hefyd, yn enwedig pobl ardal Cwm Gwendraeth.

Nofel gyntaf Myrddin ap Dafydd, ond nid yr olaf ddywedwn i.

myrddin01p

 

 

Gwalia, Llŷr Titus

Published Ebrill 15, 2016 by gwanas

getimg

Dwi ddim yn gallu canmol digon ar hon! Un newydd yn y gyfres Strach gan Wasg Gomer, cyfres ar gyfer plant 9-11 oed yn fras (ac oedolion fel fi). A stori ffuglen-wyddonol (sci-fi) am unwaith! Ieeee!

Mae’r awdur, Llŷr Titus o Frynmawr, Llŷn, wedi profi ei fod yn un o’r bobol brin yna sy’n gallu sgwennu llyfrau yn ogystal â dramau ( mae o’n cael hwyl ar rheiny hefyd). Mae hon yn llifo fel triog melyn dros ddarn o dôst poeth; mae’r dawn deud yn hyfryd ond ddim yn tynnu gormod o sylw at ei hun. Y stori a’r cymeriadau sy’n bwysig, ac mae o wir yn dallt be sy’n bwysig mewn stori ffuglen-wyddonol.

A merch ydi’r prif gymeriad! Mae o wedi ei dallt hi… ( gweler The Hunger Games, Divergent…) Oes, mae ‘na fechgyn ynddi hefyd wrth reswm, ond Elan, sydd wedi byw ar long ofod erioed (wel, fwy neu lai), ydi’r seren.

Dyma’r broliant: “Cawn ddilyn taith Elan a’i ffrindiau ar long ofod wrth iddynt deithio o blaned i blaned. Ond tybed beth fydd yn digwydd wrth i’r llong gyrraedd planed newydd sbon? Mewn byd lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylent daw Elan ar draws cymeriadau rhyfedd iawn ar hyd y daith.”

Mae ‘na fanylion bach hyfryd yma a dychymyg wnaeth i mi chwerthin yn uchel. Mi fyddwch chi hefyd. O ddifri, rwan. Does dim rhaid i chi fod yn ffan o straeon am y gofod i hoffi hon.

Dyna pam ei bod hi ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2016 yn y categori uwchradd.

Mae Stori Cymru  gan Myrddin ap Dafydd  (Carreg Gwalch) getimg.php

a Paent!  gan Angharad Tomos (Carreg Gwalch eto)

getimg-1.php    ar yr un rhestr, a dwi’m wedi darllen rheiny eto ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw fod yn wych i guro hon – yn fy marn i.

Tipyn o gamp ydi sgwennu nofel gyntaf cystal â hon, ac mae o’n ifanc – mae o’n dal yn  fyfyriwr (ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor, felly mae ‘na obaith am lwyth o nofelau tebyg.

O, ac mae o’n gyn-aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd, felly mae hynna’n egluro lot tydi?

Diolch i Lleucu a’i mam, Nia Peris, am dynnu fy sylw at Gwalia gyda llaw – gwneud sylw ar y blog ma wnaethon nhw – a dwi’n dal i ddisgwyl dy sylwadau di amdani, Lleucu!

Llyfrau plant Gwasg Carreg Gwalch

Published Rhagfyr 4, 2015 by gwanas

Mae ’na dri llyfr da iawn o stabal Gwasg Carreg Gwalch fyddai’n gwneud anrhegion Nadolig da:

I blant 9 + ( ac oedolion sy’n  ddysgwyr Canolradd + yn fy marn i) be am hwn?

getimg-1.php

Dim Gobaith Caneri, rhagor o idiomau hwyliog i blant wedi eu casglu gan Siân Northey a Myrddin ap Dafydd. Yr ail lyfr ydi hwn ganddyn nhw – Dros Ben Llestri oedd y cynta, ac roedd o mor boblogaidd, dyma nhw’n penderfynu gwneud un arall.

 

Gewch chi wybod pethau difyr fel: o ble mae’r dywediad ‘Dim gobaith caneri’ yn dod? Dwi’m yn deud, bydd raid i chi gael copi o’r llyfr.

 

Wedyn efo idiomau eraill, fel ‘canmol i’r cymylau’ a ‘cerdded ling-di-long’ mae Sian Northey wedi sgwennu straeon bach syml i ddangos be maen nhw’n ei feddwl a sut i’w defnyddio nhw.

FullSizeRender-7

FullSizeRender-8

Ac mae Myrddin ap ( sy’n Brifardd) wedi sgwennu cwpledi bychain i fynd efo bob un. Fel hon ar gyfer ‘tynnu coes’:

 

Does dim drygioni yn y meddwl –

Dim ond jôc fach ydi’r cwbwl.

 

A be am ddyfalu pa idiom sy’n ffitio’r cwpled yma:

 

Mae’r bwyd yn edrych mor hyfryd a blasus

Nes bod fy ngheg yn diferu’n awchus!

 

Llyfr difyr a defnyddiol tu hwnt – a be am neud addewid i ddefnyddio un idiom newydd ohono bob wythnos yn 2016? Ond gan fod ’na 72 yn y llyfr, bydd raid i chi neud yn 2017 hefyd…

 

Gwasg Carreg Gwalch £5.99 Lluniau syml, digri gan Siôn Morris.

 

getimg-3

Mae ‘na ddwy stori o fewn un llyfr yn y gyfrol nesa ’ma: Pedrig y Pysgodyn Pengaled ac Arthur yn achub y Byd, gan Casia Wiliam. Mae’n rhan o gyfres sydd wedi ei hanelu at blant 6+ a dwi wedi mwynhau’r straeon yn arw. Hoffi’r lluniau gan Hannah Doyle hefyd.FullSizeRenderFullSizeRender2

Mae ’na neges werdd yn y stori am Arthur, felly jest y peth ar gyfer athrawon sydd isio gwneud gwaith thema neu brosiect ar yr amgylchedd.

A neges fach handi sydd yn stori Pedrig hefyd – be sy’n digwydd pan na fydd plant yn gwrando ar eu rhieni neu eu hathrawon!

Wel, tasech chi’n bysgodyn.

Bargen am £4.99.

 

Syniad ardderchog ydi cynnwys dwy stori o fewn un gyfrol os gai ddeud. Mi wnaethon ni hyn sbel yn ôl yng Ngwasg Gwynedd gyda Dwy Stori Hurt Bost,

getimg-1

ond roedd gen i un stori oedd yn defnyddio mwy o iaith y de ac un yn fwy o iaith y gogledd.

Adolygiad fan hyn:

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780860742593&tsid=4#top

A chafodd y llyfr fawr o sylw ar y pryd – doedd o ddim yn ran o gyfres (clyfar iawn, bobol Carreg Gwalch…) a doedd ’na neb yn blogio fel hyn ar y pryd chwaith!

A’r 3ydd llyfr o stabal Gwasg Carreg Gwalch oedd Straeon Nadolig y Plant ond dwi wedi sôn am hwnnw yn y blog dwytha yndo.

getimg.php

Addas i blant 8-12 oed yn ôl y wasg, ond mae ’na straeon fysa’n plesio rhai 6 a 7 oed hefyd – ac iau, dim ond i rywun fel rhiant neu fodryb neu daid neu rywun eu darllen yn uchel iddyn nhw.

 

Mwynhewch!

 

O ia, ac i’r oedolion – mae gen i ryw lansiad bach heno – nofel hanesyddol sydd â stori drist ynddi mae arna i ofn. Ond doedd gen i ddim dewis o ran y plot – mae’r prif elfennau yn y stori yn wir – wedi digwydd go iawn nôl yn 1833. Dwi’n falch nad o’n i’n byw yn y cyfnod hwnnw, dwi’n deud wrthach chi rwan…

getimg

 

 

 

Llyfrau i godi gwên

Published Ionawr 10, 2015 by gwanas

Y tro nesa fydda i’n mynd yno, dwi’n gobeithio clywed gan blant Ysgol Bro Cinmeirch pa lyfrau sydd wedi gwneud iddyn nhw wenu a chwerthin. Yn y cyfamser, dwi wedi bod yn pori drwy ambell un fy hun.

Unknown

Mae Llyfr Mawr y Pants allan ers 2006, ac mi brynais gopi i fy nai, Daniel ( fo ydi’r un tal efo cap yn y llun yma)
Image 21
Ond roedd o dipyn iau pan rois i’r llyfr iddo fo, ac mi fuodd o’n rhowlio chwerthin – am sbel o leia. Dydi o’m yn foi am lyfrau. Mwy o foi pêl-droed. Ond roedd o’n hoffi’r pethau gwirion sydd yn y llyfr yma gan Daniel a Mathew Glyn. Jôcs a ffeithiau am rechu, trôns ac ati – bingo.

photo

Mi blesiodd adolygydd Gwales.com hefyd, sbiwch:

Adolygiad Gwales
Sôn am chwerthin! Dyma lond trol hollol ddi-chwaeth o ffeithiau, jôcs, straeon, posau, cwisiau, awgrymiadau, a ryseitiau sy’n sicr o apelio at blant 7-12 oed (a phlant mawr hefyd). Mae’n llawn o gyfeiriadau at drôns, mynd i’r tŷ bach, rhechu, tisian – hynny yw yr union bethau mae bechgyn bach yn arbennig o hoff o greu jôcs amdanynt. Mae cartwnau Chris Glynn yn ychwanegiadau ardderchog at yr hiwmor.

Dylai bod copi o hwn ym mhob cartref a dosbarth yng Nghymru – bydd hyd yn oed y darllenwyr mwyaf anfoddog yn ysu i gael eu dwylo anarchaidd ar hwn!

Bethan Hughes

Ond barn bobol iau na ni fysa’n neis. Be dach chi’n ei feddwl o’r llyfr?

Mi fues i’n pori drwy hwn hefyd:
getimg.php

Llwyth o gerddi byr ac nid mor fyr, lloerig a gwirion ac nid mor wirion â hynny am wahanol anifeiliaid. Roedd un ohonyn nhw yn ddarn gosod llefaru yn yr Urdd sbel yn ôl – cofio ‘Os na cha i gi at y Dolig…’?

Ro’n i’n hoffi hon hefyd:

image

Mae o wedi ei anelu at blant 7-9 oed, ac mae hwn allan ers sbel hefyd: 2003. Mi wnes i fwynhau y rhan fwya o’r cerddi, ond nid pob un, rhaid cyfadde. Be amdanoch chi?

Mi fyswn i, yn bersonol, wedi hoffi cael gwybod mwy am y beirdd. Dim clem pwy ydi ambell un. A dyna sy’n braf am y gyfrol hon ar gyfer oedolion:
getimg
Mae ‘na lun a darn byr am awduron bob un o’r straeon.
photo
Rhywbeth i’w ystyried ar gyfer llyfrau eraill sydd â mwy nag un awdur? Neu efallai nad oes gan blant ddiddordeb yn yr awduron ac mai jest fi sy’n fusneslyd… neu’n hoffi cael sylw a gweld fy llun fy hun ynde…;)

Mae ‘na domen o lyfrau plant efo cerddi ynddyn nhw rwan, a dwi newydd brynu y ddau yma:getimg.php
getimg-1.php

Stwff da ynddyn nhw! A rhai fydd jest y peth ar gyfer fy nghriw i o ddysgwyr sydd isio llefaru yn Eisteddfod y Dysgwyr… nid dim ond ar gyfer plant mae’r rhain!