eloise williams

All posts tagged eloise williams

Honesty & Lies gan Eloise Williams

Published Mawrth 20, 2023 by gwanas

Os ydach chi’n mwynhau hanes ac isio gwybod mwy am gyfnod Elizabeth y 1af/Oes y Tuduriaid, mae’r nofel hon yn berffaith i chi. Os dach chi’n mwynhau stori dda, llawn tensiwn ac “O na, be fydd yn digwydd rŵan?!” a chymeriadau difyr, gwahanol, mi fyddwch chi’n ei mwynhau hi hefyd.

Mae Eloise wir yn gwybod sut i greu stori sy’n cydio yn y dychymyg. Dyma’r dudalen gynta i chi gael gweld lefel yr iaith:

Ond hogan o Gymru ydi Honesty, ac mae Eloise yn un dda am ddod â chydig o Gymraeg i mewn i’w llyfrau Saesneg, hyd yn oed os ydyn nhw wedi eu gosod yn 1601! Fel yn y darn yma, er enghraifft:

Mi wnes i fwynhau hon yn arw ac mae Honesty’n gymeriad fydd yn aros yn y cof am hir. Da iawn eto, Eloise!

The Tide Singer – nofel gan awdur o Gymru

Published Mawrth 14, 2023 by gwanas

Awdur o Lantrisant sydd bellach yn byw yn y de-orllewin ydi Eloise Williams. Mae hi’n dysgu Cymraeg ond dydi hi’m wedi mentro sgwennu llyfrau yn iaith y nefoedd eto.

Ro’n i eisoes wedi cael blas garw ar Seaglass a Gaslight

Stori ysbryd wedi ei lleoli yng ngorllewin Cymru ydi Seaglass (cynradd + ddwedwn i) a stori arswyd wedi ei lleoli yn strydoedd Caerdydd yn ystod oes Fictoria ydi Gaslight. Perffaith ar gyfer Bl 6,7 ac 8. Straeon sy’n cydio ac arddull Eloise yn taro deuddeg yn gyson.

Felly ro’n i isio darllen un arall ganddi. Barrington Stoke sydd wedi cyhoeddi hon, ac mae’n berl. Dyma sut mae’n dechrau:

Mae yma hud a lledrith, perygl a thensiwn, yr union bethau fydda i’n eu mwynhau fwya mewn llyfrau plant. Morwenna ydi’r prif gymeriad, hogan ifanc sy’n helpu ei thad i drin y meirw. Ia, morbid – ond ofnadwy o ddifyr! A sbiwch ar frawddeg ola’r dudalen gynta uchod i gael blas o’r bluen o hiwmor sy yn y nofel (Mae Eloise yn un dda am hiwmor ysgafn). Beth bynnag, un diwrnod, mae ‘na andros o storm ac un o gychod pysgota’r pentre wedi mynd ar goll. Ar adegau felly mae’r dynion i gyd, yn cynnwys tad Morwenna, yn mynd allan ar y môr i chwilio, er mor beryglus ydi hynny. Diolch byth, mae o’n dod yn ei ôl yn ddiogel – ond mae ‘na ferch ifanc ddiarth a rhyfedd ganddo fo. Pwy ydi hi? Un o’r ‘Tide Singers’ wrth gwrs, ond dyw oedolion y pentre ddim yn hoffi’r rheiny o gwbl. Pam? A be’n union ydi ‘canwr llanw’? Mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr yn bydd…

Mae o’n hyfryd o lyfr ac yn llawn negeseuon pwysig. Da iawn, iawn, Eloise.

Dwi wedi maddau iddi am sgwennu stori yn The Mab oedd yn chwarae ar eiriau yn Saesneg – ac yn andros o anodd ei gyfieithu i’r Gymraeg!

Ac os dach chi’n hoffi ei harddull hi, mae ganddi ddigon o lyfrau eraill ddylai apelio.

Honesty & Lies ydi’r un nesa i mi.

Diarhebion

Published Ebrill 14, 2018 by gwanas

image

image

Dyma i chi lyfr difyr arall gan Sian Northey a Gwasg Carreg Gwalch. Dilyniant i Dros Ben Llestri! a Dim Gobaith Caneri. 66 dihareb sydd dan sylw y tro yma, ac mae Sian wedi sgwennu stori fach sy’n eich helpu i ddeall pob un, gyda lluniau gan Siôn Morris. ee:

image

Merch o’r enw Bethan sy’n caru llyfrau… byd bach ‘de?

Hon ydi fy hoff stori i – mi wnaeth i mi chwerthin, rhaid i mi ddeud!

image

Mae rhai o’r diarhebion yn gyfarwydd, ac erail yn gwbl ddiarth i mi – ond dwi am eu defnyddio o hyn ymlaen. A dwi wedi dysgu gair newydd: goganu!

image

Dal ddim yn deall?! Yn ôl Geiriadur y Brifysgol: Dychanu, canu dychan, gwawdio, gwatwar, difrïo, difenwi, absennu.
to satirize, lampoon, mock, deride, revile, disparage, dispraise, defame. 

Dwi am ddefnyddio goganu hynny fedra i rŵan – mae’n chwip o air – a chwip o ddihareb. A chwip o lyfr defnyddiol, addysgiadol.

Da iawn unwaith eto Sian Northey! O, ac mi wnes i ei gweld hi yn y Ffair Lyfrau yn Llundain – dyma ni efo Dr Siwan Rosser (sy’n gwybod bob dim sydd i’w wybod am lyfrau plant o Gymru)

DakowMCX0AA3dV7

A dyma Siwan a minnau ac awduron eraill o Gymru (Eloise Williams a Catherine Fisher) yn barod i drafod hud a lledrith mewn llyfrau plant o Gymru:

DarXd0kWkAA5YbZ

Chwilio am glawr un o fy llyfrau i ar fy ffôn ro’n i… cyfle gwych i’w dangos i gynulleidfa gwbl newydd a wnes i’m meddwl dod â chopiau efo fi. Dyyyy. Ond mi wnes i sôn am Ramboy, fy nghyfieithiad o Pen Dafad ac mae o leia un ddynes wedi archebu copi o’r herwydd!

9780862439934

Ond mi fydd na copiau o fy llyfrau yn bendant ar gael yng Nghaerdydd ddiwedd y mis! Bellach yn ei 6ed blwyddyn, mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn para dros ddau benwythnos ym mis Ebrill ac yn cynnwys mwy na 40 o ddigwyddiadau. Ewch draw i (link: http://www.gwylllenplantcaerdydd.com) gwylllenplantcaerdydd.com i archebu’ch tocynnau heddiw!

A dyma i chi un digwyddiad:

DafDzw1W0AAfUbz

Plis dowch draw. Dowch â rhiant/nain/taid/modryb/ewyrth/brawd/chwaer efo chi!

Llyfrau i bawb, am bawb

Published Ebrill 10, 2018 by gwanas

-1

Dwi’n falch tu hwnt bod pennaeth adran lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sarah Crown, wedi cyfadde bod yna “paucity of high-quality books for children and young adults by and about people from all walks of life”.

c330aec66fa8cf000138c743ef8dfd8b--kid-books-children-books.jpg
Cyfeirio mae hi at brinder cymeriadau sydd ddim yn wyn/dosbarth canol mewn llyfrau Saesneg.

big+2

Felly mae’r Centre for Literacy in Primary Education (CLPE) yn mynd i gofnodi am y tro cyntaf erioed nifer a safon cymeriadau ethnig mewn llyfrau o’r Deyrnas Unedig. A bydd BookTrust yn archwilio faint o lyfrau plant sy’n cael eu creu gan awduron a darlunwyr croenddu.

CroppedImage680680-Catherine-Johnson-Image-web

Yn ôl fy nghyfaill, Catherine Johnson (uchod – awdures yr hyfryd ‘The Curious Tale of The Lady Caraboo’ – ac mae ei Mam yn byw yn Llanrwst)
“The books world is a massive diversity fail – here’s how we change it.”

Pam fod angen cynnwys cymeriadau o bob math a chefndir mewn llyfrau? Dyma be oedd gan Farrah Serroukh, sy’n arwain prosiect y CLPE i’w ddeud:

“Books provide a gateway to worlds beyond the reality of this one for children, and also allow them to mirror their own reality. That allows us to validate who we are, and raises our sense of self.
Children then sense that not only do they have the right to see themselves in books, but that they also have the right to occupy the literary space. They feel eligible to contribute to that space. Authors of colour talk about how they never saw themselves in books growing up – that books weren’t for them as readers, but also that they weren’t for them in terms of the ability to write.”

Go dda. Cytuno’n llwyr. Ond fel y soniodd y Cyngor Llyfrau ar Twitter heddiw:
mae angen sicrhau bod Cymry ifanc (o bob lliw a llun) yn gweld eu hunain mewn llyfrau hefyd. Rydan ni wedi cael ein gorfodi i deimlo’n israddol yn union fel pobl croenddu. Dyna pam fod cadw’r diwydiant llyfrau Cymraeg yn fyw mor ofnadwy o bwysig.

47004486-magic-wallpaper-980x380

A dyna pam wnes i ganslo rhywbeth arall er mwyn gallu mynd i Ffair Lyfrau Llundain ddydd Mercher yma. Mae awduron o Gymru wedi cael gwahoddiad i siarad yno am y tro cyntaf erioed! Mi fydda i ar banel o 5 yn trafod llyfrau sy’n delio gyda hud a lledrith a’r goruwchnaturiol mewn llyfrau o Gymru, ac yn y byd llyfrau plant a phobl ifanc yn benodol. Bydd yr awduron Eloise Williams http://www.eloisewilliams.com/
a Catherine Fisher
http://www.catherine-fisher.com/

yn sôn am eu llyfrau Saesneg i’r to iau a finnau yn sôn am fy llyfrau i ac awduron eraill fel Manon Steffan Ros, Leusa Llewelyn ayyb sy’n cynnwys hud a lledrith yn eu llyfrau, a bydd Dr Siwan Rosser yn cyfeirio at ei Harolwg Llyfrau Plant a Phobl Ifanc.



Dwi braidd yn nerfus. Sut fydd fy ngallu i siarad Saesneg yn gyhoeddus ar ôl siarad dim ond yn Gymraeg ers blynyddoedd? Ac a fydd ‘na bobl yn gwrando arnon ni? Ac a fydd fy nhrên o Fachynlleth yn cyrraedd mewn pryd?

Dyfyniad gan un o’r mawrion i orffen:

A children’s story that can only be enjoyed by children isn’t a good children’s story in the slightest.

C.S. Lewis