Addasiad o fy ngholofn yn yr Herald Gymraeg (y darn Cymraeg sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ydi hwn:

Ond ro’n i am i bawb arall ei weld hefyd, felly dyma fo:

Dwi newydd orffen darllen nofel ar gyfer yr arddegau a dwi wedi gwirioni. A chan fod llyfrau plant yn cael cyn lleied o sylw ar y cyfryngau (rhai gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg o leia) dwi’n mynd i neud yn blwmin siŵr bod hon yn cael sylw!
Gareth Evans ydi enw’r awdur – a dyma ei nofel gyntaf erioed. Un o Benparcau, Aberystwyth ydi Gareth, ac os cofia i’n iawn, mi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd pan roedd o tua 16 oed. Dwi’n digwydd cofio am ei fod o’r un oed â mi, ac mi fues i ar gwrs drama efo fo yn Harlech ryw dro yn y 1970au. Digwydd cofio hefyd ei fod o, fel fi, wedi gwirioni efo ieithoedd ond mai Almaeneg oedd ei hoff iaith dramor o. Aeth o i Fanceinion i astudio’r iaith honno (a drama) yn y Brifysgol, ac ar ôl cyfnod efo Radio Cymru ac yn sgwennu cyfres ‘Dinas’ aeth i fyw dramor am ddegawd, i Sbaen a’r Almaen.
Dyma fwy o’i hanes mewn taflen Adnabod Awdur:

Doedd gen i ddim syniad mai fo oedd awdur y nofel hon nes i mi weld ei lun yn Golwg. Mae o’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac wedi bod yn sgwennu’n dawel bach i Bobol y Cwm ers ugain mlynedd. Ond tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd ei blant yn eu harddegau, dechreuodd feddwl am sgwennu nofel ar gyfer eu hoedran nhw. Roedd o wedi sylwi nad oedd llawer o lyfrau Cymraeg ar eu cyfer nhw – a bechgyn yn enwedig, a dyna sut y dechreuodd chwarae efo’r syniad o sgwennu am Guto Byth Brân.
A dyma’r canlyniad. Chwip o nofel antur/hanes/ffantasi/chwaraeon! Yr hyn sydd wedi fy mhlesio i fwya ydi bod cymaint o waith wedi mynd i mewn iddi. Mae ’na lawer gormod o nofelau Cymraeg i blant (ac i bawb o ran hynny) yn brin o ôl chwys. Mae hon yn llawn dop o ymchwil i hanes ardal Pontypridd a Chwm Rhondda, Cwm Taf ac ati. Roedd ganddo ddau fap o gyfnod Guto Nyth Brân (y 1700au cynnar) ar y wal wrth ei gyfrifiadur tra’n sgwennu hon – un o blwy Llanwynno a’r llall o ddwyrain Morgannwg, felly mae enwau’r ffermydd a’r bryniau a hyd yn oed y caeau yn berffaith gywir ynddi.

Mae’r traddodiadau fel hel calennig, diwrnod aredig ac ati yn neidio’n fyw oddi ar y dudalen; mae o’n amlwg wedi gwneud ymchwil i mewn i’r hyn fyddai pobl yn ei fwyta a’i wisgo, heb sôn am y ffordd fydden nhw’n siarad.
Dewr iawn oedd dod â’r Wenhwyseg i mewn i nofel ar gyfer pobl ifanc heddiw, ond iechyd, mae o wedi llwyddo! Dach chi’n gweld, stori am Gethin, hogyn 13 oed o’n hoes ni heddiw ydi hi, bachgen cyffredin sy’n ceisio delio efo ysgol, bwlis, y ferch mae’n ei ffansïo, ei fam a’i ‘Gransha’ sef ei daid/dad-cu sydd ddim yn siarad Cymraeg. Ond un noson Calan Gaeaf, ac yntau wedi ei wisgo fel Hobbit, mae’n rhedeg am ei fywyd rhag y bwlis pan mae’n syrthio yn anymwybodol – ac yn deffro yn 1713. Mae pawb o’i gwmpas yn uniaith Gymraeg rŵan, ac yn siarad yn od. Yn lle ‘tad’ maen nhw’n deud ‘têd’, ‘tên’ ydi tân, ‘acor’ ydi agor ac maen nhw’n deud pethau fel ‘hi gerddws’ ac ‘fe ddringws’ yn lle ‘cerddodd’ neu ‘ddringodd’. Mae’n gweithio’n berffaith, ac ro’n i fel darllenydd yn syrthio mewn cariad efo’r iaith, yn union fel Gethin – ac fel Gareth yr awdur, yn amlwg.
Doedd Gareth ddim yn siŵr am ddefnyddio’r Wenhwyseg fel hyn, ac yn ôl yr erthygl yn Golwg ‘dwi’n dal ddim yn siŵr.’ Oedd o’n ormod i ddisgwyl i ddarllenwyr 13-15 oed ymdopi efo darllen y Wenhwyseg? Wel, yn fy marn i, nag oedd. Mae’r ddarllenwraig 55 oed yma (sydd, dwi’n cyfadde, yn dipyn o nerd ieithyddol fel Gareth) wedi mopio, o leia! Ond dwi’n 100% siŵr y bydd pobl ifanc Morgannwg yn mopio hefyd, ac mae o wedi ei wneud o mor glyfar, fydd o’n amharu dim ar fwynhad pobl ifanc (a phobl hŷn o ran hynny) o ardaloedd eraill chwaith. A phun bynnag, mae’n rhoi lliw ychwanegol i’r darnau hanesyddol.
Mae ’na elfen gref o falchder bro yn treiddio drwy’r tudalennau, a synnwn i daten na fydd yn ysgogi rhai o blant Morgannwg i ailafael yn y Wenhwyseg. Iawn, falle mod i’n ormod o ramantydd yn fanna, ond wyddoch chi byth.
Ond mae ’na fwy, llawer iawn mwy yn y nofel hon: cymeriadau cofiadwy, byw; digonedd o ddigwyddiadau cyffrous ac anturus yn y ddau gyfnod a digon o redeg a rasys (neu redegfeydd fel roedden nhw ers talwm). Difyr oedd deall bod yr awdur wedi rhedeg sawl hanner marathon ei hun, ac yn dioddef o asthma – fel Paula Radcliffe. Mae’r cyfan yn y nofel, a’r cyfan yn taro deuddeg.

Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel fel hon am ardal Pontypridd a Morgannwg. Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel am Guto Nyth Brân a’i gyfnod hefyd. Ac roedd hi’n amlwg yn hen bryd i Gareth Evans droi at ryddiaith!
Dim ond gobeithio na fydd hi’n cymryd deng mlynedd arall i Gareth sgwennu nofel arall ar gyfer pobl ifanc. Un efo rhywfaint o Almaeng neu Sbaeneg ynddi efallai – pam lai? Mae angen hybu diddordeb mewn ieithoedd tramor ymysg Cymry ifanc hefyd.
Gobeithio y caiff ‘Gethin Nyth Brân’ y derbyniad a’r clod mae hi’n ei haeddu ac y bydd pob ysgol ym Morgannwg yn prynu stoc da ohoni. A phob ysgol arall yng Nghymru o ran hynny.
Ond mi fyddai’n well gen i tasech chi’n prynu’ch copi eich hun. Dach chi’n mwynhau rhedeg? Neu nofelau ffantasi? Neu jest nofelau da yn gyffredinol – efo ôl chwys arnyn nhw? Dyma’r anrheg Nadolig perffaith felly: £5.99 Gwasg Carreg Gwalch.
Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:
