
Nofel ar gyfer yr arddegau ydi Powell gan Manon Steffan Ros: hanes bachgen o’r enw Elis yn mynd am bythefnos i America i hel achau’r teulu efo’i daid. Mae o’n gwybod erioed mai ei gyndaid, “yr Ellis Powell arall” yrrodd bres adref o America i sefydlu ysbyty, ysgol gynradd ac ati yn Nhrefair. Y Powell Arms ydi enw’r dafarn leol ac mae Elis yn pasio cerflun ohono ar y ffordd i’r ysgol bob dydd. Dyn pwysig, dyn arbennig.
Mae cynnwrf Elis a’i daid yn pefrio drwy’r tudalennau, ond rydan ni’n gwybod bod rhywbeth yn mynd i fynd o’i le, felly mae’r ofn yn llechu wrth droi pob tudalen hefyd. Na, doedd Ellis Powell mo’r arwr roedden nhw wedi ei ddisgwyl. Caethwasiaeth ydi’r cefndir, fel yn nofel Angharad Tomos, Y Castell Siwgr, ond oherwydd mai rhywbeth yn y gorffennol ydi o yn Powell, y berthynas rhwng Elis a’i daid sy’n cydio fan hyn, ac mi wnes i fwynhau’r croeso a’r tensiwn maen nhw’n ei gael a’i deimlo gyda Yncl George ac Anti Hayley yn eu tŷ mawr crand ym Maryland. Felly nofel gyfoes am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd ydi hon.
Fel un gafodd ei hudo gan gyfres Roots ers talwm ( llun o’r gyfres wreiddiol isod),

ro’n i wedi disgwyl mwy am y caethweision, ond mae Manon yn hogan glyfar – doedd dim angen misoedd o waith ymchwil i sgwennu hon, nag oedd! Ac mae hi’n anghyfforddus iawn yn sgwennu fel rhywun nad oes ganddi’r ‘hawl’ i sgwennu amdanyn nhw – y busnes cultural appropriation ‘ma. Dwi’n dallt yn iawn ond dwi’m yn siwr os ydw i’n cytuno bob tro chwaith, neu be ydi diben dychymyg? I’w drafod eto…
Dwi’n hoffi’r clawr hefyd – syml, ond mae ’na lun yn rhoi cliw am y cynnwys. A dach chi’n gallu deud yn syth nad ydi hi’n mynd i fod yn nofel ffrili, lawen. Nid bod Manon yn sgwennu llawer o bethau felly! Ond mae ‘na hiwmor ynddi, dwi’n prysuro i ddeud. Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:


Yndi, mae Gwil yn gymeriad a fo sy’n gyfrifol am y rhan fwya o’r hiwmor sy yn y llyfr. Wedyn dyma i chi ddarn arall sy’n digwydd yn America – a Manon â’i bys ar y pyls fel arfer:

A dyma i chi ganmoliaeth gafodd hi ar Twitter gan Vaughan:
“Waw! Wel, dwi newydd cwpla’r llyfr hwn ac mae’n bwerus iawn iawn a hyd yn oed wedi gwneud i fi grio, ychydig. Ac yn bendant yn gwneud i chi feddwl. Da iawn@ManonSteffanRos unwaith eto x”
Ac ateb gan Y Dyn Barfog: “Dwi newydd ei orffen hefyd, tua chwarter awr yn ôl. Cytuno. Pob tro mae llyfr msr yn gwneud i mi drio bod yn berson gwell.”
Waw – dwi’n gwybod yn union be maen nhw’n ei feddwl.
Dros y môr a’r mynyddoedd. Straeon Merched dewr y Celtiaid Os dach chi isio gwario mwy ar lyfr, be am £18 ar gyfer clamp o lyfr hardd, clawr caled.

Mae ’na ddarluniau hyfryd gan Elin Manon, merch o Gymru sy’n byw yng Nghernyw, a lob sgows o awduron: Angharad Tomos, Haf Llewelyn, Mari George, Aneirin Karadog, Myrddin ap Dafydd, Anni Llŷn a Branwen Williams.
Ond pam dewis peidio rhoi enw’r awdur wrth bob stori, wn i ddim. Rhaid troi i’r cefn i weld pwy sgwennodd pa stori. Dwi ddim wedi darllen pob un gan fod ’na bymtheg ohonyn nhw, a llyfr i bori ynddo fesul tipyn ydi hwn yn fy marn i. Ond mi wnes i wir fwynhau y rhai dwi wedi eu darllen – Nia Ben Aur, y chwedl o Iwerddon gan Angharad Tomos,

Rhiannon a’r gosb o fod yn geffyl (o’r Mabinogi) gan Myrddin a Ker Is o Lydaw gan Aneirin Karadog. Fersiwn o chwedl Cantre’r Gwaelod ydi honno. Y Gaer Isel ydi ystyr Ker Is, gwlad lle roedd y brenin yn flin am fod ei bobl mor aniolchgar ac yn gwneud dim ond gwledda a phartïo dragwyddol a phoeni am ddim ond gneud mwy o bres a bwyta ac yfed mwy a mwy.Yn ei farn o, roedden nhw wedi colli golwg ar beth oedd yn bwysig mewn bywyd. Ia, dach chi’n gweld y diwedd yn dod tydach ond efallai nid yn y ffordd fyddech chi’n ei ddisgwyl…
Mi wnes i fwynhau Llygad am Lygad gan Haf Llewelyn hefyd, am y frenhines Maebh o Iwerddon, rhywun na wyddwn i ddim oll amdani tan y llyfr hwn. Ond nefi, am gymeriad difyr. Hogan ffyrnig a deud y lleia!

Dwi’n edrych mlaen yn arw i ddarllen y gweddill.
Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant ond dwi’n gwybod am sawl oedolyn a dysgwr fyddai’n hoffi’r straeon yma.
Mi wnes i wir fwynhau Gwlad yr Asyn gan Wyn Mason.

Nofel graffig i blant ydi hi, gyda’r lluniau gan ferch yr awdur, Efa Blosse Mason, ond mae’n bendant yn siwtio oedolion ac mae angen bod yn blentyn go soffistigedig i’w dallt hi’n iawn beth bynnag. Ddwedwn ni 9+? Mae angen dallt pethau fel ‘Paid â diystyru dy nerth cynhenid’ a ‘Mae angen bod yn wasaidd i fyw ymhlith pobol.’
Welais i mo’r ddrama, ac ar ôl darllen y nofel, mae’n anodd iawn ei dychmygu fel sioe un-person, ond roedd ’na ganmol mawr iddi doedd? Doedd y ddrama ddim yn addas i rai o dan 13 oed oherwydd y themàu, y rhegfeydd a’r cyfeiriadau at ryw ynddi, ond: “Unwaith rydych chi’n gwneud darlun o’r asyn, yn sydyn mae’n newid yn rhywbeth ar gyfer plant,” meddai’r awdur. Fel un sy’n mwynhau llyfrau graffig ar gyfer oedolion, dwi ddim mor siwr bod jest troi cymeriad yn ddarlun yn ei droi’n rywbeth i blant, ond mi wnes i wir fwynhau. Teimladwy, ffraeth, a chwa o awyr iach. Mae angen mwy o nofelau fel hyn, ond mi fydd yn anodd creu’r dilyniant a’r galw gan nad ydi’r traddodiad gynnon ni yma, ar wahân i gyfieithiadau Tintin ac Asterix. Gobeithio y bydd Gwlad yr Asyn yn gwerthu’n dda beth bynnag. Mae’n fargen am £12 gan fod llyfrau graffig yn gallu bod dipyn drytach na hynna.
A dyma i chi flas o’r cynnwys:


